Consultation outcome

Regulation of Investigatory Powers Act 2000: consultation on revised Covert Human Intelligence Source code of practice (Welsh)

Updated 17 October 2022

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Rhagair y Gweinidog

Mae Deddf Rheoleiddio Deddf Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) yn cynnig fframwaith rheoleiddiol ar gyfer defnyddio nifer o bwerau ymchwiliol cudd, er mwyn sicrhau bod y pwerau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol mewn modd cyfreithiol sydd yn cydymffurfio gyda rhwymedigaethau鈥檙 DU o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y defnydd o bwerau yn cael ei arolygu鈥檔 agos o hyd ac yn cael eu hailasesu鈥檔 gyson er mwyn sicrhau fod yr hyn sy鈥檔 cael ei wneud yn gyfiawn. Ymgorfforwyd nifer o fesurau diogelu pwysig yn y ddeddf er mwyn gwarchod yn erbyn unrhyw ddefnydd mympwyol neu ormodol o鈥檙 pwerau, gan gynnwys fframwaith awdurdodi llym a darpariaeth i鈥檙 defnydd o鈥檙 pwerau gael ei oruchwylio a鈥檌 adolygu鈥檔 iannibynnol.

Mae Rhan II o RIPA yn ymwneud 芒鈥檙 defnydd o Ffynonellau Cuddwybodaeth Dynol gan awdurdodau cyhoeddus. O dan y Ddeddf, mae person yn Ffynhonnell Cuddwybodaeth os yw awdurdod lleol yn gofyn iddo sefydlu neu gynnal perthynas gyda rhywun arall ar gyfer y diben cudd o ennill neu ddatgelu gwybodaeth.

Mae defnyddio鈥檙 Ffynhonnell Cuddwybodaeth yn allweddol ar gyfer gwarchod diogelwch cenedlaethol ac ymladd troseddu difrifol. Mae鈥檔 caniat谩u ymchwilwyr i gael mewnwelediad i鈥檙 sefydliadau terfysgol a throseddol maen nhw鈥檔 eu targedu. Ers degawdau, mae鈥檙 Ffynhonnell Cuddwybodaeth wedi chwarae rhan hanfodol mewn atal, a sicrhau erlyniadau ar gyfer troseddau difrifol gan gynnwys terfysgaeth, cyffuriau a throseddau鈥檔 ymwneud ag arfau tanio, yn ogystal ag ecsbloetio a cham-drin plant yn rhywiol. Mae hyn wedi cynnwys helpu i adnabod a tharfu ar nifer o gynllwynion terfysgol a gafodd eu hatal. Yn atodol i RIPA mae Cod Ymarfer CHIS sydd yn cynnig cyfarwyddyd manwl, cynhwysfawr ac ymarfer gorau yngl欧n 芒 defnyddio鈥檙 CHIS. Ei fwriad yw arwain asiantaethau gorfodi鈥檙 gyfraith, yr asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth ac awdurdodau cyhoeddus eraill sydd yn ymarfer pwerau o鈥檙 fath. Mae鈥檔 gosod mesurau diogelu ychwanegol yngl欧n 芒 sut ddylid ymarfer y pwerau sydd eisoes o fewn deddfwriaeth sylfaenol a chyflawni鈥檙 dyletswyddau.

Cafodd y Cod CHIS ei ddiweddaru diwethaf yn 2018. Cafodd y drafft yr ydym yn ymgynghori yngl欧n 芒 hi ei ddiwygio a鈥檌 ddiweddaru i adlewyrchu鈥檙 darpariaethau newydd mewn perthynas ag awdurdodi ymddygiad troseddol gan CHIS a gyflwynwyd gan Ddeddf Ffynonellau Cuddwybodaeth Dynol (Ymddygiad Troseddol) 2021. Rydym hefyd wedi achub ar y cyfle hwn i ychwanegu nifer o ddiweddariadau bach, ac i egluro peth o鈥檙 testun, a bwriad y cyfan yw sicrhau fod yr awdurdodau cyhoeddus yn parhau i roi ymarfer Gorau ar waith. Caiff pob ymateb ei groesawu a鈥檌 ystyried yn ofalus.

Y Gwir Anrh. Damian Hinds AS

Gweinidog Gwladol dros Ddiogelwch

Cwmpas yr ymgynghoriad

Pwnc yr ymgynghoriad:

Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn ymwneud 芒 Chod Ymarfer Ffynonellau Cuddwybodaeth Dynol (CHIS) diwygiedig drafft o dan Reoleiddiad Deddf Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA).

