Stori newyddion

Pwerau ychwanegol i Gymru 鈥� beth sy鈥檔 digwydd nesaf?

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cytundeb Dydd G诺yl Dewi sy鈥檔 darparu glasbrint ar gyfer creu setliad datganoli mwy sefydlog, cliriach a pharhaus i Gymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
The Senedd building

Beth ddigwyddodd?

  • Ar 17 Tachwedd 2014, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, Raglen Datganoli Cymru, gydag ymrwymiad i gyhoeddi canlyniadau鈥檙 rhaglen erbyn Dydd G诺yl Dewi 2015.
  • Ar 27ain Chwefror, cyhoeddodd Mr Crabb ganlyniadau proses Dydd Gwyl Dewi, sy鈥檔 cynrychioli glasbrint ar gyfer symud datganoli yng Nghymru yn ei flaen yn y Senedd nesaf.

Beth yw鈥檙 pwerau newydd arfaethedig?

  • Mae cytundeb Dydd G诺yl Dewi yn datgan pecyn cadarn o bwerau ychwanegol ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, yn seiliedig ar gonsensws gwleidyddol, ac mae鈥檔 gweithredu nifer o鈥檙 argymhellion a wnaed gan Gomisiwn Silk yn ei ail adroddiad.
  • Maent yn cynnwys pwerau ychwanegol mewn meysydd fel trafnidiaeth, ynni, yr amgylchedd ac etholiadau i鈥檙 Cynullid Cenedlaethol ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

Y Model Datganoli ar gyfer Cymru:

  • Dylai Cymru symud at 鈥渇odel o bwerau cadw鈥� gyda鈥檙 gyfraith yn datgan yn glir pa gyfrifoldebau sydd wedi鈥檜 datganoli i Gymru a pha rai sy鈥檔 aros yn San Steffan.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi dechrau gweithio eisoes ar fodel pwerau cadw. Ar 么l cwblhau鈥檙 gwaith hwn, byddwn yn trafod y model arfaethedig gyda phart茂on sydd 芒 diddordeb, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad.

Materion Cyfansoddiadol:

  • Dylid datganoli trefniadau strwythurol a sefydliadol y Cynulliad, gan gynnwys etholiadau i鈥檙 Cynulliad ac i lywodraeth leol. *Hefyd dylai鈥檙 Cynulliad allu gostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau鈥檙 Cynulliad i 16 oed os yw鈥檔 dymuno.
  • Gyda鈥檌 gilydd, mae hyn yn golygu y bydd y Cynulliad yn gyfrifol am bob agwedd bron ar ei fusnes, o benderfynu sut mae Aelodau Cynulliad yn cael eu hethol i benderfynu sut mae ei Bwyllgorau鈥檔 cael eu trefnu.

Cyfoeth Naturiol:

  • Dylai Llywodraeth Cymru benderfynu ar brosiectau ynni hyd at 350 megawat. Byddai hyn yn sicrhau trefn ganiat谩u sy鈥檔 llawer cliriach ac yn rhoi adnoddau newydd pwysig i Lywodraeth Cymru i helpu gyda rhoi ei pholisi ynni ar waith, a鈥檙 newid at economi carbon isel.

Trafnidiaeth:

  • Dylid datganoli cyfyngiadau cyflymder, datblygiad porthladdoedd a rheoliadau ar gyfer bysus a thacsis i鈥檙 Cynulliad Cenedlaethol. Byddai hyn yn ategu鈥檙 pwerau sydd gan y Cynulliad eisoes dros drafnidiaeth.
  • Mae Llywodraeth y DU eisoes yn datganoli rhyddfraint rheilffordd Cymru a鈥檙 Gororau.

Lechyd:

  • Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i barhau 芒鈥檌 dull cydweithredol o weithio, sy鈥檔 sicrhau bod y GIG yng Nghymru a鈥檙 GIG yn Lloegr yn gallu cydweithio ar fentrau cenedlaethol penodol neu鈥檔 fwy lleol.
  • Mae鈥檙 Adran Iechyd, y GIG yn Lloegr a Llywodraeth Cymru yn adolygu鈥檙 protocol ar ofal iechyd ar draws y ffin ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau bod y trefniadau yn y dyfodol yn diwallu anghenion pobl a gwasanaethau iechyd y naill ochr i鈥檙 ffin.

Cyflogaeth a sgiliau:

  • Mae cyflogaeth a hyfforddiant yn faes hanfodol bwysig ble mae鈥檔 rhaid rheoli鈥檙 ffin rhwng gwasanaethau wedi鈥檜 datganoli a gwasanaethau heb eu datganoli鈥檔 effeithiol.
  • Mae Llywodraeth y DU yn aros yn eiddgar i glywed argymhellion terfynol y Gweithgor Mynediad at Gyflogaeth rhynglywodraethol sydd wedi bod yn gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar gydlynu rhaglenni cyflogaeth yng Nghymru yn effeithiol.

Darlledu:

  • Dylai Gweinidogion Cymru gael p诺er i benodi un aelod o fwrdd Ofcom sy鈥檔 gallu cynrychioli buddiannau Cymru.
  • Dylai鈥檙 BBC ac S4C ymrwymo i anfon eu hadroddiadau a鈥檜 cyfrifon blynyddol i鈥檞 cyflwyno ger bron y Cynulliad.
  • Dylid parhau i reoleiddio darlledu ar lefel y DU, o ystyried y r么l bwysig y mae darlledwyr yn ei chwarae ym mywyd diwylliannol y DU a鈥檙 raddfa y mae鈥檙 sector yn gweithredu arni yn yr oes ddigidol.

Yr Iaith Gymraeg:

  • Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo鈥檔 llawn i鈥檙 iaith Gymraeg ac i geisio cyfleoedd i godi proffil yr iaith Gymraeg ar draws y llywodraeth.
  • Ar hyn o bryd mae Swyddfa Cymru yn cynnal adolygiad o鈥檙 gwasanaethau y mae llywodraeth y DU yn eu darparu yn y Gymraeg er mwyn penderfynu sut gallant ddiwallu anghenion siaradwyr Cymraeg yn well.

Comisiwn Smith:

  • Bydd Llywodraeth y DU yn edrych ar argymhellion anghyllidol Smith sy鈥檔 berthnasol i Gymru. Bydd hyn yn galluogi鈥檙 llywodraeth newydd i wneud penderfyniadau鈥檔 fuan yn y Senedd nesaf ynghylch a ddylid rhoi rhagor o argymhellion Smith ar waith ar gyfer Cymru.
  • Dylid datganoli鈥檙 gwaith o drwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yng Nghymru (ffracio).

Cyllid:

  • Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno 鈥渃yllid gwaelodol鈥� i warchod cyllid perthnasol Cymru ac i roi sicrwydd i Lywodraeth Cymru gynllunio ar gyfer y dyfodol a datblygu鈥檙 economi.
  • Cytunir ar union lefel y cyllid gwaelodol, a鈥檙 cyfrwng ar gyfer ei gyflwyno, ochr yn ochr 芒鈥檙 Adolygiad nesaf o Wariant.
  • Gwneir hyn gan fod disgwyl i Lywodraeth Cymru alw refferendwm ar bwerau treth incwm yn y Senedd nesaf.

Toll Teithwyr Awyr:

  • Bydd Llywodraeth y DU yn ystyried yr achos a鈥檙 opsiynau ar gyfer datganoli rhagor o bwerau i鈥檙 Cynulliad Cenedlaethol dros Doll Teithwyr Awyr.
 " "

Beth sy鈥檔 digwydd nawr?

  • Mae canlyniadau proses Dydd G诺yl Dewi yn darparu glasbrint ar gyfer setliad datganoli cliriach a mwy sefydlog ar gyfer Cymru.
  • Mae Llywodraeth y DU yn gobeithio y bydd eu gweithredu鈥檔 rhoi terfyn ar y drafodaeth barhaus yng Nghymru ar ddosbarthu pwerau, ac yn galluogi鈥檙 sefydliadau datganoledig i ganolbwyntio eu hymdrechion ar greu twf economaidd, swyddi a gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon.
  • Mae鈥檙 consensws gwleidyddol hwn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer Bil Cymru newydd yn gynnar yn y Senedd nesaf, i ddeddfu dros setliad datganoli newydd ar gyfer Cymru.

Darllenwch Ddogfen Dydd G诺yl Dewi yn llawn yma

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Chwefror 2015