Datganiad i'r wasg

Hwb o 拢10 miliwn i gymorth cyflogaeth yng Nghymru i Gael Prydain i Weithio eto

Mae disgwyl i bobl yng Nghymru elwa o fuddsoddiad o 拢10 miliwn gyda'r nod o wella cymorth gwaith, iechyd a sgiliau lleol fel rhan o fenter Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag anweithgarwch a Chael Prydain i Weithio.

  • Mae鈥檙 cynllun arloesol cyntaf yng Nghymru yn lansio i fynd i鈥檙 afael ag anweithgarwch economaidd, gyda chymorth newydd wedi鈥檌 deilwra i鈥檞 gyflwyno gan gynnwys mentora un-i-un, cwnsela, gwasanaethau lles, a rheoli cyflyrau am faterion iechyd.

  • Mae鈥檔 dod fel rhan o ymgyrch Llywodraeth y DU i Gael Prydain i Weithio eto i ddatgloi twf a chyflenwi Cynllun ar gyfer Newid.

Mae disgwyl i bobl yng Nghymru elwa o fuddsoddiad o 拢10 miliwn gyda鈥檙 nod o wella cymorth gwaith, iechyd a sgiliau lleol fel rhan o fenter Llywodraeth y DU i fynd i鈥檙 afael ag anweithgarwch a Chael Prydain i Weithio.

Bydd y rhaglen arloesol gyntaf yng Nghymru, a lansiwyd yn Sir Ddinbych gan Weinidog Cyflogaeth y DU, Alison McGovern a Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, yn darparu am y tro cyntaf ymyriadau pwrpasol wedi鈥檜 targedu i anghenion lleol, yn hytrach na鈥檙 dull presennol 鈥渦n maint i bawb鈥�.

Mae hyn yn cynnwys help gyda llunio CVs a chwiliad gwaith, mentora un-i-un, gwasanaethau cwnsela, darpariaeth lles, a mynediad at wasanaethau rheoli cyflyrau i鈥檙 rhai sydd 芒 chyflyrau iechyd.

Mae ardaloedd y cynllun arloesol yn lleoedd penodol a ddewiswyd i dreialu dulliau newydd ac arloesol o gymorth cyflogaeth 鈥� mae鈥檙 ardaloedd hyn yn cael cyllid ac adnoddau wedi鈥檜 targedu i gyflwyno strategaethau newydd i leihau diweithdra, mynd i鈥檙 afael ag anweithgarwch a gwella cyfleoedd gwaith.

Yn ystod eu hymweliad 芒 Sir Ddinbych yn Gweithio ddoe, gwelodd y ddau Weinidog y cymorth sydd ar gael, gan gynnwys cyfarfod ag Anogwyr Gwaith sy鈥檔 cynnig cymorth arbenigol, wedi鈥檌 deilwra.

Mae Cymru yn un o naw lle sy鈥檔 cael cymorth drwy gynllun arloesol y rhaglen anweithgarwch economaidd 拢125 miliwn Llywodraeth y DU, sy鈥檔 targedu ardaloedd gyda鈥檙 lefelau uchaf o anweithgarwch.

Bydd arweinwyr lleol yn Sir Ddinbych, Blaenau Gwent, a Chastell-nedd Port Talbot yn dylunio cynlluniau cymorth cyflogaeth wedi鈥檜 teilwra i heriau unigryw eu cymunedau.

Nod y dull lleol, aml-asiantaeth hwn yw helpu pobl yn 么l i鈥檙 gwaith, sef un o鈥檙 ffyrdd pwysicaf o roi arian ychwanegol ym mhocedi pobl a datgloi twf fel rhan o Gynllun ar gyfer Newid Llywodraeth y DU.

Dywedodd Alison McGovern, Gweinidog Cyflogaeth Llywodraeth y DU:

Mae pawb yn haeddu ffynnu, gan gynnwys pobl sy鈥檔 dioddef o gyflyrau iechyd hirdymor.

Ni chaiff unrhyw un ei anwybyddu na鈥檌 ddiystyru. Dyna pam rydyn ni鈥檔 dyrannu hwb o 拢10 miliwn i Lywodraeth Cymru i roi hwb a chysylltu gwasanaethau iechyd a chyflogaeth, gan gyflenwi鈥檙 Cynllun ar gyfer Newid.

Mae pawb yn haeddu elwa o鈥檙 diogelwch a鈥檙 urddas y mae gwaith da yn ei gynnig, a bydd y cynllun arloesol hwn yn helpu pobl i gael mynediad at y cymorth hwn.

Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru:

Mae鈥檙 buddsoddiad hwn o 拢10 miliwn yn gam allweddol yn ein dull cydweithredol o gefnogi pobl ledled ein cenedl yn 么l i gyflogaeth dda. Trwy weithio mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth y DU, bydd cynlluniau arloesol Cymru yn creu dull wedi鈥檌 deilwra sy鈥檔 diwallu anghenion unigryw鈥檙 tair cymuned y mae鈥檔 anelu at eu helpu yn ei flwyddyn gyntaf.

