Consultation outcome

Summary of responses (Welsh version)

Updated 8 November 2021

Rhagair

Rhagymadrodd

Cynhaliodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar y cyd rhwng 12/07/2021 a 09/08/2021 er mwyn casglu barn y diwydiant ar ddiwygiadau arfaethedig i Reoliad (EC) 543/2008, Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011, Rheoliadau Cig Dofednod (Lloegr) 2011 a Rheoliadau Cig Dofednod (Yr Alban) 2011.

Mae鈥檙 adroddiad hwn yn grynodeb o ganlyniadau鈥檙 arolwg ymgynghori a鈥檙 prif them芒u a nodwyd yn yr adborth ysgrifenedig.

Cafwyd cyfanswm o wyth ymateb i鈥檙 ymgynghoriad gan un unigolyn a busnesau ar draws y gadwyn gyflenwi. Ar draws yr wyth ymatebydd, cynrychiolwyd sefydliadau yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban yn yr ymatebion.

Dyma鈥檙 sefydliadau a ymatebodd i鈥檙 ymgynghoriad hwn:

  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru a Lloegr
  • NFU Cymru
  • Lakeside Food Group
  • Stara Foods (UK Ltd)
  • Y Gymdeithas Masnach Cig Ryngwladol
  • Awdurdod Iechyd Porthladd Llundain
  • Cyngor Dofednod Prydain

Yr ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad

Ein cwestiwn ni: Oeddech chi neu鈥檆h sefydliad yn ymwybodol o鈥檙 safonau marchnata a nodir yn Rheoliad (EC) 543/2008 ac a orfodir gan Reoliadau Cig Dofednod (Lloegr) 2011, Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011, Rheoliadau Cig Dofednod (Yr Alban) 2011?

Atebodd pob ymatebydd eu bod yn ymwybodol o鈥檙 safonau marchnata a nodwyd yn y ddeddfwriaeth.

Ein cwestiwn ni: Fyddech chi ar eich ennill o gael canllaw ynghylch cydymffurfio cyn i鈥檙 dull newydd o wneud gwiriadau ar safonau marchnata cig dofednod gael ei gyflwyno?

Atebodd pob ymatebydd yr hoffen nhw gael canllawiau cydymffurfio cyn i wiriadau ar safonau marchnata gael eu cyflwyno.

Ein cwestiwn ni: Ydych chi鈥檔 rhag-weld unrhyw faterion yn y fan a鈥檙 lle o ran sicrhau bod y cig dofednod sy鈥檔 cael ei brosesu yn eich sefydliad(au) chi neu鈥檆h aelodau neu鈥檙 sefydliadau rydych chi鈥檔 eu cynrychioli yn cydymffurfio, os bydd ein cynnig yn dod i rym?

Dywedodd rhai o鈥檙 ymatebwyr nad oedden nhw鈥檔 rhag-weld unrhyw faterion uniongyrchol ynghylch cydymffurfiaeth cig dofednod sy鈥檔 cael ei brosesu pan gyflwynir y gyfres lawn o wiriadau PMMR.

Pwysleisiodd ambell un o鈥檙 ymatebwyr fod angen darparu canllawiau clir i鈥檙 diwydiant a鈥檙 cyrff rheoleiddio cyn gweithredu鈥檙 ddeddfwriaeth hon.

Ein cwestiwn ni: Beth yw鈥檙 rhwystrau allweddol, os oes rhai o gwbl, rhag cyflwyno鈥檙 gwiriadau hyn y dylen ni fod yn ymwybodol ohonynt?

Atebodd rhai ymatebwyr nad oedden nhw鈥檔 gweld unrhyw rwystrau rhag cyflwyno鈥檙 gwiriadau hyn. Nododd y rhan fwyaf o鈥檙 ymatebwyr eu bod yn cefnogi鈥檙 dull seiliedig ar risg a gynigiwyd yn y ddogfen ymgynghori.

Atebodd rhai ymatebwyr mai un rhwystr i gyflwyno鈥檙 gwiriadau hyn fyddai鈥檙 adnoddau rheoleiddio sydd ar gael i weithredu newidiadau PMMR a chynnal gwiriadau mewn modd amserol, sef staffio ac oedi mewn porthladdoedd i gynnal y gwiriadau.

Atebodd rhai ymatebwyr hefyd yr hoffen nhw weld system o wiriadau sy鈥檔 sicrhau tegwch a chysondeb rhwng rhanbarthau a busnesau, yn ogystal 芒 sicrhau bod newidiadau deddfwriaethol yn gyson ledled Prydain Fawr.

Atebodd un o鈥檙 ymatebwyr: 鈥渢he nature of business model for imported poultry makes it challenging [sef rhoi鈥檙 gwiriadau ar waith], a large % of produce arrives chilled in mixed consignment on lorries that have multiple delivery points, with multiple final customers.鈥�

Dywedodd rhai ymatebwyr eu bod am ddeall beth fyddai鈥檙 gwiriadau鈥檔 ei olygu cyn gallu ateb y cwestiwn hwn yn llawn.

