Beth fyddwch yn ei gael

Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at:

  • eich incwm wythnosol i 拢227.10 os ydych yn sengl
  • eich incwm wythnosol ar y cyd i 拢346.60 os oes gennych bartner

Efallai y cewch symiau ychwanegol os oes gennych gyfrifoldebau a chostau eraill.

Mae鈥檙 ychwanegiad a symiau ychwanegol yn cael eu hadnabod fel 鈥楥redyd Gwarantedig鈥�.

Os oes gennych anabledd difrifol

Efallai y gallwch gael 拢82.90 yr wythnos yn ychwanegol os cewch unrhyw un o鈥檙 canlynol:

  • Lwfans Gweini
  • cydran gofal cyfradd ganol neu uchaf y Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA)
  • cydran bywyd bob dydd y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Taliad Anabledd Oedolion - elfen bywyd bob dydd ar y gyfradd safonol neu uwch

Os ydych yn gofalu am oedolyn arall

Gallwch gael 拢46.40 yr wythnos yn ychwanegol os:

  • rydych yn cael Lwfans Gofalwr
  • rydych yn cael Taliad Cymorth Gofalwr
  • rydych wedi cael Lwfans Gofalwr ond nid ydych yn cael eich talu oherwydd eich bod eisoes yn cael budd-dal arall sy鈥檔 talu swm uwch

Os ydych chi a鈥檆h partner wedi hawlio neu鈥檔 cael Lwfans Gofalwr, gall y ddau ohonoch gael y swm ychwanegol yma

Os ydych yn gyfrifol am blant neu bobl ifanc

Gallwch gael 拢67.42 yr wythnos yn ychwanegol ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc rydych yn gyfrifol amdano. Mae hyn yn cynyddu i 拢78.10 yr wythnos ar gyfer y plentyn cyntaf os cafodd ei eni cyn 6 Ebrill 2017.

Fel rheol rhaid i鈥檙 plentyn neu鈥檙 person ifanc fyw gyda chi a bod o dan 20 oed.

Os ydynt yn 16 oed neu鈥檔 h欧n ac o dan 20 oed, mae鈥檔 rhaid iddynt fod ar (neu wedi cael eu derbyn am):

  • hyfforddiant a gymeradwywyd, fel Prentisiaethau Sylfaenol
  • cwrs addysg nad yw鈥檔 addysg uwch (er enghraifft, maent yn astudio ar gyfer TGAU neu Safon Uwch)

Os ydynt mewn addysg, rhaid iddo fod am fwy na 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Os ydych yn cael Credydau Treth, ni allwch gael yr ychwanegiad yma o Gredyd Pensiwn am ofalu am blentyn. Ond efallai y byddwch yn gymwys i gael Credydau Treth Plant.

Os yw鈥檙 plentyn neu鈥檙 person ifanc yn anabl

Os yw鈥檙 plentyn neu鈥檙 person ifanc yn anabl, gallwch hefyd gael swm ychwanegol o naill ai:

  • 拢36.54 yr wythnos os ydynt yn cael DLA, PIP neu ADP
  • 拢114.12 yr wythnos os ydynt yn ddall neu os ydynt yn cael y gydran gofal cyfradd uchaf o DLA, neu鈥檙 gydran byw bob dydd uwch o PIP

Os oes gennych gostau tai

Gallech gael swm ychwanegol i dalu am eich costau tai, fel:

  • rhent daear os yw鈥檆h eiddo yn brydlesol
  • rhai taliadau am wasanaeth
  • taliadau am bebyll a rhenti safle

Mae鈥檙 swm y gallech ei gael yn dibynnu ar eich costau tai.

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, fe allwch hefyd fod yn gymwys ar gyfer:

Os oes gennych gynilion neu ail bensiwn

Gallech gael y rhan 鈥楥redyd Cynilo鈥� o Gredyd Pensiwn os yw dau o鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
  • gwnaethoch gynilo rhywfaint o arian ar gyfer ymddeol, er enghraifft pensiwn personol neu bensiwn y gweithle

Byddwch yn cael hyd at 拢17.30 o Gredyd Cynilo yr wythnos os ydych yn sengl. Os oes gennych bartner, byddwch yn cael hyd at 拢19.36 yr wythnos.

Efallai y byddwch yn dal i gael rhywfaint o Gredyd Cynilo hyd yn oed os na chewch y rhan Credyd Gwarantedig o鈥檙 Credyd Pensiwn.

Cymorth arall os ydych yn cael Credyd Pensiwn

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, byddwch yn cael taliadau tywydd oer yn awtomatig.

Byddwch hefyd yn gymwys i:

Gall costau GIG gynnwys pethau fel presgripsiynau, triniaeth ddeintyddol, sbectol a chostau cludiant ar gyfer apwyntiadau ysbyty.

Darganfyddwch faint y gallwch ei gael

Defnyddiwch y gyfrifiannell Credyd Pensiwn i weithio allan faint y gallwch ei gael.

Efallai y gallwch ddefnyddio鈥檙 gyfrifiannell Credyd Pensiwn i wirio eich cymhwysedd a chael amcangyfrifiad o faint gallwch chi ei gael.

Llinell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn
Ff么n: 0800 99 1234
Ff么n testun: 0800 169 0133
(os na allwch glywed neu siarad dros y ff么n): 18001 yna 0800 99 1234
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur 鈥� darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau

Sut rydych yn cael eich talu

Fel arfer, telir yr holl fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau i gyfrif, er enghraifft cyfrif banc.