Casgliad

Gwiriad hunaniaeth yn Nhŷ'r Cwmnïau

Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau a chyfarwyddyd ar gyfer Darparwyr Gwasanaethau Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA), a elwir hefyd yn asiantau awdurdodedig Tŷ'r Cwmnïau.

Gwiriad hunaniaeth

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cyflwyno proses gwiriad hunaniaeth newydd i helpu i atal y rhai sy’n dymuno defnyddio cwmnïau at ddibenion anghyfreithlon.  �

Bydd angen i unrhyw un sy’n sefydlu, sy’n rhedeg, yn berchen neu’n rheoli cwmni yn y DU wirio eu hunaniaeth i brofi mai nhw yw pwy maen nhw’n honni eu bod.

Darparwyr Gwasanaethau Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA)

Mae cofrestru fel Darparwr Gwasanaethau Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA) yn ofyniad newydd a fydd yn ein helpu i wybod pwy sy’n ffeilio gwybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus. Gelwir DGCA hefyd yn asiantau awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau. 

Gall asiant awdurdodedig fod yn fusnes (er enghraifft, cwmni cyfyngedig neu bartneriaeth), neu berson sy’n ffeilio ar ran eraill (unig fasnachwr).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2025