Elusennau a threth
Talu treth
Os oes gan eich elusen incwm nad yw鈥檔 gymwys ar gyfer rhyddhad treth, mae鈥檔 rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth.
Os nad oes gennych dreth i鈥檞 thalu, llenwch Ffurflen Dreth dim ond os yw Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gofyn i chi wneud hynny.
Os yw incwm eich elusen dros 拢10,000, mae鈥檔 rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth flynyddol i鈥檙 Comisiwn Elusennau (yn Saesneg).
Ffurflenni Treth y Cwmni
Llenwch Ffurflen Dreth y Cwmni (yn Saesneg) os yw鈥檆h elusen yn gwmni cyfyngedig neu鈥檔 gymdeithas anghorfforedig (yn Saesneg). Sicrhewch eich bod yn cynnwys y tudalennau atodol ar gyfer elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau).
Mae elusen yn gwmni cyfyngedig os cafodd ei sefydlu drwy鈥檙 canlynol:
- cyfansoddiad
- memorandwm ac erthyglau cymdeithasu (yn Saesneg)
- siarter frenhinol neu Ddeddf Seneddol
Mae鈥檔 rhaid i gwmn茂au cyfyngedig hefyd anfon cyfrifon blynyddol (yn Saesneg) i D欧鈥檙 Cwmn茂au.
Ymddiriedolaethau
Llenwch Ffurflen Dreth Hunanasesiad Ymddiriedolaeth ac Yst芒d os yw鈥檆h elusen yn ymddiriedolaeth. Mae elusen yn ymddiriedolaeth os cafodd ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys.
Cosbau a dyddiadau cau
Mae鈥檔 rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth pan fydd CThEF yn gofyn i chi wneud hynny, hyd yn oed os nad oes treth yn ddyledus.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os yw鈥檆h Ffurflen Dreth yn hwyr neu os nad ydych yn llenwi un pan ddylech.
Mae鈥檙 dyddiad cau yn dibynnu a ydych yn llenwi Ffurflen Dreth y Cwmni (yn Saesneg) neu Ffurflen Dreth Hunanasesiad.