Datganiad i'r wasg

Y Gyllideb yn rhoi hwb enfawr i fusnesau a chartrefi yng Nghymru

Swyddfa Cymru yn ymateb i'r Cyllideb

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Budget 2014

Heddiw (dydd Mercher, 20 Mawrth) dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y bydd Cyllideb 2014 yn helpu cartrefi a busnesau yng Nghymru drwy roi hwb i fuddsoddi, swyddi a thwf yng Nghymru.

Dywedodd Mr Jones y bydd cyhoeddiad y Canghellor yn lleihau costau ynni, yn helpu gyda chostau byw ac yn rhoi mwy o sicrwydd economaidd i bobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed ledled Cymru. Yn sgil y mesurau sydd wedi鈥檜 cyhoeddi heddiw, bydd Pecyn Ynni i Fusnesau鈥檙 Llywodraeth yn arbed hyd at 拢230 miliwn i fusnesau Cymru rhwng 2016/2017 a 2018/2019.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn digolledu diwydiannau ynni-ddwys am brisiau trydan uwch, a fydd werth tua 拢2 biliwn erbyn 2018/19. At ei gilydd, bydd diwydiannau ynni-ddwys yng Nghymru ar eu hennill o tua 拢240 miliwn rhwng 2016/2017 a 2018/2019 diolch i鈥檙 pecyn hwn.

Bydd cartrefi yn elwa hefyd. Erbyn 2018/2019, dylai bil cyfartalog pob cartref fod wedi gostwng 拢15 yn sgil rhewi鈥檙 Cymorth ar gyfer Prisiau Carbon, yn ogystal 芒鈥檙 拢50 y mae鈥檙 Llywodraeth wedi鈥檌 arbed, ar gyfartaledd, i bob cartref yn 么l Datganiad yr Hydref.

Mewn mesurau eraill a gyhoeddwyd heddiw, gallai bron i 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru elwa o becyn a fydd yn gwella eu mynediad at gyllid, wrth i鈥檙 Llywodraeth ymgynghori ynghylch sut mae sicrhau bod busnesau bach a chanolig y gwrthodwyd rhoi benthyciad iddynt yn cael eu cyfateb yn well i ddarparwyr credyd eraill. Bydd hyn hefyd yn cyflymu鈥檙 broses pan fydd busnesau bach neu ganolig angen i鈥檞 banc weithredu er mwyn cael arian yn rhywle arall.

At ei gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn elwa o 拢36 miliwn ychwanegol o rym gwario 鈥� gan gynnwys arian ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd, trwsio tyllau yn y ffyrdd, atgyweirio eglwysi cadeiriol, adfywio ystadau a grantiau prentisiaethau i gyflogwyr. Bydd hyn yn golygu bod y Llywodraeth wedi cynyddu gwariant Llywodraeth Cymru bron i 拢800 miliwn ers Adolygiad o Wariant 2010.

Yfory (20 Mawrth) bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cyflwyno Bil Cymru a fydd yn datganoli pwerau treth a benthyca newydd i Gymru. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fod yn atebol am fwy o鈥檙 arian mae鈥檔 ei wario, ac yn rhoi mwy o adnoddau iddi ddatblygu economi Cymru.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 Gyllideb sydd wedi鈥檌 chyhoeddi heddiw yn dangos yn glir bod ymrwymiad y Llywodraeth i dwf cadarn, cynaliadwy a chytbwys yn gweithio, ac y bydd busnesau a theuluoedd ledled Cymru yn parhau i elwa o鈥檙 adferiad economaidd.

Roeddwn yn arbennig o falch o weld bod y Canghellor wedi datgelu pecyn radical o fesurau i leihau costau ynni. Bydd hyn yn hwb i鈥檞 groesawu i鈥檙 diwydiannau ynni-ddwys sy鈥檔 cyflogi miloedd o bobl ledled Cymru, a bydd hefyd yn lleihau biliau ynni i deuluoedd sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed.

Byddaf yn cyflwyno Bil Cymru yfory, a fydd yn rhoi pwerau treth a benthyca newydd i Gymru. Ond bydd rhaid i Lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle a datblygu twf economaidd Cymru gyda鈥檙 pwerau newydd sy鈥檔 cael eu cynnig.

Gwyddom nad yw鈥檙 gwaith wedi鈥檌 gwblhau a bod mwy i鈥檞 wneud, ond mae鈥檙 Llywodraeth hon wedi dangos y gallwn, drwy lynu wrth ei chynllun economaidd, sicrhau dyfodol economaidd mwy llewyrchus i bobl Cymru.

