Consultation outcome

Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO - Adolygu鈥檙 Rhestr Enwebiadau Posibl: Gwybodaeth i ymgeiswyr

Updated 4 July 2023

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Mae鈥檙 ddogfen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth bwysig i鈥檙 ymgeiswyr fod yn ymwybodol ohoni. Disgwylir i鈥檙 ymgeiswyr ymgyfarwyddo 芒 chefndir UNESCO, Confensiwn Treftadaeth y Byd, rhwymedigaethau鈥檙 Gwladwriaethau sy鈥檔 Barti a phroses y Rhestr Enwebiadau Posibl, a hynny drwy edrych ar https://whc.unesco.org/en/convention/

Cefndir UNESCO

Mae Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) yn un o asiantaethau arbenigol y Cenhedloedd Unedig, a sefydlwyd yn Llundain yn 1945,

i gyfrannu at heddwch a diogelwch drwy hybu cydweithredu ymhlith y cenhedloedd drwy addysg, gwyddoniaeth a diwylliant er mwyn hybu parch cyffredinol at gyfiawnder, rheolaeth y gyfraith a hawliau dynol a rhyddidau sylfaenol sy鈥檔 cael eu cadarnhau i bobloedd y byd, heb wahaniaethu ar sail hil, rhyw, iaith neu grefydd, gan Siarter y Cenhedloedd Unedig.

Mae pencadlys UNESCO ym Mharis ac mae ganddo rwydwaith o swyddfeydd rhanbarthol ledled y byd. Mae gan bob aelod-wladwriaeth hefyd Gomisiwn Cenedlaethol UNESCO, nad yw鈥檔 rhan o UNESCO, ond a sefydlwyd gan eu llywodraeth i fod yn ganolbwynt ac yn gysylltiad rhwng y Llywodraeth, y gymdeithas ac UNESCO. Mae Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig hefyd yn cynghori鈥檙 Llywodraeth ar faterion UNESCO.

Mae UNESCO yn cynnal ymchwil ac yn datblygu polis茂au, yn gosod safonau, ac yn monitro canlyniadau ar lefel fyd-eang, ranbarthol a gwladol ac mae鈥檔 gweithredu fel catalydd ar gyfer cydweithredu rhyngwladol. Ledled y byd, dyma鈥檙 prif gorff rhynglywodraethol rhyngwladol sy鈥檔 delio 芒 threftadaeth, ddiwylliannol a naturiol. Fel un o Asiantaethau鈥檙 Cenhedloedd Unedig, mae UNESCO yn cysoni ei waith yn llawn 芒 gweithredu a chyflawni 17 Nod Datblygu Cynaliadwy鈥檙 Cenhedloedd Unedig erbyn 2030.

Nodau cyffredinol Strategaeth Tymor Canolig gyfredol UNESCO (2022-29) yw:

  1. Ateb yr her addysgol: Sicrhau addysg deg a chynhwysol o safon a hybu dysgu gydol oes i bawb, er mwyn lleihau anghydraddoldebau a hybu cymdeithasau sy鈥檔 dysgu ac yn greadigol, yn enwedig yn yr oes ddigidol

  2. Ateb yr her amgylcheddol: Gweithio tuag at gymdeithasau cynaliadwy a diogelu鈥檙 amgylchedd drwy hybu gwyddoniaeth, technoleg, arloesi a鈥檙 dreftadaeth naturiol

  3. Ateb heriau cydlyniant cymdeithasol: Adeiladu cymdeithasau cynhwysol, cyfiawn a heddychlon drwy hybu rhyddid mynegiant, amrywiaeth diwylliannol, addysg ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang, a diogelu鈥檙 dreftadaeth

  4. Ateb yr her dechnolegol: Meithrin amgylchedd technolegol i wasanaethu鈥檙 ddynoliaeth drwy ddatblygu a lledaenu gwybodaeth a sgiliau a datblygu safonau moesegol.

Pwy sy鈥檔 gwneud beth: Llywodraethau Gwladol, Pwyllgor Treftadaeth y Byd a鈥檌 gynghorwyr

Mae Confensiwn Treftadaeth y Byd yn cydnabod mai gwladwriaethau unigol sy鈥檔 bennaf cyfrifol am ofalu am dreftadaeth y byd a鈥檌 gwarchod ac wrth ymuno 芒鈥檙 Confensiwn, mae pob llywodraeth yn cydnabod ei dyletswydd i ddiogelu Treftadaeth y Byd. Fel un o lofnodwyr y Confensiwn, Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw鈥檙 Wladwriaeth sy鈥檔 Barti ac mae wedi ymrwymo i weithredu鈥檙 Confensiwn.

