Cofnodion busnes os ydych yn hunangyflogedig
Trosolwg
Mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnodion o incwm a threuliau eich busnes ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn hunangyflogedig fel:
-
unig fasnachwr
-
partner mewn partneriaeth fusnes
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Bydd angen i chi hefyd gadw cofnodion o鈥檆h incwm personol.
Os mai chi yw鈥檙 partner enwebedig (yn agor tudalen Saesneg) mewn partneriaeth, mae鈥檔 rhaid i chi hefyd gadw cofnodion ar gyfer y bartneriaeth.
Mae rheolau gwahanol ar gadw cofnodion ar gyfer cwmn茂au cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).
Cofnodi eich incwm a鈥檆h treuliau
Os ydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer eich busnes, bydd angen i chi ddewis y dyddiad y bydd eich cyfnod o gadw鈥檙 cofnodion hyn yn dechrau, a鈥檙 dyddiad y bydd y cyfnod hwn yn dod i ben 鈥� fel arfer, bydd y dyddiadau hyn yn aros yr un peth pob blwyddyn.
Efallai y bydd yn haws i chi lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth os yw鈥檙 dyddiad yn cyd-fynd 芒鈥檙 flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Mae hyn oherwydd bod Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo treth yn seiliedig ar y flwyddyn dreth. Os nad yw鈥檆h cyfrifon yn cyd-fynd 芒鈥檙 flwyddyn dreth, bydd angen i chi ddyrannu elw i 2 gyfnod cyfrifyddu gwahanol.
Os nad ydych yn paratoi cyfrifon, bydd angen i chi gofnodi eich incwm a鈥檆h treuliau ar gyfer pob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill).
Dulliau cyfrifyddu
Bydd yn rhaid i chi ddewis dull cyfrifyddu.
O flwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen, cyfrifyddu ar sail arian parod yw鈥檙 dull diofyn o gyfrifo (yn agor tudalen Saesneg). Mae鈥檔 rhaid i chi optio allan os ydych am ddefnyddio cyfrifyddu traddodiadol neu os na allwch ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod.
Cyfrifyddu ar sail arian parod
Gall y rhan fwyaf o fusnesau ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).
Gyda鈥檙 dull hwn, rydych ond yn cofnodi incwm neu dreuliau pan fyddwch yn cael arian neu鈥檔 talu bil. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi dalu Treth Incwm ar arian nad ydych eto wedi鈥檌 gael.
Enghraifft
Rydych yn cofnodi eich incwm a鈥檆h treuliau yn unol 芒鈥檙 flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Gwnaethoch anfon anfoneb at rywun ar 15 Mawrth 2024, ond ni chawsoch yr arian tan 30 Ebrill 2024. Dylech gofnodi鈥檙 incwm hwn fel petai wedi dod i law ar 30 Ebrill 2024, hynny yw, ei gofnodi ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Cyfrifyddu traddodiadol
Mae llawer o fusnesau鈥檔 defnyddio cyfrifyddu traddodiadol lle rydych yn cofnodi incwm a threuliau yn 么l y dyddiad y gwnaethoch anfon anfoneb neu a gawsoch eich bilio.
Enghraifft
Rydych yn paratoi cyfrifon hyd at 31 Mawrth pob blwyddyn. Gwnaethoch anfon anfoneb at gwsmer ar 28 Mawrth 2024. Rydych yn cofnodi鈥檙 anfoneb honno ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 鈥� hyd yn oed os na chawsoch yr arian tan y flwyddyn dreth nesaf.