Stori newyddion

Mynediad at farchnad yn Tsieina yn rhoi hwb gwerth sawl miliwn i gig eidion ym Mhrydain

Newyddion da i ffermwyr o Gymru a allai weld eu cig eidion yn cael ei weini ar blatiau bwyd yn Tsieina erbyn diwedd y flwyddyn

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
From left to right - Welsh Secretary Alun Cairns, Chinese Ambassador Liu Xiaming and Chinese Vice Premier Hu Chunhua.

From left to right 鈥� Welsh Secretary Alun Cairns, Chinese Ambassador Liu Xiaming and Chinese Vice Premier Hu Chunhua.

Disgwylir y bydd allforwyr o Gymru yn elwa o sawl miliwn o bunnau wrth i Tsieina gytuno i roi mynediad i鈥檙 farchnad i gig eidion o鈥檙 DU erbyn diwedd 2019. Gallai cynhyrchwyr o Brydain gael tua 拢230 miliwn yn y pum mlynedd gyntaf yn unig, a daw hyn dros 20 mlynedd ar 么l i lywodraeth Tsieina wahardd cig eidion o鈥檙 DU rhag cael ei fewnforio yn 1996.

Cafodd Protocol Cig Eidion y DU a Tsieina ei lofnodi gan Robert Goodwill, Gweinidog Ffermio鈥檙 DU, a Liu Xiaoming, Llysgennad Tsieina i鈥檙 DU, fel rhan o鈥檙 10fed Deialog Economaidd ac Ariannol (EFD) rhwng y DU a Tsieina. Mae hyn yn benllanw sawl blwyddyn o archwilio safleoedd ac ymgysylltu rhwng swyddogion llywodraeth y DU a Tsieina.

Cyn ymweliad Tsieina 芒 Chaerdydd, fe wnaeth Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, gwrdd 芒 Liu Xiaming, Llysgennad Tsieina, a Hu Chunhua, Is-bennaeth Llywodraeth Tsieina, i drafod pa mor bwysig oedd penderfyniad Tsieina i roi mynediad i鈥檙 farchnad i gynhyrchwyr cig eidion o Gymru. Amcangyfrifir y bydd y cytundeb werth tua 拢25 miliwn y flwyddyn i鈥檙 sector cig coch yng Nghymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd agor y farchnad yn Tsieina yn esgor ar gyfleoedd cyffrous i gynhyrchwyr cig eidion o Gymru a fydd, o ganlyniad i鈥檙 cytundeb, yn cael mynediad i un o econom茂au mwyaf y byd yn fuan.

Mae鈥檙 cytundeb hwn yn dangos yr hyder yn ein bwyd a diod o ansawdd uchel yn tyfu ym mhob cwr o鈥檙 byd, ac yn amlygu鈥檙 cynnydd yn y galw am gig eidion Cymreig mewn marchnadoedd deinamig ledled y byd.

Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o gael mynediad i farchnadoedd newydd, a fydd yn sicrhau bod busnesau Cymru yn gallu parhau i dyfu a ffynnu.

Dywedodd Robert Goodwill, Gweinidog Ffermio鈥檙 DU:

Mae hon yn gamp fawr i鈥檔 diwydiant bwyd a ffermio o鈥檙 radd flaenaf, ac yn garreg filltir a allai fod werth 拢230 miliwn i fusnesau ym Mhrydain yn ystod y pum mlynedd nesaf yn unig.

Mae鈥檙 garreg filltir heddiw yn adlewyrchu ein huchelgais o fanteisio i鈥檙 eithaf ar gyfleoedd masnachu newydd ledled y byd a bod yn Brydain Fyd-eang wrth i ni adael yr UE.

Tsieina yw鈥檙 farchnad allforio fwyaf ond 7 yn y DU ar gyfer bwyd a diod; fe brynwyd gwerth dros 拢610 miliwn o gynnyrch gan ddefnyddwyr o Tsieina y llynedd.

Mae allforion bwyd y DU yn parhau i ffynnu; roedd allforion bwyd a diod werth dros 拢22 biliwn y llynedd, ac mae busnesau bwyd a diod bellach yn gwerthu eu cynnyrch i 217 o farchnadoedd.

Mae鈥檙 llywodraeth yn parhau i annog a chefnogi busnesau drwy ei ymgyrch wrth iddi ystyried lansio鈥檙 ymgyrch hon mewn marchnadoedd dramor neu ehangu鈥檙 sylfaen o gwsmeriaid sydd ganddi eisoes ledled y byd.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Mehefin 2019