Prif adran y llywodraeth ar UNESCO yw鈥檙 Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu, tra bo鈥檙 Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn arwain ar faterion diwylliannol a pholisi Treftadaeth y Byd gan weithredu fel y Wladwriaeth sy鈥檔 Barti, a chynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar weithredu鈥檙 Confensiwn.

Goruchwylir gweithrediad y Confensiwn gan Bwyllgor Treftadaeth Byd rhynglywodraethol UNESCO, sy鈥檔 cynnwys 21 o wladwriaethau a etholir mewn cylchdro o blith y 193 o aelod-wladwriaethau鈥檙 Confensiwn. Yn ei gyfarfod blynyddol, mae Pwyllgor Treftadaeth y Byd yn penderfynu pa safleoedd fydd yn cael eu harysgrifio ar Restr Treftadaeth y Byd. Mae鈥檙 Pwyllgor hefyd yn monitro pa mor dda y mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn cael eu cadw a gallant ymyrryd gyda鈥檙 llywodraethau unigol os ydynt o鈥檙 farn bod yna broblemau.

Cynghorir Pwyllgor Treftadaeth y Byd ar enwebiadau gan yr Undeb Rhyngwladol ar gyfer Cadwraeth Natur a Chyfoeth Naturiol (IUCN) o ran safleoedd naturiol, ac mae鈥檙 Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS) yn cynghori ar safleoedd diwylliannol a hefyd yn cynghori ar warchod safleoedd. Mae gan y ddau gorff bwyllgorau cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig, ond nid oes gan y rhain gysylltiadau uniongyrchol ffurfiol ag UNESCO.

Darperir ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor gan Ganolfan Treftadaeth Byd UNESCO. yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog.

Cynghorwyr arbenigol y Wladwriaeth sy鈥檔 Barti yn y Deyrnas Unedig yw Historic England yn achos safleoedd diwylliannol, a鈥檙 Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn achos safleoedd naturiol.

Dull adolygu Rhestr Enwebiadau Posibl y Deyrnas Unedig

Mae鈥檙 Llywodraeth wrthi鈥檔 paratoi Rhestr newydd o Enwebiadau Posibl ar gyfer safleoedd naturiol, diwylliannol a chymysg i鈥檞 harysgrifio ar Restr Treftadaeth Byd UNESCO, i鈥檞 chyflwyno i UNESCO yn nes ymlaen eleni, gyda golwg ar gyflwyno enwebiadau i Bwyllgor Treftadaeth y Byd o 2024 ymlaen.

Mae arysgrifiad fel Safle Treftadaeth Byd UNESCO yn gydnabyddiaeth o arwyddoc芒d gwirioneddol fyd-eang lleoedd o鈥檙 fath. Mae鈥檔 anrhydedd ac yn fraint ac fe all ddod 芒 manteision cymdeithasol ac economaidd. Am fod rhaid i bob Safle Treftadaeth Byd fod o bwysigrwydd gwirioneddol fyd-eang, mae鈥檔 anochel bod Rhestr Treftadaeth y Byd yn un ddethol iawn ac na fydd llawer o leoedd o arwyddoc芒d cenedlaethol neu hyd yn oed o arwyddoc芒d rhyngwladol yn cyrraedd y rhestr.

yw mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 anghydbwysedd yn Rhestr Treftadaeth y Byd lle mae鈥檙 mwyafrif llethol o鈥檙 safleoedd wedi鈥檜 lleoli mewn rhanbarthau datblygedig o鈥檙 byd. Ers 2001 mae鈥檙 Deyrnas Unedig wedi dilyn cais Canolfan Treftadaeth y Byd i wledydd sydd wedi鈥檜 cynrychioli鈥檔 dda ar Restr Treftadaeth y Byd ymatal rhag enwebu rhagor o safleoedd er mwyn sicrhau Rhestr Treftadaeth Byd fwy cytbwys.

Arfer diweddar yn y Deyrnas Unedig (ers 2012) fu mynd ati bob dwy flynedd ac felly dim ond cyflwyno 1 enwebiad bob yn ail flwyddyn. Yr unig eithriad yw pan fo safle yn y Deyrnas Unedig yn rhan o gais trawswladol (fel Sba Caerfaddon fel rhan o Drefi Sba Mawr Ewrop 鈥� a restrwyd yn 2021 ac a arweiniwyd gan y Weriniaeth Tsiec).

Dros y degawd nesaf, bydd y Deyrnas Unedig yn dal i ddilyn y dull hwn o enwebu bob dwy flynedd, ac eithrio unrhyw enwebiadau sy鈥檔 rhan o gais trawswladol.