Ein ffocws yw darparu gwasanaethau integredig sy鈥檔 cysylltu cymorth iechyd 芒 chyfleoedd cyflogaeth mewn gwirionedd, gan gydnabod bod gwaith da yn sylfaenol i les. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau na chaiff unrhyw un ei ddiystyru, ac mae鈥檙 rhaglen arloesol hon yn dangos sut y gall cymorth cyflogaeth datganoledig fod yn ymatebol i anghenion lleol wrth gyfrannu at ein huchelgeisiau economaidd ehangach i Gymru.

Ychwanegodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd y rhaglen 拢10 miliwn hon i gael pobl i weithio yn darparu cymorth wedi鈥檌 deilwra lle mae ei angen fwyaf.聽Mae Blaenau Gwent, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot wedi鈥檜 dewis fel ardaloedd lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Mae鈥檔 ddull rydyn ni鈥檔 gwybod ei fod yn gweithio ac yn adeiladu ar lwyddiant Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru sy鈥檔 cynnig cymorth yn barod i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw ennill sgiliau neu ddod i mewn i waith.

Mae gwaith yn gwella iechyd corfforol a meddyliol ac yn codi safon byw pobl. Mae鈥檙 cynllun arloesol yn sicrhau bod unrhyw un sy鈥檔 gallu gweithio yn cael ei helpu i gael cyflogaeth.

Mae鈥檙 cynlluniau arloesol yn garreg filltir ddiweddaraf o ran diwygiadau 拢240 miliwn Llywodraeth y DU sy鈥檔 cynnwys trawsnewid canolfannau gwaith i ganolbwyntio ar sgiliau a gyrfaoedd pobl, gwarantu cyfle i bobl ifanc ennill neu ddysgu a darparu cymorth iechyd meddwl i helpu pobl聽 ddechrau ac aros mewn gwaith.

Mae lansiad ddoe yng Nghymru yn dilyn lansiad y cynllun arloesol cyntaf yn Ne Swydd Efrog yn gynharach ym mis Ebrill, sy鈥檔 bwriadu darparu gwasanaeth newydd gan weithio gyda chyflogwyr i gyflogi鈥檙 rhai sydd 芒 chyflyrau iechyd 鈥� gyda鈥檙 ddwy raglen yn canolbwyntio ar hybu twf trwy gael cymunedau yn 么l i iechyd ac yn 么l i鈥檙 gwaith.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd cynlluniau arloesol tebyg yn lansio ym Manceinion Fwyaf, y Gogledd Ddwyrain Lloegr, Efrog a Gogledd Swydd Efrog, Gorllewin Swydd Efrog a thri yn Llundain.

Yn ogystal 芒鈥檙 cynlluniau arloesol anweithgarwch, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi hwb i鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol, wedi cynyddu鈥檙 Isafswm Cyflog Cenedlaethol ac yn creu swyddi mwy diogel drwy鈥檙 Bil Hawliau Cyflogaeth i gefnogi pobl i mewn i waith da a chael Prydain i dyfu eto.

Mae鈥檙 cyllid a ddarperir i Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen hon hefyd yn cyflenwi addewid y Prif Weinidog i roi hwb i gyfnod newydd o ddatganoli, gan ailosod perthynas 芒 Llywodraethau datganoledig fel bod ganddynt y cymorth sydd ei angen arnynt i chwarae eu rhan wrth gyflenwi twf economaidd fel rhan o鈥檙 Cynllun ar gyfer Newid.

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae鈥檙 naw cynllun arloesol anweithgarwch economaidd, gyda chymorth 拢125 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, yn rhoi p诺er i Lywodraeth Cymru a rhai Awdurdodau Maerol i gynllunio cynigion gwaith, iechyd a sgiliau ar y cyd.
  • Mae cyllid i鈥檙 Alban a Gogledd Iwerddon wedi鈥檌 ddatganoli yn y ffordd arferol.
  • Mae mesurau cymorth cyflogaeth yn cael eu trosglwyddo鈥檔 llawn i Ogledd Iwerddon. Cedwir gwasanaethau Canolfan Byd Gwaith yn 么l yng Nghymru a鈥檙 Alban, ond mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu mathau eraill o gymorth cyflogaeth.
  • Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu sefydlu trefniadau llywodraethu newydd gyda Llywodraeth Cymru a鈥檙 Alban i helpu i fframio trafodaethau ynghylch diwygio Canolfannau Gwaith a chytuno ar y ffordd orau o weithio mewn partneriaeth ar uchelgais cyflogaeth a rennir ar draws darpariaeth ddatganoledig a dapariaeth a gedwir yn 么l.
  • Ym mis Ebrill, daeth cynnydd Llywodraeth y DU i鈥檙 Isafswm Cyflog Cenedlaethol a鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol i rym, gan roi mwy o arian i bocedi pobl. Bydd gweithwyr llawn amser ar y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael hwb blynyddol o 拢1,400, tra gallai gweithwyr amser llawn ar yr Isafswm Cyflog weld hwb o 拢2,500 blynyddol.

Mae manylion y cynllun arloesol anweithgarwch cyntaf, yn Ne Swydd Efrog, ar gael yma:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Ebrill 2025