Llywodraeth y DU yn rhoi 拢51m i gefnogi arloesi yng Nghymru
Bydd y cyllid yn mynd i鈥檙 Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghaerdydd

- 拢51m o gyllid ychwanegol ar gyfer canolfan uwch-dechnoleg yng Nghymru
- Y gefnogaeth i arbenigedd Prydain ar ei lefel uchaf ers 40 mlynedd
- Ffigurau diweddaraf y Cynnyrch Domestig Gros (GDP) yn cadarnhau bod yr economi鈥檔 parhau i dyfu
Mae鈥檙 Canghellor wedi cyhoeddi heddiw y bydd ymchwilwyr ac entrepreneuriaid mwyaf blaenllaw Prydain yng Nghymru yn elwa o 拢51m ychwanegol i greu technolegau鈥檙 dyfodol.
Bydd Philip Hammond yn ehangu鈥檙 鈥榗anolfannau catapwlt鈥� llwyddiannus sy鈥檔 ysgogi arloesi ledled y wlad, yn cynnwys yng Nghymru, fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol uchelgeisiol a modern y DU. Mae鈥檙 cyllid newydd hwn yn cefnogi doniau mwyaf disglair Prydain - gan gefnogi gwaith mewn labordai uwch-dechnoleg, ffatr茂oedd sydd ar flaen y gad a chanolfannau hyfforddiant blaengar.
Hyd yn hyn mae wedi helpu i greu cannoedd o gynhyrchion, gwasanaethau a dyfeisiadau newydd, gan gynnwys synhwyrydd llygredd symudol y gall rhieni ei roi ar goets plentyn, therap茂au cellog i frwydro yn erbyn canser a chynyddu cyfraddau gwella pobl sydd wedi cael str么c, triniaeth LED i鈥檙 rheini sydd wedi colli eu golwg ac adenydd mwy effeithlon ar gyfer awyrennau.
Gwnaeth y Canghellor y cyhoeddiad y diwrnod y dangosodd y ffigurau GDP fod economi鈥檙 DU wedi tyfu 0.4%.
Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond:
Rydyn ni鈥檔 cefnogi cwmn茂au arloesol Prydain i dyfu a chreu swyddi, wrth i ni adeiladu economi sy鈥檔 addas ar gyfer y dyfodol.
Bydd y buddsoddiad heddiw o 拢51 miliwn i Gymru yn cefnogi arloeswyr ledled y wlad i greu technolegau鈥檙 dyfodol a鈥檙 swyddi gwell, 芒 th芒l uwch rydyn ni i gyd am eu gweld.
Bydd y cyllid yn mynd i鈥檙 Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghaerdydd.
Mae gan y DU enw da am arloesi ac mae鈥檔 meithrin y cryfder hwn drwy wneud y buddsoddiad mwyaf mewn ymchwil a datblygu ers 40 blynedd. Mae hyn yn rhan o鈥檔 dull cytbwys o weithredu, sef lleihau dyledion tra鈥檔 buddsoddi i greu mwy o gyfleoedd ar gyfer swyddi medrus 芒 th芒l uwch y dyfodol.
Mae鈥檙 rhwydwaith o ganolfannau catapwlt yn cefnogi sectorau a thechnolegau lle mae galw mawr yn mynd i fod amdanynt yn y dyfodol. Mae鈥檔 dwyn ynghyd y cwmn茂au gorau yn y DU o ran busnes, gwyddoniaeth a pheirianneg i weithio ochr yn ochr ym maes ymchwil a datblygu i lansio cynhyrchion, o feddwl am syniadau hyd at eu rhyddhau ar y farchnad. Mae鈥檔 helpu i ddileu鈥檙 rhwystrau i dyfu, sy鈥檔 gallu cynnwys mynediad at gyllid, cyfleusterau annigonol neu brinder sgiliau yn aml.