Cefnogi recriwtio mwy diogel yn y sector blynyddoedd cynnar ac addysg
Mae ymgyrch ‘Gwneud Recriwtio’n Fwy Diogel� Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael gan ein gwasanaeth Allgymorth Rhanbarthol.

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Disclosure and Barring Service - DBS) wedi lansio cam diweddaraf yr ymgyrch ‘Gwneud Recriwtio’n Fwy Diogel�. Anelir y cam yma o’r ymgyrch at y sector blynyddoedd cynnar ac addysg ac mae’n amlygu’r ystod o gyngor am ddim a hyfforddiant sydd ar gael i sefydliadau o bob maint. Mae cyngor a hyfforddiant yn amrywio o gynnwys gwiriadau Datgelu a Gwahardd a chymhwysedd, i’r ddyletswydd gyfreithiol i wneud atgyfeiriad i wahardd, a sut i wneud atgyfeiriad.
Mae’r Gwasanaeth wedi ymuno gyda sefydliadau partner yn y blynyddoedd cynnar ac addysg sydd wedi elwa o gymorth y DBS yn flaenorol, i helpu hyrwyddo’r ymgyrch i gyflogwyr eraill yn y sector. Mae partneriaid yn cynnwys ,Ìý ²¹³¦Ìý.
Lansiwyd yr ymgyrch ‘Gwneud Recriwtio’n Fwy Diogel� yn wreiddiol ym mis Mehefin 2022 ac mae wedi targedu’r sectorau elusennol a ffydd yn flaenorol.
Dywedodd Eric Robinson, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd:
Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cyflawni rôl hanfodol wrth helpu i amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed drwy gefnogi cyflogwyr i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel. Mae’n bleser gennym lansio ein hymgyrch newydd gyda’r sector blynyddoedd cynnar ac addysg i dynnu sylw at yr hyfforddiant a chyngor am ddim y gallwn eu darparu i sefydliadau drwy ein gwasanaeth Allgymorth Rhanbarthol.
Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu un pwynt cyswllt i sefydliadau ar gyfer pob ymholiad a chwestiwn yn ymwneud â’r DBS, yn ogystal â’r cyfle i gael mynediad at hyfforddiant DBS sydd wedi’i deilwra ar gyfer eu staff a’u gwirfoddolwyr. Mae’r tîm hefyd yn coladu adborth er mwyn sicrhau y gellir gwneud gwelliannau yn y dyfodol i wasanaethau a phrosesau’r DBS.
Dysgwch fwy am yr ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol drwy chwilio am #DBSMakingRecruitmentSafer.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaeth Allgymorth Rhanbarthol y DBS yn ein canllawiau allgymorth.