Ein cwestiwn ni: Pa mor aml, yn eich barn chi, y dylid cynnal gwiriadau mewn lladd-dai, safleoedd torri, mangreoedd manwerthu a warysau, i asesu safonau marchnata, heb achosi gormod o faich ar eich busnes chi/y busnesau rydych chi鈥檔 eu cynrychioli?

Roedd y rhan fwyaf o鈥檙 ymatebwyr o鈥檙 farn y dylai amlder y gwiriadau ddilyn dull sy鈥檔 seiliedig ar risg a hynny ar sail hanes cydymffurfiaeth busnesau bwyd.

Atebodd rhai ymatebwyr eu bod yn credu y dylai鈥檙 gwiriadau ddigwydd bob dydd.

Atebodd un ymatebydd y dylid gwirio uchafswm o un llwyth yr wythnos (mewn safleoedd rheoli ar y ffin).

Ein cwestiwn ni: Ydych chi鈥檔 credu y dylai amlder y gwiriadau newid, gan ddibynnu ar y risg o beidio 芒 chydymffurfio mewn lladd-dai, safleoedd torri, mangreoedd manwerthu a warysau?

Atebodd y rhan fwyaf o鈥檙 ymatebwyr 鈥榶dw.鈥� Atebodd y rhan fwyaf o鈥檙 ymatebwyr eu bod o blaid dull seiliedig ar risg a hynny ar sail hanes cydymffurfiaeth pob busnes. Ychwanegodd un ymatebydd: 鈥渢he legislation should allow competent authorities to carry out targeted checks when systemic issues are identified.鈥�

Mynegodd rhai ymatebwyr hefyd y bydden nhw鈥檔 disgwyl i鈥檙 gwiriadau hyn fod yn hyblyg ac yn gymesur.

Atebodd un ymatebydd na fyddai dull 鈥榦ne size fits all鈥� yn briodol ac y dylid asesu ystyriaethau fel trwybwn y busnes pan fydd gwaelodlin yn cael ei sefydlu.

Ein cwestiwn ni: Sut, yn eich barn chi, y dylid sefydlu鈥檙 waelodlin ar gyfer amlder y gwiriadau?

Atebodd rhai ymatebwyr y dylid defnyddio gwiriadau untro i sefydlu gwaelodlin cydymffurfiaeth. Yna dylid asesu gwiriadau yn y dyfodol yn seiliedig ar lefel y gydymffurfiaeth a ganfuwyd yn ystod yr ymarfer i sefydlu鈥檙 waelodlin.

Atebodd un ymatebydd y dylid gwneud hyn fesul gwlad (ar gyfer mewnforion).

Ein cwestiwn ni: Yn achos mewnforion, beth yw鈥檆h barn chi ar ddefnyddio dull risg SPS i bennu amlder y gwiriadau o dan y PMMR?

Nododd rhai ymatebwyr eu bod yn gweld defnyddio dull risg SPS fel ffordd gymesur a phragmatig o bennu lefel y gwiriadau (PMMR). Ychwanegodd rhai y dylai鈥檙 ddeddfwriaeth ganiat谩u i鈥檙 amlder gael ei gynyddu鈥檔 briodol os ceir problemau neu ddiffyg cydymffurfiaeth ar gyfer mewnforion.

Atebodd rhai ymatebwyr y dylai archwiliadau ar fewnforion gael eu hasesu ar yr un lefel 芒 chig dofednod a gynhyrchir yn ddomestig a chael eu seilio ar gydymffurfiaeth hanesyddol.

Ein cwestiwn ni: Ydych chi鈥檔 credu mai dull sy鈥檔 seiliedig ar risg ar gyfer amlder gwiriadau鈥檙 PMMR a ddylai gael ei ddefnyddio ar gyfer cig dofednod sy鈥檔 cael ei fewnforio o鈥檙 UE a thrydydd gwledydd eraill?

Atebodd pob ymatebydd 鈥榶dw鈥�.

Dywedodd un ymatebydd yr hoffai weld arolygwyr rhanbarthol yn cael eu hanfon i鈥檙 cyrchfannau terfynol i wneud gwaith gwirio er mwyn atal oedi ar y ffin.

Ein cwestiwn ni: Mae gwiriadau cynhwysiad d诺r yn un o ofynion y ddeddfwriaeth. Oes gennych chi unrhyw sylwadau neu farn ar sut mae鈥檙 profion hyn yn cael eu rhoi ar waith?

Mynegodd un ymatebydd bryderon am y cynnig i ddisodli ffioedd sefydlog ar gyfer gwiriadau cynhwysiad d诺r. Atebodd ymatebwyr yr hoffen nhw gael mwy o eglurder ynghylch sut y bydd y cymal codi t芒l hyblyg yn gweithio.

Mynegodd un ymatebydd fod gwiriadau cynhwysiad d诺r yn bwysig ar gyfer toriadau penodol: 鈥淚E 0207 1310 00 Chilled chicken breast / thigh boneless and also 2007 1410 00 Frozen chicken breast & thigh.鈥�

Ein cwestiwn ni: Fyddai gennych chi ddiddordeb dod i gyfarfod bwrdd crwn i drafod y broses o roi gwiriadau鈥檙 PMMR ar waith ymhellach?

