Gwneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf
Cael eich trwydded yrru dros dro gyntaf am gar, beic modur, moped neu gerbyd arall wrth DVLA ar-lein. I wneud cais mae鈥檔 rhaid ichi:
- fod o leiaf 15 mlwydd a 9 mis oed
- gallu darllen pl芒t rhif o 20 metr i ffwrdd
- bod wedi cael caniat芒d i fyw ym Mhrydain Fawr (Lloegr, Cymru a鈥檙 Alban) am o leiaf 185 diwrnod
Mae鈥檔 costio 拢34 pan rydych yn gwneud cais ar-lein.
Os gwnaethoch gais am drwydded yrru dros dro cyn 1 Mawrth 1973 bydd angen ichi ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn i gael trwydded newydd.
Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mewngofnodi i wneud cais
Bydd angen ichi fewngofnodi i ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi yn barod, byddwch yn gallu eu creu.
Byddwch yn cael gwybod pan rydych yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae鈥檔 golygu defnyddio dull adnabod 芒 ffotograff fel pasbort.
Ar 么l ichi wneud cais
Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch ar 么l ichi wneud cais.
Dylai eich trwydded gyrraedd o fewn un wythnos os ydych yn gwneud cais ar-lein. Gall gymryd yn hirach os oes angen i DVLA wneud gwiriadau ychwanegol.
Faint mae鈥檔 ei gostio
Mae鈥檔 costio 拢34 i wneud cais ar-lein. Gallwch dalu drwy gerdyn debyd neu gredyd MasterCard, Visa, Electron neu Delta.
Pryd y gallwch yrru gyda thrwydded dros dro
Mae rheolau gwahanol gan ddibynnu ar eich oed a鈥檙 math o gerbyd. Gwirio pa gerbydau rydych chi鈥檔 gallu eu gyrru a phryd cyn ichi ddechrau dysgu.
Os oes gennych drwydded dros dro yn barod
Os oes gennych drwydded dros dro yn barod, gallwch:
- adnewyddu eich trwydded dros dro
- amnewid eich trwydded yrru dros dro os yw ar goll, wedi鈥檌 dwyn, ei difetha neu ei dinistrio
- ailymgeisio am eich trwydded yrru dros dro os ydych wedi cael eich gwahardd
- newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru dros dro
Gwneud cais drwy鈥檙 post
Llenwch ffurflen D1W 鈥楥ais am drwydded yrru鈥�, sydd ar gael o鈥檙 rhan fwyaf o .
Anfonwch eich cais i鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen, ynghyd 芒 siec neu archeb bost am 拢43.