Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn galw ar ysgolion Cymru i gofrestru ar gyfer rhaglen newydd sy鈥檔 cael cymorth y DU i gysylltu ysgolion 芒 dosbarthiadau yn Affrica, Asia a鈥檙 Dwyrain Canol

Bydd Ysgrifennydd Cymru yn ymweld ag Ysgol Heronsbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr i lansio鈥檙 rhaglen Connecting Classrooms through Global Learning yng Nghymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn ymweld ag Ysgol Heronsbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn nes ymlaen heddiw (dydd Llun, 12 Tachwedd), i annog rhagor o ysgolion yng Nghymru i gofrestru ar gyfer y rhaglen , sy鈥檔 cael cymorth gan y DU ac a lansiwyd yn Lloegr ym mis Medi.

Mae鈥檙 cynllun yn cael ei gyllido ar y cyd gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a鈥檙 British Council, ac mae鈥檔 uno disgyblion yn y DU 芒 phlant ysgol ar draws y byd er mwyn meithrin cyfeillgarwch a gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion byd-eang.

Nod y rhaglen yw cysylltu dros dair miliwn o ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd yn y DU ag ysgolion mewn gwledydd ledled Affrica, Asia a鈥檙 Dwyrain Canol. Bydd hefyd yn hyfforddi 60,000 o athrawon ac arweinwyr ysgolion yn y DU a gwledydd datblygol i roi gwybodaeth a sgiliau i鈥檙 disgyblion allu byw a gweithio yn yr economi fyd-eang.

Mae Heronsbridge yn un o鈥檙 nifer cynyddol o ysgolion yng Nghymru sydd eisoes yn cymryd rhan yn y rhaglen, ac mae ganddi gysylltiadau ag ysgolion yn Tanzania yn barod. Mae athrawon a disgyblion yn cymryd rhan mewn cynlluniau cyfnewid yn rheolaidd ac yn rhannu gwaith ar bynciau fel diwylliant, hawliau a chyfrifoldebau a鈥檙 amgylchedd.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae rhaglen Llywodraeth y DU - Connecting Classrooms through Global Learning - yn ffordd werthfawr i blant yma yng Nghymru gael golwg ehangach ar y byd yn ifanc iawn, gan ddysgu mwy am y materion sy鈥檔 effeithio ar wledydd ledled y byd. Mae hefyd yn gyfle i ysgolion ar draws y byd elwa ar gymorth a gwybodaeth athrawon ym Mhrydain.

Rwy鈥檔 annog ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru i gofrestru i gymryd rhan mewn cynllun mor ystyrlon sy鈥檔 gweithredu ar draws rhwydwaith byd-eang helaeth.

Mae Connecting Classrooms through Global Learning yn rhan o gynllun sy鈥檔 cyflwyno 17 Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig i fyfyrwyr ac athrawon yn y DU ac ar draws y byd. Bwriad y Nodau yw arwain at ddyfodol mwy cynaliadwy i bawb, ac maent yn cynnwys mynd i鈥檙 afael 芒 newyn, darparu d诺r gl芒n ac ynni gl芒n fforddiadwy. Mae ymchwil wedi dangos y gall 鈥榗ysylltu ysgolion鈥� wella ansawdd yr addysgu a鈥檙 dysgu yn yr ysgolion dan sylw, gan wella ymgysylltiad y disgyblion a chymhelliant yr athrawon.

Dywedodd Penny Mordaunt, yr Ysgrifennydd dros Ddatblygu Rhyngwladol:

Mae Connecting Classrooms through Global Learning o fudd i鈥檙 DU ac o fudd i鈥檙 gwledydd datblygol.

Bydd y rhaglen yn meithrin partneriaethau dwfn ac ystyrlon rhwng ysgolion a chymunedau yn y DU a gwledydd ar draws y byd.

Rwyf wedi clywed straeon hyfryd yn barod am sut mae鈥檙 plant sy鈥檔 cymryd rhan wedi sylweddoli faint sydd ganddynt yn gyffredin, a faint maen nhw wedi鈥檌 ddysgu gan y naill a鈥檙 llall, ac wedi meithrin cyfeillgarwch am oes.

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru:

Mae Connecting Classrooms through Global Learning yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu鈥檙 wybodaeth, y sgiliau a鈥檙 ddealltwriaeth sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu mewn cymdeithas sy鈥檔 fwyfwy byd-eang. Mae鈥檙 bartneriaeth rhwng Ysgol Heronsbridge ac ysgolion yn Affrica yn dangos cymaint o effaith y gall y cysylltiadau hyn ei chael ar ddisgyblion, athrawon a鈥檙 gymuned leol. Gobeithio y bydd ysgolion o bob cwr o Gymru yn cofrestru i gymryd rhan.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Tachwedd 2018