Alun Cairns yn llongyfarch y cwmni digidol o Gymru, One Team Logic, am dderbyn Gwobr y Frenhines am Fenter
Ysgrifennydd Cymru yn ymweld 芒 chwmni yn Nhonysguboriau sydd wedi cael ei anrhydeddu am ei feddalwedd diogelu arloesol

Mi wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns ymweld ag [One Team Logic(http://www.oneteamlogic.co.uk) yn Nhonysguboriau heddiw (dydd Iau 7 Mehefin) i gydnabod llwyddiant y cwmni yn ennill Gwobr y Frenhines am Fenter yn y categori Arloesi am eu meddalwedd diogelu arloesol, , sef datrysiad meddalwedd dibynadwy a diogel ar gyfer amddiffyn plant a phobl ifanc sy鈥檔 agored i niwed.
Nawr yn ei 52fed blwyddyn, Gwobrau鈥檙 Frenhines am Fenter yw gwobrau busnes mwyaf mawreddog y DU, ac maent yn cydnabod ac yn dathlu rhagoriaeth ym myd busnes ledled y DU mewn meysydd sy鈥檔 cynnwys arloesi, masnach ryngwladol, datblygu cynaliadwy, a hybu cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol.
Cafodd meddalwedd MyConcern ei ddatblygu i gynorthwyo pobl (megis athrawon) sy鈥檔 gyfrifol am les pobl ifanc a phobl sy鈥檔 agored i niwed i fod yn gallu adrodd a chofnodi pryderon yn rhwydd. Gan fod dros 3000 o blant yng Nghymru wedi鈥檜 nodi yn rhai sydd angen amddiffyniad rhag cam-drin a鈥檙 ffaith fod cynnydd o 25% wedi bod yn y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant dan un ar bymtheg oed yng Nghymru, ysgolion a cholegau sy鈥檔 aml yn dod yn ymwybodol gyntaf am y problemau hyn.*
Mae鈥檙 system hefyd yn gallu adnabod arwyddion fod gan bobl ifanc broblemau iechyd meddwl cymhleth, gan gynnwys hunan-niweidio. Mae鈥檔 galluogi ysgolion, colegau a sefydliadau eraill i gofnodi a rheoli materion diogelu fel bwlio, cam-drin cyffuriau ac alcohol, cam-drin domestig a thrais ar sail rhywedd yn gysylltiedig 芒 phlant, pobl ifanc ac oedolion sy鈥檔 agored i niwed.
Cafodd One Team Logic ei sefydlu yn 2014, ac ers hynny mae wedi creu bron i 50 o swyddi yn Ne Cymru, yn ogystal ag 14 o swyddi eraill ledled Cymru a Lloegr. Bydd dau o鈥檙 sylfaenwyr, sef Martin Baker QPM a Darryl Morton, yn mynychu derbyniad swyddogol i enillwyr y gwobrau gydag Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru ym Mhalas Buckingham yn nes ymlaen y mis yma.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Gwobrau鈥檙 Frenhines yn tynnu sylw at y goreuon ymysg busnesau Prydain 鈥� mae鈥檙 gwobrau鈥檔 cydnabod eu hysbryd entrepreneuraidd a鈥檜 huchelgeisiau i lwyddo gartref a ledled y byd.
Dylai One Team Logic fod yn falch o鈥檜 llwyddiant yn darparu datrysiad digidol arloesol sy鈥檔 delio 芒 materion sy鈥檔 newid drwy鈥檙 amser ac sy鈥檔 effeithio ar ein plant a鈥檔 pobl ifanc. Gobeithio y bydd eu stori yn ysbrydoli busnesau eraill yng Nghymru i ymgeisio am y wobr fawreddog hon yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth y DU yn gwneud popeth o fewn ei gallu i feithrin uchelgeisiau a doniau busnesau yng Nghymru drwy greu鈥檙 amodau cywir ar gyfer twf economaidd a hwyluso mwy o gyfleoedd i fasnachu a buddsoddi rhwng Cymru, y Deyrnas Unedig a ledled y byd.
Dywedodd Mike Glanville, Cyfarwyddwr Diogelu yn One Team Logic:
Mae鈥檔 anrhydedd i ni fod gwaith ein t卯m cyfan wedi cael ei gydnabod gan Ei Mawrhydi y Frenhines drwy gael Gwobrau鈥檙 Frenhines am Fenter. Peth rhyfeddol a hynod bleserus yw cael cydnabyddiaeth mor gyhoeddus i鈥檙 gwaith arloesi rydyn ni wedi鈥檌 wneud ym maes diogelu ac amddiffyn plant.
Oherwydd yr heriau sy鈥檔 wynebu ysgolion a cholegau, rydyn ni鈥檔 credu bod defnyddio MyConcern nid yn unig yn trawsnewid y ffordd y mae gwaith diogelu yn cael ei reoli ond hefyd yn helpu i gefnogi arweinwyr ysgolion ac aelodau eraill o鈥檙 staff yn eu gwaith hollbwysig fel ymarferwyr ym maes diogelu. Fel cwmni diogelu yng Nghymru, rydyn ni鈥檔 falch o weithio ochr yn ochr 芒 chynifer o ysgolion a cholegau ledled Cymru yn eu cefnogi i gadw plant yn ddiogel rhag niwed.
Mae鈥檔 bleser mawr i ni fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gallu ymweld 芒鈥檔 swyddfeydd yn Nhonysguboriau i gydnabod Gwobr y Frenhines ac i dreulio amser gyda鈥檔 gweithlu ymroddgar a dawnus.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: