Dod 芒 nwyddau i mewn i鈥檙 DU at ddefnydd personol
Nwyddau wedi鈥檜 gwahardd a nwyddau o dan gyfyngiadau
Mae rhai nwyddau na allwch ddod 芒 nhw i mewn i鈥檙 DU (yn agor tudalen Saesneg) - byddant yn cael eu hatafaelu gan y tollau (yn agor tudalen Saesneg).
Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:
- cyffuriau rheoledig
- arfau ymosodol, er enghraifft cyllyll clec
- chwistrellau hunanamddiffyn, er enghraifft chwistrell pupur a nwy CS
- anifeiliaid a rhywogaethau planhigion sydd mewn perygl
- diemyntau bras
- deunyddiau anweddus a masweddus, fel llyfrau, cylchgronau, ffilmiau a DVDau
- mewnforion personol o gynnyrch cig a llaeth o鈥檙 mwyafrif o wledydd y tu allan i鈥檙 UE
Eitemau o dan gyfyngiadau
Mae rhai nwyddau o dan gyfyngiadau - fel arfau tanio, ffrwydron a bwledi. Mae angen trwydded arbennig arnoch i ddod 芒 nhw i mewn i鈥檙 DU.
Mae rhai cynnyrch bwyd a phlanhigion (yn agor tudalen Saesneg) hefyd o dan gyfyngiadau os:
- nad ydynt yn rhydd o bl芒u a chlefydau
- nad ydynt at eich defnydd eich hun
- na chawsant eu tyfu yn yr UE
Os dewch 芒 nwyddau yr amheuir eu bod yn torri hawliau eiddo deallusol (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft cop茂au lladradol o ffilmiau neu gerddoriaeth) gellir eu hatafaelu a gallech gael eich erlyn.
Gwirio a oes angen trwydded CITES arnoch
Bydd yn rhaid i chi wneud cais am drwydded neu dystysgrif os ydych yn dod ag eitemau wedi鈥檜 gwarchod gan y Confensiwn ar gyfer Masnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt sydd mewn Perygl (CITES) i鈥檙 DU.
Mae hyn yn cynnwys rhai bwydydd a chynnyrch harddwch, nwyddau lledr egsotig, ffwr, offerynnau cerdd pren, hen drugareddau twristaidd a rhai meddyginiaethau.
Gwiriwch os oes angen trwydded CITES arnoch (yn agor tudalen Saesneg).
Darllenwch arweiniad manylach ar y ffurflenni y bydd yn rhaid i chi eu cwblhau (yn agor tudalen Saesneg) a pha borthladdoedd neu feysydd awyr y bydd yn rhaid i chi eu cyrraedd (yn agor tudalen Saesneg).