Datganiad i'r wasg

‘Rydyn ni’n llywodraeth sydd o blaid busnesau� yw neges y Gweinidog i uwchgynhadledd Ffederasiwn y Busnesau Bach

Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson yn dangos ymrwymiad i fusnesau bach yn y gynhadledd yn Abertawe heddiw

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Jenny Randerson, mai busnesau bach oedd ‘anadl einioes yr economi yng Nghymru� wrth iddi agor Uwchgynhadledd Polisi Ffederasiwn y Busnesau Bach yn ne Cymru heddiw (17 Hydref 2014).

Ar ôl Uwchgynhadledd NATO, ac yn y cyfnod cyn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yng Nghasnewydd ar 21 Tachwedd, pwysleisiodd Gweinidog Swyddfa Cymru fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i’r cynllun economaidd hirdymor ar gyfer Cymru ac yn cefnogi bwrw ymlaen i leihau biwrocratiaeth ddiangen a gwella mynediad at gyllid i fusnesau bach. Amlinellodd y Gweinidog ei dyheadau i weld rhagor o fenywod mewn swyddi uwch mewn busnesau yng Nghymru ac i ferched ifanc ddilyn gyrfaoedd a ddilynir gan ddynion yn draddodiadol.

Wrth annerch y gynulleidfa, dywedodd y Farwnes Randerson:

Busnesau bach yw anadl einioes yr economi, ac rydyn ni fel llywodraeth, yn falch iawn o fod yn cydweithio’n uniongyrchol â Ffederasiwn y Busnesau Bach a’r busnesau y maen nhw’n eu cynrychioli.

Ein rôl ni fel llywodraeth yw rhoi’r cymorth a’r cynlluniau angenrheidiol i fusnesau i’w helpu i arloesi a thyfu. Rydyn ni’n gweithio i fynd i’r afael â’r materion sydd wir yn bwysig i fusnesau bach. Rydyn ni’n llywodraeth sydd o blaid busnesau.

Dywedodd Janet Jones, Cadeirydd Uned Polisi Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach:

Mae’r Ffederasiwn yn falch iawn o groesawu Gweinidog Swyddfa Cymru, Jenny Randerson, i’r uwchgynhadledd yn Abertawe heddiw. Hyrwyddo ac arwain busnesau bach yma yng Nghymru yw ein gwaith ni, wrth gwrs, ac mae cefnogaeth Llywodraeth y DU wrth i ni wneud hynny’n amhrisiadwy. Mae busnesau bach yn hanfodol i economi Cymru, ac rydyn ni’n falch bod eu rôl yn cael ei chymeradwyo a’i gwerthfawrogi fel hyn�.

Cynhelir cynhadledd Ffederasiwn y Busnesau Bach yn Abertawe heddiw rhwng 11:00 a 16:15. Bydd yn trafod themâu:

  • Entrepreneuriaeth Ieuenctid
  • Cyllid
  • Y Gymru rydym am ei gweld

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Hydref 2014