Alun Cairns yn targedu鈥檌 wythfed Marathon Llundain
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn codi arian ar gyfer Dementia Revolution a'r C诺n Tywys

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn paratoi i redeg Marathon Llundain am yr wythfed tro ar ddydd Sul (28 Ebrill).
Roedd amser gorau personol Mr Cairns o 3:28:02 yn 2016 yn ei roi yn y seithfed safle ar y rhestr o redwyr Aelodau Seneddol gyflymaf.
Eleni bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn codi arian ar gyfer Dementia Revolution a鈥檙 C诺n Tywys yn y DU, yn ceisio cyfateb y 拢10,000 a gododd ar gyfer NSPCC Cymru ac elusen cymorth i fenywod Atal y Fro y llynedd.
Mae Dementia Revolution yn ymdrech flwyddyn o hyd a drefnwyd ar y cyd rhwng y Gymdeithas Alzheimer鈥檚 ac Alzheimer鈥檚 Research i godi arian drwy Farathon Llundain.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:
Rwy鈥檔 edrych ymlaen at gymryd rhan yn y ras y flwyddyn hon a rhannu atgofion gyda rhedwyr o bob gallu, sydd i gyd gyda chymhellion eu hun ar gyfer cwblhau鈥檙 cwrs.
Dw i鈥檔 cefnogi elusennau sy鈥檔 agos at fy nghalon ac rwy鈥檔 cael fy ysbrydoli gan eu gwaith i ddarparu gwasanaethau a gwaith ymchwil hanfodol i filoedd o bobl sy鈥檔 agored i niwed yng Nghymru a ledled y DU.
Roedd y marathon y llynedd yn her oherwydd y gwres, felly dw i鈥檔 gobeithio am amodau oerach i gofnodi amser parchus a chodi digon o arian ar gyfer y ddau achos mor deilwng hyn y tro yma.
DIWEDD
I roi arian i ddewisiadau elusennau Mr Cairns,