Cwmpas yr ymgynghoriad:

Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn ceisio derbyn sylwadau yngl欧n 芒鈥檙 Cod Ymarfer diwygiedig drafft.

Cwmpas daearyddol:

Ar draws y DU

Gwybodaeth Sylfaenol

At:

Croesawir sylwadau gan awdurdodau cyhoeddus sydd 芒 chanddynt bwerau dan RIPA, yn ogystal 芒 chyrff proffesiynol, grwpiau diddordeb arbennig a鈥檙 cyhoedd cyffredinol.

Cyfnod:

8 wythnos.

Ymholiadau ac ymatebion:

Byddwch cystal ag anfon unrhyw ymholiadau ac ymatebion at: [email protected]

Byddwch cystal 芒 dangos yn eich ymateb p鈥檜n a ydych yn fodlon iddo gael ei gyhoeddi, gyda neu heb ei briodoli i chi/eich sefydliad.

Ar 么l yr ymgynghoriad:

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, caiff ymatebion eu dadansoddi a鈥檙 Cod drafft ei dddiwygio fel sydd ei angen. Yna caiff ei osod o flaen y Senedd er mwyn ei gymeradwyo.

Cefndir

Cyrraedd y man yma:

Wrth baratoi鈥檙 drafft hwn rydym wedi ymgysylltu 芒 chyrff cyhoeddus sydd yn awdurdodi ac yn defnyddio CHIS o dan RIPA gan gynnwys y gymuned gorfodi鈥檙 gyfraith. Rydym hefyd wedi ceisio cael mewnbwn gan Swyddfa annibynnol y Comisiynydd dros Bwerau Ymchwilio sydd yn goruchwylio ac yn monitro gweithredu鈥檙 ddeddfwriaeth.

Beth yw鈥檙 Cod Ymarfer?

Bwriedir y Cod yn bennaf i dywys yr awdurdodau cyhoeddus hynny sy鈥檔 ymarfer pwerau ac yn cyflawni dyletswyddau o dan Reoleiddiad Deddf Pwerau Ymchwilio 2000.

Mae鈥檙 Cod yn amlinellu鈥檙 prosesau a mesurau diogelwch sydd yn rheoli鈥檙 defnydd a wneir o ffynonellau cuddwybodaeth dynol gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys yr heddlu ac asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth. Mae鈥檔 rhoi manylion yngl欧n 芒 sut ddylid ymarfer y pwerau a chyflawni鈥檙 dyletswyddau, gan gynnwys enghreifftiau o ymarfer gorau. Bwriedir iddo roi eglurder ychwanegol ac i sicrhau鈥檙 safonau uchaf o broffesiynoldeb a chydymffurfiaeth gyda鈥檙 ddeddfwriaeth.

Mae gan God Ymarfer a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf rym statudol a rhaid i unigolion sydd yn ymarfer pwerau ac yn cyflawni dyletswyddau mewn perthynas 芒鈥檙 Cod roi ystyriaeth briodol iddo. Mae鈥檙 Cod yn dderbyniol mewn tystiolaeth ym materion troseddol a sifil a gellir ei ddwyn i ystyriaeth gan unrhyw lys, tribiwnlys neu awdurdod arolygu wrth benderfynu ar gwestiwn fydd yn codi mewn cyswllt gyda鈥檙 pwerau a鈥檙 dyletswyddau hynny.

Pam ydym ni鈥檔 ymgynghori?

O dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000, mae鈥檔 ofynnol ar y Gweinidog Gwladol i gyflwyno Codau Ymarfer yngl欧n ag ymarfer pwerau a chyflawni dyletswyddau o dan y Ddeddf.

Cyn cyflwyno unrhyw God, rhaid i鈥檙 Gweinidog Gwladol baratoi a chyhoeddi drafft ohono. Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn bodloni鈥檙 gofyniad hwnnw.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i鈥檙 Gweinidog Gwladol ystyried unrhyw sylwadau a wnaed yngl欧n 芒鈥檙 drafft a rhaid iddo wneud gorchymyn, i鈥檞 gymeradwyo gan y Senedd, cyn gall y Cod terfynol ddod yn weithredol.

Newidiadau a argymhellir:

Amlinellir y prif newidiadau yn y Cod diwygiedig ac a ddiweddarwyd yr ydym yn ymgynghori yngl欧n ag ef isod.

