Cael help gyda chynilion os ydych ar incwm isel (Cymorth i Gynilo)

Sgipio cynnwys

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Gallwch ennill 2 fonws rhydd o dreth dros 4 blynedd. Cewch unrhyw fonysau rydych wedi鈥檜 hennill, hyd yn oed os byddwch yn tynnu arian allan.

Ar 么l eich 2 flynedd gyntaf, cewch fonws cyntaf os ydych wedi bod yn defnyddio鈥檆h cyfrif i gynilo. Bydd y bonws hwn yn 50% o鈥檙 balans uchaf rydych wedi鈥檌 gynilo.

Ar 么l 4 blynedd, cewch fonws terfynol os byddwch yn parhau i gynilo. Bydd y bonws hwn yn 50% o鈥檙 gwahaniaeth rhwng 2 swm:

  • y swm uchaf a gynilwyd yn y 2 flynedd gyntaf (blynyddoedd 1 a 2)
  • y swm uchaf a gynilwyd yn y 2 flynedd olaf (blynyddoedd 3 a 4)

Os na fydd eich balans uchaf yn cynyddu, ni fyddwch yn ennill bonws terfynol.

Y mwyaf y gallwch ei dalu i鈥檆h cyfrif bob mis calendr yw 拢50, sef 拢2,400 dros 4 blynedd. Y mwyaf y gallwch ei ennill o鈥檆h cynilion mewn 4 blynedd yw 拢1,200 mewn arian bonws.

Mae鈥檆h bonws yn cael ei dalu i鈥檆h cyfrif banc, nid i鈥檆h cyfrif Cymorth i Gynilo.

Enghraifft Rydych yn talu 拢25 i mewn bob mis calendr am 2 flynedd. Nid ydych yn tynnu unrhyw arian allan. Eich balans uchaf fydd 拢600. Eich bonws cyntaf yw 拢300, sef 50% o 拢600.

Yn ystod blynyddoedd 3 a 4, rydych yn cynilo 拢200 yn ychwanegol i dyfu鈥檆h balans uchaf o 拢600 i 拢800. Eich bonws terfynol yw 拢100, sef 50% o 拢200. Er i chi dynnu rhywfaint o arian allan ar 么l i鈥檆h balans fod yn 拢800, nid yw hyn yn effeithio ar eich bonws.

Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn tynnu arian allan

Os byddwch yn tynnu arian allan, bydd yn anoddach i chi wneud y canlynol:

  • tyfu鈥檆h balans uchaf
  • ennill y bonysau mwyaf posibl

Gallai tynnu arian allan olygu nad ydych yn gallu ennill bonws terfynol 鈥� yn dibynnu ar faint a dynnwch allan a phryd y gwnewch hynny.