Cynhaliaeth Plant: Gwella casglu a throsglwyddo taliadau (Crynodeb Gweithredol)
Updated 31 July 2024
1. Rhagair y Gweinidog鈥€�
Mae Cynhaliaeth plant yn darparu gwasanaeth hanfodol ar gyfer teuluoedd sydd wedi gwahanu, ac mae wedi鈥檌 wreiddio yn yr egwyddor sylfaenol bod gan rieni gyfrifoldeb i gynnal eu plant.聽
Trwy drefniadau preifat (teuluol) a threfniadau Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS), amcangyfrifir bod rhieni sy鈥檔 cael cynhaliaeth mewn teuluoedd sydd wedi gwahanu wedi cael 拢2.8 biliwn y flwyddyn mewn taliadau cynhaliaeth plant rhwng 2021 a 2023. Mae鈥檙 taliadau hyn yn cadw tua 160,000 o blant allan o dlodi bob blwyddyn.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwneud amrywiaeth o welliannau pwysig i鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i sicrhau bod plant yn cael y taliadau cynhaliaeth sydd eu hangen arnynt.
Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno rheoliadau i ddileu鈥檙 ffi gwneud cais o 拢20 fel nad yw鈥檙 teuluoedd tlotaf yn cael eu hatal rhag defnyddio鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i鈥檙 ymgynghoriad ar orchmynion atebolrwydd gweinyddol i weithredu鈥檙 mesurau a gyflwynwyd yn Neddf Cynnal Plant (Gorfodi) 2023, a fydd yn trawsnewid y ffordd y mae鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn defnyddio ei gamau gorfodi llymach yn erbyn rhieni nad ydynt yn cydymffurfio鈥檔 barhaus. Nod hyn oll yw sicrhau bod mwy o blant, yn enwedig y rhai sydd 芒鈥檙 angen mwyaf, yn cael mwy o gynhaliaeth ac yn cael dechrau gwell mewn bywyd o ganlyniad.
Ond mae mwy i鈥檞 wneud. Mae llawer o rieni yn dewis gwneud eu trefniadau teuluol eu hunain heb gymorth y wladwriaeth, a chredaf mai dyma鈥檙 canlyniad gorau o hyd i deuluoedd a phlant felly rwyf am sicrhau bod y system yn gwneud popeth o fewn ei gallu i annog rhieni i wneud, a chynnal, y trefniadau hyn. I鈥檙 rhai na allant wneud eu trefniant eu hunain, rhaid i鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant barhau i fod yn rhwyd 鈥嬧€嬧€嬧€媎diogelwch.
Cyflwynwyd y gwasanaeth Talu Uniongyrchol i annog rhieni i gydweithio, a lleihau鈥檙 ddibyniaeth ar y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, lle gallai rhieni reoli鈥檙 taliadau eu hunain. Er bod yna trefniadau Talu Uniongyrchol sy鈥檔 gweithio鈥檔 dda, mae tystiolaeth yn dangos nad yw llawer o drefniadau Talu Uniongyrchol yn gweithio fel y bwriadwyd. Rwyf am fynd i鈥檙 afael 芒 hyn i sicrhau ein bod yn cael cynhaliaeth i blant mor gyflym ac mor effeithlon 芒 phosibl ac i annog y rhieni hynny sy鈥檔 gallu gwneud eu trefniadau teuluol eu hunain.
Mae cam-drin domestig yn fater arbennig o ddifrifol. Cefnogodd y llywodraeth y Ddeddf Casglu Cynnal Plant (Cam-drin Domestig) a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin 2023. Daeth y Ddeddf 芒 newidiadau deddfwriaethol ymlaen i ganiat谩u i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig osgoi cyswllt pellach 芒鈥檜 camdriniwr trwy fynediad cyflymach at y gwasanaeth Casglu a Thalu. Roedd hwn yn un o鈥檙 argymhellion o adolygiad annibynnol Dr Samantha Callan o sut mae鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yr oeddwn yn falch o鈥檌 gyhoeddi y llynedd.
Roedd y Ddeddf yn cydnabod efallai na fyddai Talu Uniongyrchol bob amser yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn briodol. Mae brwydro yn erbyn cam-drin domestig yn hanfodol, ac yn rhywbeth rwy鈥檔 teimlo鈥檔 angerddol yn ei gylch. Er bod y Ddeddf honno yn un cam i sicrhau鈥檙 amcan hwn, mae鈥檔 parhau i fod yn faes cymhleth ac rydym wedi edrych yn feirniadol ar y gwasanaeth Talu Uniongyrchol ac yn cydnabod bod materion sylfaenol ehangach gyda Thalu Uniongyrchol y mae angen mynd i鈥檙 afael 芒 hwy.