Ymddygiad Troseddol CHIS

Cafodd y Cod diwygiedig drafft ei wella鈥檔 bennaf er mwyn adlewyrchu鈥檙 darpariaethau newydd mewn perthynas ag awdurdodi ymddygiad troseddol gan CHIS a gyflwynwyd gan y Ddeddf Ffynonellau Cuddwybodaeth Dynol (Ymddygiad Troseddol) 2021. Mae鈥檙 Ddeddf yn rhoi p诺er diamwys statudol i鈥檙 asiantaethau cudd-wybodaeth, gorfodi鈥檙 gyfraith a nifer cyfyng o awdurdodau cyhoeddus ehangach, er mwyn awdurdodi CHIS i gymryd rhan mewn ymddygiad troseddol lle bo angen a鈥檌 fod yn gymesur i wneud hynny. Cafodd pennod newydd (Pennod 6) ei ychwanegu i鈥檙 Cod sydd yn cynnig manylion ar:

  • Y meini prawf awdurdodi a鈥檙 gweithdrefnau y dylid eu dilyn;
  • Y broses ar gyfer hysbysu awdurdodiadau i鈥檙 Comisiynwyr Barnwrol yn yr IPCO;
  • Yr wybodaeth i鈥檞 rhoi mewn cais ar gyfer awdurdodi ymddygiad troseddol;
  • Y meini prawf ar gyfer adolygu, adnewyddu a dileu awdurdodiadau.

Gwnaed gwelliannau eraill i Bennod 3 o鈥檙 Cod i amlinellu鈥檙 meini prawf ar gyfer asesu p鈥檜n a oedd awdurdodiad yn angenrheidiol ac yn gymesur; mae hyn yn cynnwys rhestru pa sail sydd yn debygol o fod ei angen i gael awdurdodiad ac elfennau鈥檙 cymesuredd sydd angen eu hystyried cyn rhoi鈥檙 awdurdodiad hwnnw.

Diweddarwyd Pennod 4 i adlewyrchu na roddir awdurdodiad ar gyfer gweithgarwch yn yr Alban lle nad yw鈥檔 gysylltiedig 芒 mater a gedwir yn 么l.

Ystyriaethau arbennig ar gyfer awdurdodiadau

Cafodd Pennod 4 ei ddiweddaru i egluro鈥檙 mesurau diogelu uwch sydd ar waith yn yr amgylchiadau prin hynny pan fydd person ifanc neu fregus yn cael ei awdurdodi i fod yn CHIS. Mae鈥檙 diweddariadau yn ei gwneud yn glir y gellir eu hawdurdodi dan amgylchiadau eithriadol yn unig ac mae鈥檔 rhoi manylion ychwanegol yngl欧n 芒鈥檙 mesurau diogelu sydd mewn lle. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cyfarwyddyd yngl欧n 芒鈥檙 gofyniad i oedolyn addas fod yn bresennol mewn cyfarfodydd rhwng awdurdod cyhoeddus a pherson ifanc, fel pwy ddylai鈥檙 oedolyn addas hwnnw fod.

Tasgio - defnydd ac ymddygiad

Cafodd Pennod 7 ei ddiweddaru er mwyn sicrhau proses glir pan fydd camau na ragwelwyd yn digwydd mewn perthynas 芒 鈥渄efnydd ac ymddygiad鈥� CHIS. Mae hyn yn cynnwys gwneud cofnod ac asesu a yw awdurdodiad newydd yn ofynnol.

Gwallau perthnasol

Diweddarwyd Pennod 8 o鈥檙 Cod er mwyn sicrhau ei fod yn glir mai gofynion o dan Reoleiddiad Deddf Pwerau Ymchwilio 2000 neu a orfodwyd oddi dano yn unig all achosi gwall perthnasol o dan Ddeddf Pwerau Ymchwil 2016. Mae paragraff 8.12 yn cynnig eglurhad yngl欧n 芒 rhestr sydd heb fod yn drwyadl o wallau perthnasol posib gan awdurdod cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys os cafwyd methiant i lynu at y mesurau diogelwch a osodwyd yn y darpariaethau statudol perthnasol neu i dalu sylw priodol at y Cod.

Gwybodaeth sensitif

Ceir adrannau yn y Cod sydd wedi eu ymrhoi at warchod gwybodaeth sensitif (fel materion sydd yn ddarostyngedig i fraint gyfreithiol, ceisiadau i gael gafael ar ddeunydd mewn perthynas 芒 gwybodaeth newyddiadurol gyfrinachol a ffynonellau gohebydd), gan gynnwys cyfarwyddyd ar yr wybodaeth sydd yn rhaid ei chynnwys ar gais i ddefnyddio CHIS a sut mae鈥檔 rhaid trin, cadw a dileu鈥檙 wybodaeth a gafwyd. Cafodd yr adrannau hyn eu cryfhau ymhellach, gan olygu mesurau diogelwch mwy effeithiol yn y maes hwn.