Cyfrif gyrwyr a cherbydau: mewngofnodi neu sefydlu
Defnyddiwch eich cyfrif i wirio eich manylion a gedwir gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Gallwch:
-
weld eich cofnod gyrru, er enghraifft cerbydau y gallwch eu gyrru
-
gwirio eich pwyntiau cosb neu waharddiadau
-
ychwanegu a gweld manylion eich cerbydau - gan gynnwys pan fydd yr MOT yn dod i ben
-
gwirio鈥檙 cyfraddau treth ar gyfer eich cerbydau
-
sefydlu nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy e-bost a neges destun - os ydych yn talu treth bob 6 neu 12 mis
-
dewis rhoi鈥檙 gorau i gael nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy鈥檙 post
-
adnewyddu eich trwydded yrru cerdyn-llun
-
gweld ffotograff o鈥檆h trwydded yrru (bydd arnoch angen trwydded yrru ffotograff dilys)
-
creu 鈥榗od gwirio鈥� trwydded i rannu eich cofnod gyrru gyda rhywun, er enghraifft cwmni llogi car
-
gweld gwybodaeth eich Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gyrwyr (CPC) a thacograff, os oes gennych rhain
Pwy all ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn
I ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn mae鈥檔 rhaid ichi gael un o鈥檙 canlynol:
- trwydded yrru a gyhoeddwyd yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 Alban
- llyfr log cerbyd (V5CW) yn eich enw
Ni allwch sefydlu nodiadau atgoffa treth cerbyd os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol.
Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mewngofnodi neu greu cyfrif
Bydd angen ichi fewngofnodi i ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi yn barod, byddwch yn gallu eu creu.
Byddwch yn cael gwybod pan rydych yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae鈥檔 golygu defnyddio dull adnabod 芒 ffotograff fel pasbort neu drwydded yrru.
Ar 么l ichi greu cyfrif
Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch pan fyddwch wedi creu eich cyfrif.
Ffyrdd eraill o wirio manylion gyrru neu gerbyd
Gallwch wneud y canlynol heb greu cyfrif:
Cael nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy鈥檙 post
Os ydych yn talu am eich treth cerbyd bob 6 neu 12 mis, efallai y cewch nodyn atgoffa hefyd i drethu鈥檆h cerbyd (llythyr V11W) drwy鈥檙 post.
Gallwch ddewis peidio 芒 chael nodiadau atgoffa papur pan fyddwch yn sefydlu nodiadau atgoffa digidol yn eich cyfrif.