Cyfrif i lawr 100 Diwrnod i Ddiwrnod Lluoedd Arfog y DU 2018
Mae 100 diwrnod yn unig nes bod Llandudno yn ganolbwynt cenedlaethol ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog.

I nodi鈥檙 garreg filltir hon, mae person茅l lifreiog o鈥檙 Llynges Frenhinol, y Fyddin, a鈥檙 Awyrlu Brenhinol, yn ogystal 芒 nifer o staff mewn atyniadau ar draws Sir Conwy wedi dangos eu cefnogaeth i鈥檙 digwyddiad trwy arddangos baner Diwrnod y Lluoedd Arfog.
Mae鈥檙 cyffro鈥檔 cynyddu ar draws y rhanbarth ar gyfer y digwyddiad ar 30 Mehefin, 芒 llawer o bobl yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth a dweud diolch wrth ein milwyr presennol, ein cyn-filwyr, ein cadetiaid a鈥檜 teuluoedd am yr holl waith a gyflawnir ganddynt i鈥檔 cadw yn ddiogel gartref a thramor.
Ar 30 Mehefin, bydd gorymdaith o ryw 1,000 o filwyr presennol, cyn-filwyr, cadetiaid a bandiau ymdeithio鈥檔 cychwyn o Gofgolofn Llandudno am 11am i nodi dechrau dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog. Bydd yr orymdaith, sy鈥檔 argoeli bod yn arddangosiad syfrdanol o sain a lliw, yn ymdeithio ar hyd yr heol gyferbyn 芒鈥檙 promen芒d, gan orffen mewn saliwt i nifer o westeion arbennig ac urddasolion y tu allan i Venue Cymru.
Caiff milwyr presennol, cyn-filwyr, teuluoedd, cyfeillion ac ymwelwyr gyfle i rwydweithio gydag arddangosfeydd a gweithgareddau ar hyd promen芒d Llandudno a Chaeau Bodafon gan gynnwys awyrennau statig, cerbydau arfog a thanc plymio (mae鈥檙 holl asedau鈥檔 ddibynnol ar ofynion gweithrediadol). Mae鈥檔 gyfle rhagorol i aelodau鈥檙 cyhoedd weld asedion milwrol yn agos atynt.
Cyhoeddir rhaglen lawn gan gynnwys map o safle鈥檙 digwyddiad yn nes at yr amser.
Rhoddir diolch arbennig i gymorth Llywodraeth Cymru, ein partneriaid elusennol SSAFA, a鈥檙 Lleng Prydeinig Brenhinol am weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i wireddu鈥檙 digwyddiad hwn.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i gymunedau ar draws Cymru ddiolch i鈥檔 milwyr presennol, ein cyn-filwyr a鈥檜 teuluoedd am eu gwasanaeth, eu hymrwymiad a鈥檜 gwroldeb.
Ac ymhen 100 diwrnod, bydd pob llygad yn disgyn ar Landudno fel gwesteiwr y prif ddathliad cenedlaethol. Byddaf yn falch ac yn freintiedig i fod yn rhan o鈥檙 dathliadau hyn, gan ymuno 芒 miloedd o bobl i fynegi ein diolchgarwch i鈥檔 dynion a鈥檙 menywod y maent yn gwneud cymaint i gadw ein rhyddid.
FMeddai鈥檙 Prif Weinidog Carwyn Jones:
Rwyf wrth fy modd bod Cymru wedi鈥檌 dewis i gynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni, ac edrychaf ymlaen at ymuno 芒 chyfeillion mewn digwyddiadau yn Llandudno ymhen 100 diwrnod i ddiolch yn ffurfiol i鈥檔 milwyr. Mae gennym hanes milwrol balch yng Nghymru, a dymunaf hefyd dalu teyrnged i deuluoedd milwyr ein Lluoedd Arfog eleni am yr aberthau y maent wedi鈥檜 gwneud i gefnogi鈥檙 rheiny sydd mor ddihunan wedi dewis gwasanaethu eu gwlad.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Liz Roberts, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:
Mae cynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyflawniad enfawr i Landudno, ac er bod 100 diwrnod i fynd, mae llwyth anhygoel o waith eisoes wedi鈥檌 gyflawni y tu 么l i鈥檙 llenni i bwysleisio paham ein tref glan m么r yw鈥檙 amgylchedd cywir i gynnal y digwyddiad hwn ac i wneud cymuned y lluoedd arfog yn falch.
Ar ddydd Sadwrn 30 Mehefin, Llandudno fydd y canolbwynt ar gyfer y Deyrnas Unedig wrth i ni roi cydnabyddiaeth gyda鈥檔 gilydd i waith caled ac ymroddiad ein milwyr presennol a鈥檔 cyn-filwyr.
Mae鈥檔 bwysig nodi鈥檙 garreg filltir 100 diwrnod ac arddangos y gefnogaeth sydd gennym yn Sir Conwy, ar draws Gogledd Cymru, a gan y Lluoedd Arfog at y digwyddiad rhagorol hwn.
CMeddai Cyrnol Lance Patterson, Dirprwy Gadlywydd 160ain Brig芒d y Troedfilwyr a Phencadlys Cymru:
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog 2018 yn argoeli bod yn achlysur pwysig a gwych, nid yn unig ar gyfer Llandudno ond ar gyfer Cymru gyfan a gweddill y Deyrnas Unedig.