Budd-dal Plant pan fo鈥檆h plentyn yn troi鈥檔 16 oed
Bydd eich Budd-dal Plant yn dod i ben yn awtomatig ar 31 Awst ar neu ar 么l pen-blwydd eich plentyn yn 16 oed os yw鈥檔 gadael addysg neu hyfforddiant.
Anfonir llythyr atoch yn ystod blwyddyn olaf eich plentyn yn yr ysgol, gan ofyn i chi gadarnhau a yw鈥檔 aros mewn addysg neu hyfforddiant.
Bydd eich Budd-dal Plant yn parhau os ydych yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) fod eich plentyn yn aros mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy.
Dim ond y person sy鈥檔 hawlio鈥檙 Budd-dal Plant sy鈥檔 gallu rhoi gwybod i CThEF am gynlluniau ei blentyn.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Addysg gymeradwy
Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 addysg fod yn amser llawn (mwy na 12 awr bob wythnos, ar gyfartaledd, o astudio dan oruchwyliaeth neu brofiad gwaith sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 cwrs). Gall hyn gynnwys:
- Lefelau A neu debyg 鈥� er enghraifft, y Fagloriaeth Ryngwladol
- Lefelau T
- Scottish Highers
- NVQs a鈥檙 rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol hyd at lefel 3
- addysg yn y cartref 鈥� os y鈥檌 dechreuwyd naill ai cyn i鈥檆h plentyn droi鈥檔 16 oed neu ar 么l iddo droi鈥檔 16 oed os oes ganddo ddatganiad o anghenion addysgol arbennig (yn agor tudalen Saesneg)
- rhaglenni astudio yn Lloegr
- cyn-brentisiaeth
Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h plentyn gael ei dderbyn ar y cwrs cyn iddo droi鈥檔 19 oed.
Hyfforddiant cymeradwy
Dylai hyfforddiant cymeradwy fod yn ddi-d芒l a gall gynnwys y canlynol:
- yng Nghymru: Prentisiaethau Sylfaenol, Hyfforddeiaethau neu gynllun Twf Swyddi Cymru+
- yn yr Alban: rhaglen No One Left Behind
- yng Ngogledd Iwerddon: 鈥楶EACEPLUS Youth Programme 3.2鈥�, 鈥楾raining for Success鈥� neu 鈥楽kills for Life and Work鈥�
Addysg a hyfforddiant nad ydynt yn gymeradwy
Ni allwch gael Budd-dal Plant os yw鈥檆h plentyn:
- yn astudio ar gyfer gradd prifysgol neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC (鈥榗wrs uwch鈥�)
- ar brentisiaeth (oni bai mai Prentisiaeth Sylfaenol yng Nghymru ydyw)
- yn gwneud cwrs gyda chytundeb cyflogwr 鈥� er enghraifft, er mwyn cael swydd gyda鈥檙 cyflogwr hwnnw, neu er mwyn datblygu sgiliau ar gyfer swydd sydd ganddo yn barod
- yn gwneud cwrs hyfforddiant sy鈥檔 rhan o gontract swydd
Os yw鈥檆h plentyn yn aros mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i CThEF os yw鈥檆h plentyn yn aros mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein.
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi greu rhai.
Os na allwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein, gallwch gysylltu 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF dros y ff么n neu drwy鈥檙 post.
Seibiannau dros dro
Cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ynghylch seibiannau yn addysg neu hyfforddiant eich plentyn, er enghraifft os yw鈥檔 newid coleg. Efallai y cewch Fudd-dal Plant yn ystod y seibiant.
Pan fo addysg neu hyfforddiant cymeradwy yn dod i ben
Pan fo鈥檆h plentyn yn cwblhau ei addysg neu hyfforddiant cymeradwy, bydd taliadau鈥檔 dod i ben ar ddiwedd mis Chwefror, 31 Mai, 31 Awst neu 30 Tachwedd (p鈥檜n bynnag ddaw gyntaf).
Os yw eich plentyn yn gadael y cwrs cyn ei gwblhau, mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i CThEF fod eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy (yn agor tudalen Saesneg).
Gwneud cais am estyniad
Mae鈥檔 bosibl y gallech gael Budd-dal Plant am 20 wythnos (a elwir yn 鈥榚styniad鈥�) os yw鈥檆h plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy a鈥檌 fod naill ai鈥檔:
- cofrestru 芒鈥檌 wasanaeth gyrfaoedd lleol, Connexions (neu sefydliad tebyg yng Ngogledd Iwerddon, yr Undeb Ewropeaidd (yn agor tudalen Saesneg), Norwy, Gwlad yr I芒 neu Liechtenstein)
- ymuno 芒鈥檙 lluoedd arfog
Gallwch wneud un o鈥檙 canlynol:
- gwneud cais am yr estyniad ar-lein (yn agor tudalen Saesneg)
- cysylltu 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i wneud cais am yr estyniad
I fod yn gymwys, mae鈥檔 rhaid i鈥檆h plentyn fodloni鈥檙 canlynol:
- bod yn 16 neu鈥檔 17 oed
- gweithio llai na 24 awr yr wythnos
- peidio 芒 chael budd-daliadau penodol (er enghraifft Cymhorthdal Incwm)
Mae鈥檔 rhaid i chi fod wedi bod 芒 hawl i Fudd-dal Plant yn union cyn i鈥檙 plentyn adael yr addysg neu鈥檙 hyfforddiant cymeradwy a rhaid gwneud cais amdano cyn pen 3 mis ar 么l iddo adael.
Dulliau eraill o roi gwybod i ni
Cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i roi gwybod am gynlluniau neu newidiadau.