Cyhoeddodd y Canghellor y bydd y lwfans personol ar gyfer treth incwm yn codi hefyd 鈥� o 拢10,000 yn 2014/15 i 拢10,500. Bydd 1.2 miliwn o drethdalwyr yng Nghymru ar eu hennill yn sgil hyn, a bydd 14,000 o unigolion ar incwm isel yn cael eu heithrio鈥檔 llwyr rhag talu treth incwm. O鈥檜 hystyried gyda鈥檌 gilydd, mae鈥檙 newidiadau i鈥檙 trothwy lwfans personol ers 2010 wedi eithrio 155,000 o bobl yng Nghymru rhag talu treth incwm.

Hefyd, bydd dros 600,000 o bensiynwyr yng Nghymru yn gallu cynyddu eu pensiwn 拢25 yr wythnos drwy ddewis y dosbarth newydd o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol.

Mae cyfradd gychwynnol y dreth cynilo hefyd yn cael ei lleihau 鈥� o 10% i 0% 鈥� a bydd y band sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 dreth cynilo yn cael ei ymestyn o 拢2,790 i 拢5,000, a allai fod yn fanteisiol i 74,000 o gynilwyr yng Nghymru.

Hefyd, bydd y Llywodraeth yn cynyddu鈥檙 terfynau cyffredinol a鈥檙 terfynau ar gyfer ISA arian o 拢11,520 i 拢15,000, a bydd hyd at 299,000 o ddeiliaid cyfrifon ISA yng Nghymru yn elwa o hyn.

Dywedodd un o Weinidogion Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:

Bydd y Gyllideb hon yn sicrhau bod yr adferiad economaidd yn parhau yng Nghymru, gyda mwy o swyddi, mwy o fuddsoddi a mwy o dwf.

Mae鈥檙 Llywodraeth hon yn un sy鈥檔 buddsoddi yng Nghymru, ac mae鈥檙 cynigion i sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn cael mynediad at gyllid yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod Cymru yn parhau鈥檔 gystadleuol yma a thramor.

Rydyn ni鈥檔 sylweddoli ei bod yn gyfnod anodd, a dyna pam y bydd cynllun y Canghellor i gynyddu鈥檙 lwfans personol ar gyfer treth incwm yn cael ei groesawu yng Nghymru, wrth i filoedd o bobl ar incwm isel gael eu heithrio rhag talu treth incwm o gwbl.

Mae鈥檙 economi yng Nghymru yn dal ar y trywydd iawn, diolch i鈥檙 penderfyniadau anodd mae鈥檙 Llywodraeth hon wedi鈥檜 gwneud yn y gorffennol.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson:

Mae teuluoedd a busnesau yng Nghymru yn elwa o gynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth Glymblaid.

Yn sgil y Gyllideb hon, bydd Llywodraeth Cymru yn elwa o 拢36 miliwn ychwanegol o rym gwario 鈥� arian mae鈥檔 gallu ei wario ar unrhyw beth, o amddiffynfeydd rhag llifogydd a thyllau yn y ffyrdd i drwsio eglwysi cadeiriol ac adfywio ystadau.

Mae hyn yn golygu bod y Llywodraeth wedi cynyddu bron i 拢800 miliwn ar rym gwario Llywodraeth Cymru ers Adolygiad o Wariant 2010.

O bensiynau i ynni, ac o fusnesau bach a chanolig i gynilwyr, bydd y Gyllideb hon yn lleihau costau ac yn sicrhau bod gan bobl fwy o arian yn eu pocedi.

Wrth wneud hynny, rydym yn gweithio i greu dyfodol mwy llewyrchus i Gymru ac i weddill y DU.

Cafodd ffigurau cyflogaeth diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol eu cyhoeddi heddiw hefyd. Mae鈥檙 ffigurau hyn yn dangos bod 1,000 yn fwy o bobl wedi bod yn gweithio yng Nghymru dros y chwarter diwethaf.

Maent hefyd yn dangos mai Cymru welodd y cwymp mwyaf yn y gyfradd ddiweithdra o blith holl wledydd a rhanbarthau鈥檙 DU dros y chwarter diwethaf 鈥� a dros y flwyddyn diwethaf yn ei chyfanrwydd 鈥� gan ostwng i 6.7 y cant o鈥檌 gymharu 芒 ffigur y DU, sef 7.2 y cant.

Wrth s么n am y ffigurau, dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 ffigurau hyn yn dangos unwaith eto ein bod yn parhau i weld arwyddion addawol o dwf ac adferiad yng Nghymru. O dan y Llywodraeth hon, mae nifer y bobl sy鈥檔 gweithio yng Nghymru yn fwy na 1.38 miliwn am y tro cyntaf yn ein hanes.

Mae鈥檙 Llywodraeth wedi ymrwymo鈥檔 gadarn i sicrhau bod pobl o oedran gweithio yng Nghymru yn cael cyfle i fod yn rhan o鈥檙 farchnad lafur er mwyn gwella鈥檜 rhagolygon gyrfa, lleihau鈥檙 risg o ddiweithdra hirdymor a dibyniaeth ar les, a hybu symudedd cymdeithasol a mwy o dwf economaidd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Mawrth 2014