Rwy鈥檔 teimlo鈥檔 gryf iawn bod yn rhaid i ni ddarparu gwasanaeth mwy hygyrch a haws ei ddefnyddio i bob rhiant sy鈥檔 defnyddio鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Drwy鈥檙 ymgynghoriad, rwyf am sicrhau bod y llywodraeth yn deall barn y cyhoedd ar newidiadau posibl i鈥檙 ffordd y mae鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn casglu ac yn trosglwyddo taliadau cynhaliaeth, gan gynnwys dileu鈥檙 gwasanaeth Talu Uniongyrchol. Rwyf hefyd am ddefnyddio鈥檙 cyfle hwn i ystyried sut y gellir gwella鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant er mwyn annog rhieni鈥檔 well i wneud eu trefniadau eu hunain a gwella ein cefnogaeth i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig.
2. Crynodeb Gweithredol
Mae鈥檙 llywodraeth yn credu bod y mwyafrif o rieni eisiau gwneud y peth iawn a chefnogi eu plant.
Lle maent yn briodol, dylai trefniadau cynhaliaeth a wneir yn breifat, heb ymyrraeth y wladwriaeth, fod y dewis diofyn ar gyfer teuluoedd sydd wedi gwahanu. Gall y trefniadau hyn gael eu nodweddu gan berthynas mwy cyfeillgar rhwng rhieni na鈥檙 rhai sydd 芒 threfniant statudol neu ddim trefniant. Lle nad yw鈥檙 trefniadau hyn yn bosibl, h.y., lle na all rhieni gytuno, mae angen gwasanaeth cynhaliaeth statudol effeithlon ac effeithiol o hyd.
Gyda鈥檙 gefnogaeth gywir, mae鈥檙 llywodraeth yn credu y bydd mwy o rieni yn gallu gwneud eu trefniadau eu hunain. Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ba gymorth pellach y gallwn ei ddarparu i rieni sydd wedi gwahanu i鈥檞 helpu i wneud trefniadau teuluol. Mae hyn yn cynnwys cynnig ar gyfer cyfeirio鈥檔 well at offer datrys gwrthdaro ac offer cyfrifo gwell.
Ar gyfer cwsmeriaid o fewn y gwasanaeth statudol, mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn nodi sut y gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wella鈥檙 broses o gasglu a throsglwyddo taliadau cynhaliaeth i sicrhau canlyniadau gwell i blant a bod rhieni鈥檔 cael eu cefnogi鈥檔 briodol wrth ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth.
Mae hyn yn cynnwys cynnig i ddileu鈥檙 gwasanaeth Talu Uniongyrchol a rheoli pob achos Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant o fewn un gwasanaeth symlach. Mae tri phrif faes sy鈥檔 peri pryder gyda Thalu Uniongyrchol y mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn ceisio mynd i鈥檙 afael 芒 hwy: i ba raddau nad yw wedi annog rhieni i symud i drefniadau teuluol; diffyg cydymffurfio cudd gyda thaliadau cynhaliaeth; a sut mae鈥檔 cefnogi dioddefwyr a goroeswyr domestig. Dylai symud i un gwasanaeth symlach ganiat谩u i鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant fynd i鈥檙 afael 芒 diffyg cydymffurfio yn gyflymach a, lle bo angen, cymryd camau gorfodi yn gyflymach.
Rydym hefyd yn ceisio barn ar strwythur ffioedd newydd i annog yr ymddygiadau cywir yn well. Byddai hyn yn golygu ffi weinyddol fach o 2% yn y gwasanaeth symlach sengl ar gyfer rhieni sy鈥檔 cael cynhaliaeth a rhieni sy鈥檔 talu cynhaliaeth sy鈥檔 cydymffurfio, ond cadw鈥檙 ffi uwch o 20% ar gyfer rhieni sy鈥檔 talu cynahliaeth nad ydynt yn cydymffurfio i sicrhau bod ataliad cryf i osgoi talu.
Ochr yn ochr 芒鈥檙 cynigion hyn, mae鈥檙 llywodraeth am fynd ymhellach ac adeiladu ar yr adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Dr Callan i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig yn well ac felly mae鈥檙 ymgynghoriad hwn hefyd yn ceisio barn ar sut y gallwn gefnogi鈥檙 gr诺p hwn yn well.
Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn gam cadarnhaol tuag at greu Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gwell sy鈥檔 cefnogi, yn amddiffyn ymhellach ac yn gwella bywydau teuluoedd a phlant sydd wedi鈥檜 gwahanu ledled Prydain Fawr.