Buddion ffeilio ar lein
Cyfrifwyr yn dweud wrthym am fuddion ffeilio ar lein iddyn nhw.

Gall rhan fwyaf o鈥檙 dogfennau cael eu ffeilio .
Gofynasom i gwmn茂au cyfrifyddu o gwmpas y Deyrnas Unedig pam eu bod nhw鈥檔 ffeilio鈥檔 ddigidol gyda ni. Dywedasant wrthym eu bod yn ei chael yn haws, yn gynt, yn fwy diogel ac yn rhatach na ffeilio ar bapur. O gwmn茂au amlwladol i rai llai, aethom i weld amrywiaeth fawr o gyfrifwyr. Cewch wybod (yn Saesneg) pam mae鈥檔 well ganddyn nhw ffeilio ar lein yn ein hastudiaethau achos fideo.
Cynt, effeithlon, mwy o reolaeth
:
Crowe Clark Whitehill
Mae Crowe Clark Whitehill yn gwmni cenedlaethol o gyfrifwyr yng Nghanolbarth Lloegr sydd 芒 600 o aelodau o鈥檙 staff a 75 o bartneriaid. Mae鈥檙 rheolwr datrysiadau busnes, Raj Basra, yn dweud bod ffeilio鈥檔 ddigidol gyda ni wedi gwella cyflymder, effeithlonrwydd, ymateb a diogelwch.
Haws, rhatach, mwy diogel
Flex Accounting Services Ltd
Beverley Flanagan yw rheolwr gyfarwyddwr Flex Accounting Services Ltd sydd 芒 swyddfeydd yn Sheffield a Llundain ac sy鈥檔 cyflogi 5 aelod o鈥檙 staff. Dywed Beverley fod ffeilio ar lein gyda ni yn 鈥渃hwa o awyr iach鈥� o gymharu 芒 ffeilio ar bapur ac na fyddai byth yn mynd yn 么l at ffeilio trwy鈥檙 post.
Gwybodaeth ar amrantiad
Moore Scarrott
Dywed Duncan Nicholas, cysylltai gyda鈥檙 cyfrifwyr siartredig Moore Scarrott, pan mae鈥檔 ffeilio ar lein, mae鈥檙 data鈥檔 ymddangos yn gynt ar wasanaeth T欧鈥檙 Cwmn茂au. Dywed Duncan fod hyn yn gwneud gallu ei gleientiaid i gael credyd yn llawer gwell.
Lleihau gwallau a risg cosbau ffeilio hwyr
Thomson Reuters
Kimberley Green yw鈥檙 uwch-gyfarwyddwr gyda鈥檙 cwmni amlwladol Thomson Reuters. Dywed Kimberley mai鈥檙 cymhelliad i鈥檞 chwmni hi ffeilio ar lein gyda ni oedd symleiddio ei broses cynhyrchu cyfrifon. Roedd eisiau lleihau risg gwallau a chosbau ffeilio hwyr.
Cydnabyddiaeth trwy e-bost a gwell gwasanaeth i鈥檙 cleientiaid
:
Henderson Loggie
Dywed Fiona Morgan, partner yn Henderson Loggie sydd 芒 swyddfeydd ledled yr Alban, mai prif fuddion ffeilio ar lein gyda ni yw ei fod 鈥測n hawdd, yn fwy diogel ac mae llai o waith gweinyddu鈥�.
Dywedodd cwmn茂au cyfrifyddu o wahanol fathau a meintiau ledled y wlad wrthym eu bod yn well eu byd wrth ffeilio鈥檔 ddigidol. Maen nhw鈥檔 manteisio ar fwy o ddiogelwch, cyflymder ac effeithlonrwydd ac mae llai o risg methu terfynau amser.
Cwbl ddigidol
Ein nod yw bod mor agos ag sy鈥檔 bosibl at fod yn sefydliad cwbl ddigidol erbyn diwedd 2019. Mae hyn yn golygu mai nawr yw鈥檙 adeg ddelfrydol i ymuno 芒鈥檙 llu o gwmn茂au cyfrifyddu sydd eisoes wedi manteisio ar newid o ffeilio ar bapur i ffeilio digidol.
Cafodd bron 2 filiwn o setiau o gyfrifon iXBRL eu ffeilio gyda ni yn ystod y flwyddyn i Fawrth 2016. Erbyn hyn mae mwy na 75% o鈥檙 holl gyfrifon sy鈥檔 cael eu ffeilio yma yn ein cyrraedd yn ddigidol.
Mae llawer o bractisau鈥檔 defnyddio meddalwedd a all ddefnyddio iXBRL i baratoi cyfrifon cleientiaid ond yn dal i鈥檞 ffeilio ar bapur. Os ydych chi鈥檔 gweithio i gwmni sy鈥檔 ffafrio ffeilio ar bapur, gofynnwch i鈥檆h darparwyr meddalwedd sut y gallwch newid i ffeilio cyfrifon iXBRL yn ddigidol ar gyfer y cofnod cyhoeddus.
Prif lun: Undrey/Shutterstock.com, defnyddiwyd o dan drwydded.