Atebodd y rhan fwyaf o鈥檙 ymatebwyr y byddai, dywedodd un na fyddai.

Ein cwestiwn ni: Oes gennych chi sylwadau pellach ar y bwriad i roi鈥檙 gwiriadau hyn ar waith?

Tynnodd y rhan fwyaf o鈥檙 ymatebwyr sylw at yr angen am eglurder ynghylch pwy sy鈥檔 mynd i gynnal y gwiriadau a sut.

Dywedodd ymatebwyr fod y dirwedd ddeddfwriaethol newydd yn gymhleth i gwmn茂au lywio drwyddi. Er bod y diwydiant yn croesawu cynigion i gynnwys darpariaethau i wneud y rheoliadau鈥檔 glir, mae鈥檔 hanfodol bod yna gysondeb ar draws y gweinyddiaethau datganoledig.

O ran mewnforion, awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid cynnal gwiriadau mewndirol mewn gweithfeydd torri, warysau neu gyfleusterau manwerthu er mwyn atal oedi ar y ffin. Mynegodd un ymatebydd bryderon bod proseswyr mewn trydydd gwledydd yn anwybyddu鈥檙 gyfraith ynghylch gwiriadau cynhwysiad d诺r gan fynegi y dylai camau cadarn a chyflym ddilyn os ceir hyd i ddiffyg cydymffurfiaeth.

Ychwanegodd un ymatebydd fod angen mwy o eglurder ynghylch pryd y defnyddir cyfuniad o ddulliau oeri.

Nododd sawl ymatebydd fod dyddiad cau yr ymgynghoriad pedair wythnos yn ystod y gwyliau yn ei gwneud yn anodd casglu digon o dystiolaeth ac adborth i gymryd rhan lawn yn yr ymgynghoriad.

Ein cwestiwn ni: Oes unrhyw welliannau pellach yr hoffech eu gweld yn cael eu hystyried wrth i鈥檙 PMMR gael eu hadolygu yn y dyfodol?

Cafwyd ymatebion manwl a dynnodd sylw at nifer o faterion yr hoffai ymatebwyr eu gweld yn cael eu hystyried mewn adolygiadau yn y dyfodol. Amlinellir y rhain isod.

Dileu鈥檙 cyfeiriad at niferoedd yn y ddeddfwriaeth sy鈥檔 ymwneud 芒 nifer yr ieir a鈥檙 cyfraddau stocio yn Atodiad V(b) ac Atodiad V(c)ii o Reoliad (EC) 543/2008.

Adolygiad o鈥檙 gofynion yngl欧n 芒 dwysedd stocio ac oedrannau lladd sy鈥檔 berthnasol i wahanol dermau marchnata er mwyn sicrhau eu bod yn fwy perthnasol i systemau cynhyrchu modern.

Pe bai鈥檙 llywodraeth yn gwneud gorchymyn cartrefu oherwydd achosion hysbysadwy o ffliw adar, dywedodd nifer o ymatebwyr yr hoffen nhw weld y geiriad yn cael ei ddiwygio i egluro bod cyfnod y rhanddirymiad o 12 wythnos yn cael ei gymhwyso fesul diadell, sy鈥檔 gyson 芒鈥檙 ddarpariaeth a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2017.

Ystyried dull sy鈥檔 seiliedig ar risg ar gyfer arolygiadau ar y fferm i gynhyrchwyr cig maes fel bod modd lleihau鈥檙 rhain i unwaith y flwyddyn pan fo cydymffurfiaeth dda yn cael ei dangos yn gyson, gan gysylltu hyn ag arolygiadau sicrwydd er mwyn osgoi dyblygu ymweliadau

Dylai termau a ddefnyddir i ddisgrifio proteinau penodol fel cyw i芒r, cig eidion, cig oen, porc, neu doriad penodol o gig fel st锚c gael eu rhestru yn y ddeddfwriaeth fel termau sydd wedi鈥檜 cadw ar gyfer cynhyrchion cig yn unig.

Y camau nesaf

Mewn ymateb i鈥檙 ymgynghoriad, bellach rydym yn nodi camau nesaf y Llywodraeth i wneud diwygiadau i鈥檙 PMMR i adlewyrchu dull wedi鈥檌 seilio ar risg. Mae Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cytuno i gydweithio鈥檔 agos i gysoni鈥檙 gwelliannau arfaethedig. Byddai hynny鈥檔 fodd i鈥檙 tair gweinyddiaeth ddatganoledig roi dull cyson, wedi鈥檌 seilio ar risg, ar waith ar draws Prydain Fawr, gan greu鈥檙 baich lleiaf posibl i鈥檙 diwydiant. Ni fydd gofynion y PMMR yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu diwygio gan eu bod ar hyn o bryd yn cyd-fynd 芒鈥檙 UE, yn unol 芒鈥檙 gofynion o dan Brotocol Gogledd Iwerddon. Bydd canllawiau ynghylch rhoi鈥檙 PMMR ar waith yn cael eu drafftio a鈥檜 hanfon i鈥檙 diwydiant cyn i鈥檙 drefn wirio newydd ddod i rym.