Y Farwnes Randerson yn edrych ar Ynni, Addysg a menywod entrepreneuraidd yng ngorllewin Cymru
Ynni, Addysg a menywod entrepreneuraidd i gyd yn hollbwysig i economi sy鈥檔 gadarn ac sy鈥檔 ffynnu, yn 么l y Farwnes Randerson wrth ymweld 芒 Gorllewin Cymru

Ynni
Yn dilyn ei haraith gerbron Marchnad Adeiladu Gwyrdd Cymru wythnos diwethaf lle鈥檙 oedd yn datgan y gallai Cymru arwain y ffordd yn y DU o ran datblygiadau ynni, wythnos yma bydd Gweinidog Swyddfa Cymru yn atgyfnerthu ei r么l ymhellach yn niwydiant ynni Cymru.
Bydd y Farwnes Randerson, sy鈥檔 aelod o鈥檙 tasglu sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒 materion sy鈥檔 effeithio ar ei gyn-weithwyr, yn ymweld 芒 Murco, y cwmni olew yn Aberdaugleddau. Bydd hi hefyd yn trafod rhoi cefnogaeth gadarn mewn lle ar gyfer y cyn-weithwyr 芒 chadeirydd y tasglu.
Bydd y Farwnes Randerson wedyn ymweld 芒鈥檙 cwmni olew enfawr Valero i gael taith o amgylch y safle ac mae鈥檔 arbennig o frwdfrydig ynghylch cwrdd 芒鈥檜 prentisiaid.
Dywedodd y gweinidog:
Mae鈥檙 sector ynni olew yn bwysig i economi Cymru 鈥� yn draddodiadol mae wedi darparu swyddi mewn ardaloedd sy鈥檔 fwy gwledig ac, yn rhyngwladol, mae鈥檔 codi ein proffil ac yn creu cysylltiadau masnachu ar gyfer ein gwlad ym mhedwar ban byd sydd, maes o law, yn rhoi hwb i鈥檙 economi. Mae strategaeth ddiwydiannol llywodraeth y DU i roi hwb i economi y DU a Chymru yn un gadarn a bydd yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ddiwydiant yng Nghymru.
Rwyf yn falch iawn o gael bod yma yn cwrdd 芒 phrentisiaid yn Valero heddiw. Mae Llywodraeth y DU yn creu cyfleoedd gyrfa tymor hir i bobl dalentog sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed ac mae prentisiaethau鈥檔 cynnig cyfleoedd gwych i bobl ifanc sy鈥檔 fodlon gweithio鈥檔 galed.
Addysg
Bydd y Gweinidog yn ymweld 芒 champws Llanbedr Pont Steffan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Benfro yn Hwlffordd. Mae鈥檙 ddau sefydliad yn chwarae rhan werthfawr wrth ddenu myfyrwyr i鈥檙 ardal a, gyda鈥檜 cyfleoedd academaidd a galwedigaethol, maen nhw鈥檔 rhoi Cymru ar lwyfan y byd yn academaidd.
Yng Ngholeg Sir Benfro bydd hi鈥檔 mynd o amgylch eu hadran peirianneg newydd gyda鈥檌 hystafell rhith reoli, sydd wedi鈥檌 dylunio i hyfforddi peirianwyr y dyfodol:
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Mae cynigion addysgol arloesol fel yr un difyr yma gyda鈥檌 dechnoleg flaengar yn ein rhoi mewn sefyllfa i gystadlu 芒 cholegau ar draws y byd. Rwyf yn arbennig o awyddus i weld mwy o fenywod ifanc yn dewis gyrfaoedd mewn pynciau peirianneg a thechnoleg ac yn astudio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Bydd y math hwn o arloesedd yn eu denu i astudio yma ac, maes o law, yn rhoi hwb i economi鈥檙 ardal.
Menywod mewn busnes yng Nghymru wledig
Bydd y Farwnes Randerson, rhywun sydd wedi ennill enw da am eiriol dros hawliau menywod ac sy鈥檔 ymgyrchydd dros roi diwedd ar anffurfio organau cenhedlu benywod, hefyd yn bresennol mewn sesiwn bwrdd crwn anffurfiol yn Valero i drafod swyddi yn y diwydiant i fenywod. Bydd hefyd yn ymweld 芒 Fferm Geifr Chuckling Goats ym Mrynhoffnant y tu allan i Landysul, menter lwyddiannus sy鈥檔 cael ei rhedeg gan Shann Jones a gafodd ei geni yn America. Mae鈥檙 fenter yn cynhyrchu colur enwog sydd wedi鈥檌 seilio ar laeth geifr ac sy鈥檔 dod yn fwyfwy poblogaidd.
Dywedodd y Gweinidog:
Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar ein gwarthaf, 8 Mawrth, rwyf yn arbennig o falch o allu cefnogi menywod mewn busnes yn y sesiwn bwrdd crwn - a gweld hynny ar waith. Mae menywod fel Shann yn ysbrydoliaeth i eraill ac yn enghraifft o fenywod busnes llwyddiannus yn creu swyddi sy鈥檔 rhoi hwb i鈥檙 economi. Mae creu swyddi wrth galon adeiladu economi sy鈥檔 gryfach ac yn fwy gwydn ac mae menywod yn gallu creu swyddi ac fe ddylen nhw fod yn gwneud hynny hefyd.
Ychwanegodd Shann Jones:
Mae鈥檙 geifr 鈥� a鈥檙 bobl 鈥� yn Chuckling Goat yn falch o groesawu鈥檙 Farwnes Randerson i鈥檔 tyddyn. Fel busnes bach sy鈥檔 seiliedig ar arloesi ac arallgyfeirio fferm, rydyn ni bob amser wedi edmygu cefnogaeth gref y gweinidog at fenywod mewn busnes. Rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at gael dangos ein ffatri sebon newydd sbon, ein siop a鈥檔 swyddfa - yn ogystal 芒鈥檙 ysguboriau hefyd wrth gwrs.