Datganiad i'r wasg

Dathlu鈥檙 gorau o ddiwylliant Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Y Brifwyl yn gyfle gwych i hyrwyddo Cymru i ymwelwyr o bob cwr o'r byd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

National Eisteddfod

Bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru Alun Cairns a鈥檙 Farwnes Jenny Randerson yn dathlu鈥檙 gorau o hanes, iaith a diwylliant Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon.

Bydd Alun Cairns AS - siaradwr Cymraeg rhugl - yn ymweld 芒鈥檙 诺yl ym Mharc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli ar ddydd Llun (4 Awst) am y tro cyntaf yn rhinwedd ei swydd fel gweinidog Llywodraeth y DU.

Bydd yn cyfarfod Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg ac Ian Jones, Prif Weithredwr S4C yn yr 诺yl lle bydd yn ail-ddatgan cefnogaeth llywodraeth y DU i ddarlledu iaith Gymraeg. Bydd hefyd yn cyfarfod 芒 chynrychiolwyr o Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn dysgu am sut y maent yn coff谩u canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

Dywedodd Mr Cairns:

Yr Eisteddfod yw asgwrn cefn diwylliant Cymru ac mae wedi bod wrth galon bywyd cymdeithasol a chelfyddydol Cymru ers dros 150 o flynyddoedd. Dwi鈥檔 falch felly o fod yma am y tro cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel gweinidog llywodraeth y DU.

Gyda hyd at 160,000 o bobl yn mynychu, mae鈥檙 Brifwyl yn hwb mawr i economi Cymru ac yn gyfle gwych i werthu Cymru ar lwyfan y DU ac ar draws y byd.

Bydd y Farwnes Randerson, oedd yn weinidog dros Ddiwylliant a鈥檙 Iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru o 2000 i 2003, yn mynychu鈥檙 诺yl ar ddydd Mercher (6 Awst) pan fydd yn cwrdd 芒 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a Coed Cadw. Bydd hi hefyd yn ymweld 芒 replica o sied ysgrifennu y bardd Dylan Thomas, sydd ar hyn o bryd ar daith i ddathlu pen-blwydd 100 oed ei eni.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Mae digwyddiadau fel yr Eisteddfod yn ein hatgoffa o gyfoeth diwylliant Cymru ac yn tanlinellu ein gallu i gynnal digwyddiadau mawr a hybu Cymru i ymwelwyr o bob cwr o鈥檙 byd.

Mae鈥檙 诺yl hefyd yn cynnig cyfle gwych i Gymru farchnata ei hun ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol ar drothwy Uwchgynhadledd NATO fis nesaf pan fydd gan Gymru gyfle heb ei hail i arddangos y gorau sydd ganddi i gynulleidfa fyd-eang o filiynau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Awst 2014