Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, yn galw ar fwy o fenywod i ymuno 芒 byd busnes
Yr wythnos hon, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, yn galw ar fwy o fenywod i ymuno 芒 byd busnes.

Yr wythnos hon, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, yn galw ar fwy o fenywod i ymuno 芒 byd busnes. Bydd yn cwrdd 芒 menywod busnes o bob cwr o Gymru, i ysbrydoli menywod i fentro i fyd busnes a dathlu eu cyfraniad i economi Cymru ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Bydd y Farwnes Randerson yn cwrdd 芒 menywod llwyddiannus sy鈥檔 gweithio mewn amrywiol ddiwydiannau o arlwyo a chrefftau i ddiogelwch a gwyddoniaeth. Bydd yn manteisio ar y cyfle hwn i hyrwyddo busnes fel gyrfa i fenywod, yn nodi sut mae llywodraeth y DU yn cefnogi menywod ym myd busnes ac yn clywed straeon ysbrydoledig am sut y maent wedi sicrhau llwyddiant.
Mae ffigurau鈥檔 dangos bod mwy o fenywod nag erioed yn gweithio yng Nghymru nawr 鈥� mae oddeutu 650,000 o fenywod yn gweithio yng Nghymru 鈥� cynnydd o 17,000 er mis Mai 2010.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Rydyn ni鈥檔 helpu menywod yn y gwaith drwy leihau costau gofal plant, mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bwlch cyflog rhwng y ddau ryw, cyflwyno mwy o gyfleoedd gweithio鈥檔 hyblyg ac absenoldeb i rieni ar y cyd.
Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw 鈥楨wch Amdani鈥� 鈥� ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gwrdd 芒 rhai o fenywod anhygoel Cymru sydd wedi gwneud hynny 鈥� gwneud i bethau ddigwydd.
Mae鈥檙 menywod hyn yn gaffaeliaid i Gymru ac yn enghraifft wych o鈥檙 hyn y gellir ei gyflawni gyda gwaith caled a dyfalbarhad.
Ond mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb 鈥� i gefnogi, annog ac addysgu menywod i鈥檞 helpu i ymdrechu, a chyflawni eu breuddwydion. Dyma beth yw diben Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Bydd y Farwnes Randerson yn mynd i siop goffi a th欧 bwyta The Green yng Nghaerllion ar 6 Mawrth. Emma Evans, a dysgodd ei hun i fod yn gogydd, sy鈥檔 rhedeg y busnes. Sefydlodd Emma Glwb Swper Cyfrinachol hefyd 鈥� digwyddiadau ciniawa dros dro 鈥� a rhwydwaith ar gyfer mamau o Gymru sydd ym myd busnes, Welsh Mums in Business, i gefnogi menywod sydd 芒 phlant i fentro i fyd busnes.
Bydd y Gweinidog yn cwrdd 芒 Lisa Standley - un o aelodau鈥檙 rhwydwaith Welsh Mums in Business a sylfaenydd Cottage Coppicing yng Nghaerllion, sy鈥檔 creu cynnyrch crefftau coed gwledig gan ddefnyddio offer a dulliau traddodiadol a choed lleol cynaliadwy.
Bydd y Farwnes Randerson yn galw heibio IDS Security Systems Ltd 鈥� sy鈥檔 arbenigo yng ngwaith dylunio, gosod a chynnal a chadw systemau diogelwch ac amddiffyn rhag t芒n 鈥� i gwrdd 芒鈥檙 rheolwr-gyfarwyddwr Julie Halton a鈥檙 cyfarwyddwr gweithrediadau Jennifer Horan.
Bydd hefyd yn cwrdd ag Abi Carter, sylfaenydd Forensic Resources Ltd - cwmni ymgynghorwyr gwyddoniaeth fforensig sy鈥檔 darparu gwasanaethau tyst arbenigol i dimau cyfreithiol a chwmn茂au yswiriant ledled y DU.
Bydd y Farwnes Randerson yn tynnu sylw at lwyddiannau busnes menywod ledled Cymru mewn Digwyddiad Menywod mewn Busnes yng Nghwmni Bragu Tomos Watkins ar 9 Mawrth.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys Conni Parrie, Prif Swyddog Gweithredol Bragdy Hurns ac enillydd Cymraes y Flwyddyn yn y gorffennol, a Rachel Fleri - sylfaenydd a rheolwr-gyfarwyddwr Specialist Security, a fydd yn rhannu eu profiadau o sefydlu a rhedeg busnes mewn diwydiant lle mae dynion amlycaf.