Cyllideb 2018 a blaenoriaethau鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol i Gymru
Alun Cairns yn cynnull y Bwrdd Cynghori ar yr Economi yng Nghaerdydd

Industrial Strategy
Y prif eitemau ar yr agenda fydd manteisio ar flaenoriaethau allweddol y Strategaeth Ddiwydiannol a Chymru ar gyfer Cyllideb 2018 yng nghyfarfod cynrychiolwyr busnes Cymru a Llywodraeth y DU yng Nghymru yng Nghaerdydd heddiw (10 Mai).
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn croesawu aelodau ei Fwrdd Cynghori ar yr Economi i Bwynt Caspian lle byddant yn trafod sut y gellir manteisio i鈥檙 eithaf ar effaith gadarnhaol y Strategaeth Ddiwydiannol yng Nghymru. Bydd y trafodaethau鈥檔 canolbwyntio yn benodol ar archwilio Cytundebau yn y Sector, cyfleoedd twf trawsffiniol, diddymu鈥檙 rhwystrau at arloesedd a datblygu cytundebau masnach a buddsoddi newydd er mwyn cynyddu allforion.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol yn rhan hollbwysig o gynllun Llywodraeth y DU i ysgogi twf ar draws y Deyrnas Unedig gyfan a chreu mwy o swyddi a chyfleoedd medrus iawn, sy鈥檔 talu cyflogau uchel.
Disgwylir i gytundebau newydd yn y Sector, y coridorau twf a buddsoddiad mewn ymchwil a datblygiad gefnogi diwydiannau鈥檙 dyfodol, ac mae gan y DU 鈥� a Chymru yn benodol 鈥� gyfle i arwain y byd. Rwy鈥檔 awyddus i glywed barn ein harweinwyr busnes blaenllaw am sut y gall Cymru fanteisio ar ei chryfderau a defnyddio鈥檙 buddiannau sy鈥檔 gysylltiedig ag ymgorffori鈥檙 Strategaeth yn gadarn yn ein cynlluniau twf.
Mae鈥檙 Bwrdd Cynghori ar yr Economi yn darparu llwyfan i Lywodraeth y DU glywed yn uniongyrchol sut mae busnesau yng Nghymru yn llwyddo ar lawr gwlad, a chlywed eu barn ar sut maent hwy鈥檔 elwa ar bolisi Llywodraeth y DU a beth arall y gellir ei wneud i gefnogi eu huchelgeisiau i dyfu ymhellach.
Bydd cyfarfod heddiw yn gyfle hefyd i rannu syniadau ar y mesurau y byddai鈥檙 gymuned fusnes yng Nghymru yn hoffi eu gweld wedi鈥檜 cynnwys yn y Gyllideb pan gaiff ei chyhoeddi gan Ganghellor y Trysorlys yn yr hydref.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhannu鈥檙 cynigion gyda鈥檙 Trysorlys er mwyn iddynt allu eu hystyried yn y cyfnod sy鈥檔 arwain at y digwyddiad ariannol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Ychwanegodd Alun Cairns:
Ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno mesurau cadarn i helpu i ailadeiladu economi Cymru.
O鈥檙 ymrwymiad i ddiddymu鈥檙 tollau ar Bont Hafren i鈥檙 Bargeinion Dinesig a Thwf ar hyd a lled y wlad, mae鈥檙 rhain yn ddatganiadau cadarn o鈥檔 bwriad i hybu ffyniant Cymru.
Ond mae llawer mwy o waith i鈥檞 wneud. Wrth i ni edrych ymlaen at Gyllideb y Canghellor, mae鈥檔 bwysig i mi gael y cyfle i glywed am y mathau o gynigion polisi y byddai cynrychiolwyr busnes yng Nghymru yn hoffi i Lywodraeth y DU eu hystyried er mwyn ysgogi ein heconomi ymhellach.
Byddaf yn awyddus iawn i glywed eu safbwyntiau ar y prif rwystrau at dwf a鈥檜 barn hwy ar beth ddylai鈥檙 blaenoriaethau seilwaith allweddol eu cynnwys. Byddaf yn rhannu canlyniad y trafodaethau hyn gyda Changhellor y Trysorlys i sicrhau bod llais y gymuned fusnes yng Nghymru yn cael ei chlywed yn glir yn San Steffan.