Budd-dal Plant ar gyfer plant sydd yn yr ysbyty, mewn gofal neu mewn llety preswyl

Efallai y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn cael eu heffeithio os bydd eich plentyn yn mynd:

  • i ofal am fwy na 8 wythnos
  • i ysbyty neu 鈥榣ety preswyl鈥� am fwy nag 12 wythnos

Telir am lety preswyl (a elwir yn 鈥榦fal preswyl鈥� o bryd i鈥檞 gilydd) gan eich cyngor lleol, fel arfer oherwydd bod gan eich plentyn anabledd meddyliol neu gorfforol. Mae鈥檔 wahanol i 鈥榦fal鈥� gan eich bod yn dal i fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am eich plentyn.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF), os bydd hyn yn digwydd. Gallwch wneud hyn:

Seibiannau yn ystod arhosiad yn yr ysbyty

Os bydd y plentyn yn mynd yn 么l i鈥檙 ysbyty o fewn 28 diwrnod o鈥檌 adael, bydd cyfanswm yr amser a dreuliodd yn yr ysbyty yn dal i gyfrif tuag at y terfyn o 12 wythnos.

Ar 么l 8 neu 12 wythnos

Fel arfer, nid oes hawl gennych i Fudd-dal Plant mwyach ar 么l y terfyn amser. Mae yna eithriadau i鈥檙 rheol hwn, er enghraifft:

  • ar gyfer plant mewn gofal 鈥� os ydynt yn treulio o leiaf 24 awr yr wythnos gartref
  • ar gyfer plant mewn ysbyty yn y DU neu lety preswyl 鈥� os ydych yn gwario arian arnynt yn rheolaidd
  • ar gyfer plant mewn ysbyty tramor 鈥� os aethant dramor dim ond i fod yn yr ysbyty a鈥檆h bod chi yn 么l yn y DU ac yn gwario arian arnynt yn rheolaidd

Dim ond os ydych yn briod neu鈥檔 bartner sifil a鈥檆h bod yn byw gyda鈥檆h gilydd y bydd arian eich partner yn cyfrif.

Gwirio gyda CThEF i ddysgu a yw eithriadau yn berthnasol i chi.

Efallai y byddwch yn gallu hawlio Budd-dal Plant eto os yw鈥檙 plentyn mewn gofal ond mae鈥檔 treulio 2 noson yn olynol bob wythnos neu 7 diwrnod neu fwy yn olynol gartref. Cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i ddysgu am yr hyn i鈥檞 wneud nesaf.