Alun Cairns: "Gall Cymru arwain y ffordd yn ein chwyldro peirianyddol"
Ysgrifennydd Cymru'n ymweld 芒'r cwmni peirianneg enfawr Renishaw ym Meisgyn

Ysgrifennydd Cymru鈥檔 ymweld 芒鈥檙 cwmni peirianneg enfawr Renishaw ym Meisgyn
Gallai peirianneg yng Nghymru chwyldroi鈥檙 economi a rhoi鈥檙 sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo yn y byd modern. Hyn fydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei ddweud heddiw wrth iddo gwrdd 芒 chynrychiolwyr o gwmni peirianneg Renishaw ym mhentref Meisgyn (dydd Iau 25 Hydref).
Mae鈥檙 cwmni byd-eang hwn, sydd 芒 80 o swyddfeydd mewn 36 o wledydd, yn arbenigo mewn mesur trachywir a gofal iechyd, gan gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau a ddefnyddir at ddibenion mor amrywiol 芒 gwneud injans jet a thyrbinau gwynt, deintyddiaeth a llawdriniaeth ar yr ymennydd.
Mae鈥檙 safle ym Meisgyn yn cyflogi dros 400 o staff gan gynnwys prentisiaid sy鈥檔 astudio tuag at gymwysterau STEM. Bydd Mr Cairns yn mynd o gwmpas y safle, sy鈥檔 arbenigo mewn gweithgynhyrchu trachywir ac argraffu metel 3D, a hefyd o amgylch Canolfan Rhagoriaeth Gofal Iechyd Renishaw, sy鈥檔 cynnwys cynhyrchu strwythurau deintyddol a mewnblaniadau i ail-greu wynebau. Bydd Ysgrifennydd Cymru hefyd yn clywed drosto鈥檌 hun sut y mae Renishaw yn paratoi pobl ifanc am yrfa mewn peirianneg pan fydd yn cwrdd 芒 Stephen Pickles, Technegydd Datblygu Prosesau a Phrentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru yn 2017.
Daw鈥檙 ymweliad yn ystod ymgyrch Blwyddyn o Beirianneg Llywodraeth y DU, sy鈥檔 dathlu byd a rhyfeddod peirianneg gyda鈥檙 nod o roi hwb i beirianneg ym mhob rhan o鈥檙 DU a sicrhau bod gan bawb y sgiliau sydd ei angen arnynt i ffynnu mewn economi fodern.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Drwy adeiladu ar gryfderau Cymru, mae Llywodraeth y DU eisiau gweithio鈥檔 agos 芒 busnesau a鈥檙 diwydiant i gefnogi a datblygu ein galluoedd peirianyddol a sicrhau bod gennym y sgiliau yn eu lle i gynnal economi gref a gwydn sy鈥檔 barod am y dyfodol. Dyna pam ein bod yn buddsoddi yn sgiliau, diwydiannau a seilwaith y dyfodol drwy鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol. Bydd hyn yn adeiladu ar sylfeini cynhyrchedd diwydiant, gan gynnwys annog arloesi a sicrhau swyddi da gan ysgogi uwchraddio sylweddol ar seilwaith y DU a denu buddsoddiad fel mai鈥檙 DU yw鈥檙 lle gorau i gychwyn a datblygu busnes. Mae gan hyn i gyd y capasiti i greu cymunedau ffyniannus ym mhob rhan o鈥檙 wlad, ac mae cwmn茂au fel Renishaw yn ein helpu i wireddu鈥檙 uchelgais hwn drwy hyfforddi cannoedd o bobl yn ne Cymru i gyflawni eu potensial a gwneud cyfraniad gwerthfawr i鈥檔 heconomi.
Meddai William Lee, Prif Weithredwr Renishaw:
Mae Renishaw wedi buddsoddi dros 拢45 miliwn yn ein cyfleusterau ger Caerdydd ers 2011 fel rhan o ymrwymiad tymor hir i ddatblygu ein presenoldeb yng Nghymru.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweld sut y mae鈥檙 buddsoddiad hwn o fudd i bobl ar draws de Cymru gan gynnwys drwy raglen allgymorth addysg helaeth mewn canolfan ddynodedig i ysgolion cynradd ac uwchradd ar y safle. Mae hyn i gyd yn rhan o sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau angenrheidiol i helpu i ddatblygu ein busnes dros y blynyddoedd nesaf, fel y gallwn gynnal twf y cwmni ar gyfer y dyfodol.