Yn ogystal 芒 mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 diffyg cydbwysedd rhwng y gwledydd a gynrychiolir ar y rhestr fyd-eang, cafwyd galwadau am ail-gydbwyso Safleoedd Treftadaeth Byd byd-eang a chenedlaethol o ran them芒u safleoedd a chysoni rhestrau 芒 gwledydd eraill.

Wrth ystyried y 33 Safle Treftadaeth Byd presennol yn y Deyrnas Unedig, rydym yn croesawu鈥檔 arbennig geisiadau gan safleoedd sy鈥檔 cael eu dosbarthu fel safleoedd naturiol neu gymysg, neu sydd wedi鈥檜 lleoli yn y Tiriogaethau Tramor neu Ddibyniaethau鈥檙 Goron.

Bydd yn dal yn ofynnol i bob cais ddangos Gwerth Cyffredinol Eithriadol posibl fel rhan o asesiad y panel arbenigol annibynnol o鈥檙 Rhestr Enwebiadau Posibl. Disgwylir mai dim ond safleoedd eithriadol fydd yn cael eu cynnwys ar y Rhestr honno.

Mae arysgrifiad o reidrwydd yn dod 芒 chyfrifoldebau dros ddiogelu a chadw Gwerth Cyffredinol Eithriadol y safle a鈥檌 drosglwyddo i genedlaethau鈥檙 dyfodol. Mae paratoi enwebiad a rheoli safleoedd ar gyfer y tymor hir yn gostus. Ni ddylid tanbrisio鈥檙 ymrwymiadau hyn a dylid eu hystyried yn ofalus cyn i unrhyw gais gael ei wneud.

Bydd rhagor o wybodaeth am y broses yn cael ei darparu mewn gweithdai y bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd sy鈥檔 cyflwyno datganiad o ddiddordeb ddod iddo.

Y broses ar gyfer adolygu Rhestr Enwebiadau Posibl y Deyrnas Unedig

I wneud cais am gael eich ystyried ar gyfer Enwebiadau Posibl y Deyrnas Unedig rydym yn gofyn ichi lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb a鈥檙 ffurflen Gais lawn. Rhaid cwblhau a chyflwyno鈥檙 ddwy ran yn brydlon er mwyn bod yn gymwys i gael eich ystyried.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno鈥檙 ffurflen mynegi diddordeb yw dydd Gwener 6 Mai 2022.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno鈥檙 ffurflen gais yw dydd Gwener 15 Gorffennaf 2022.

Rydym yn cynnal dau sesiwn gwybodaeth ar-lein agored ddydd Dydd Iau 31 Mawrth a dydd Mercher 22 Mawrth 2022. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth gyda鈥檙 broses ar hyn o bryd, anfonwch neges ebost at [email protected] i gael y ddolen fideo.

Ar 么l i鈥檆h ffurflen mynegi diddordeb ddod i law, cewch eich gwahodd i weithdy. Bydd y gweithdy gorfodol yn darparu gwybodaeth a chymorth manylach yngl欧n 芒 chwblhau鈥檙 cais llawn.

Rydym yn cynnal dau weithdy ar-lein, ddydd Mawrth 29 Mawrth a dydd Iau 5 Mai 2022. Hoffem annog yr ymgeiswyr i anfon eu datganiad o ddiddordeb yn gynnar a dod i鈥檙 gweithdy cyntaf er mwyn caniat谩u mwy o amser i lenwi鈥檙 ffurflen gais lawn. Gwahoddir yr holl ymgeiswyr eraill i鈥檙 ail weithdy.

Sylwch: dim ond ymgeiswyr sydd wedi cwblhau datganiad o ddiddordeb fydd yn cael eu gwahodd i weithdy ac i gyflwyno cais llawn. Rhaid i鈥檙 ymgeiswyr gwblhau datganiad o ddiddordeb a dod i鈥檙 gweithdy cyn cyflwyno鈥檜 ffurflen gais lawn.

Yna bydd y ffurflenni cais llawn yn cael eu hasesu gan banel o arbenigwyr annibynnol a benodir gan y llywodraeth. Bydd rhestr o鈥檙 safleoedd a argymhellir ar gyfer y Rhestr Enwebiadau Posibl yn cael ei chyflwyno i鈥檙 Gweinidogion i鈥檞 cymeradwyo cyn cael ei chofrestru yn UNESCO yn nes ymlaen eleni.

Deunyddiau darllen

Enghreifftiau o Gynlluniau Rheoli a dogfennau eraill gan gynnwys Adroddiadau Cyflwr Cadwraeth:

Ymchwil, astudiaethau a chyhoeddiadau perthnasol: