Cael gwybodaeth am y cyflogai

Bydd angen i chi gael gwybodaeth benodol gen eich cyflogai fel y gallwch sefydlu鈥檙 cod treth cywir a鈥檙 datganiad cyflogai newydd sy鈥檔 cychwyn ar ei gyfer, ar eich meddalwedd gyflogres.

Fel arfer, byddwch yn cael y rhan fwyaf o鈥檙 wybodaeth hon o P45 eich cyflogai, ond bydd angen iddo lenwi 鈥�rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy鈥檔 cychwyn鈥� (sydd wedi cymryd lle ffurflen P46) os nad oes ganddo P45 diweddar.

Bydd angen y manylion canlynol arnoch:

  • dyddiad geni鈥檙 cyflogai
  • rhywedd y cyflogai
  • cyfeiriad llawn y cyflogai
  • dyddiad dechrau鈥檙 cyflogai

Bydd angen y manylion canlynol arnoch o P45 y cyflogai:

  • enw llawn y cyflogai
  • dyddiad y gadawodd y cyflogai ei swydd ddiwethaf
  • cyfanswm y cyflog a鈥檙 dreth a dalwyd hyd yn hyn ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
  • statws y cyflogai o ran didyniadau benthyciad myfyriwr
  • rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai
  • cod treth presennol y cyflogai

Mae鈥檔 rhaid i chi gadw鈥檙 wybodaeth hon yn eich cofnodion cyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a鈥檙 3 blwyddyn dreth sy鈥檔 dilyn.

Os nad oes gan eich cyflogai P45

Gofynnwch i鈥檆h cyflogai gwblhau 鈥榬hestr wirio ar gyfer cyflogeion鈥� os nad oes gennych eu P45, neu os ydynt wedi gadael eu swydd olaf cyn 6 Ebrill 2024.

Os oes gan eich cyflogai fwy nag un P45

Dylech ddefnyddio鈥檙 P45 gyda鈥檙 dyddiad diweddaraf a rhoi鈥檙 llall yn 么l i鈥檙 cyflogai.

Os oes gan y ddwy ffurflen yr un dyddiad gadael, defnyddiwch y P45 gyda鈥檙 lwfans rhydd o dreth uchaf (neu鈥檙 lleiaf o d芒l ychwanegol ar gyfer cod K) a rhoi鈥檙 llall yn 么l i鈥檙 cyflogai.

Cyfrifo cod treth eich cyflogai

Pan fydd gennych yr wybodaeth am eich cyflogai, gallwch ddefnyddio offeryn er mwyn:

  • cyfrifo鈥檌 god treth a鈥檌 ddatganiad ar gyfer cyflogeion newydd sy鈥檔 cychwyn

  • dysgu beth arall i鈥檞 wneud cyn talu鈥檆h cyflogai am y tro cyntaf

Cyfrifo cod treth eich cyflogai

Cyflogeion y byddwch yn eu talu unwaith yn unig a secondiadau o dramor

Mae yna ffordd wahanol i gyfrifo codau treth ar gyfer cyflogeion y byddwch yn eu talu unwaith yn unig neu sydd wedi鈥檜 secondio o dramor (yn agor tudalen Saesneg).