Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au
Crynodeb o鈥檔 llwyddiannau ym maes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol dros y 6 mis diwethaf

Fel un o sefydliadau鈥檙 llywodraeth a chyflogwr mawr, mae cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn bwysig i ni. Rydym yn cymryd ein heffaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o ddifrif.
Cynaliasom ein hwythnos Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol gyntaf ym mis Awst. Yn ystod yr wythnos, tynasom sylw at ein gwaith ym mhedwar maes Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol 鈥� yr amgylchedd, pobl, caffael a鈥檙 gymuned.
Rydym yn falch bod cydweithwyr o鈥檔 pedair swyddfa ar draws y Deyrnas Unedig (Caerdydd, Caeredin, Belfast a Llundain) i gyd yn cyfrannu at y meysydd gwaith hyn.
Dyma grynodeb o鈥檔 huchafbwyntiau ym maes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol dros y 6 mis diwethaf.
Rhoi offer cyfrifiadurol i elusen Autism Puzzles Cymru
Rhoesom 40 o鈥檔 hen gyfrifiaduron i gwmni Computer Disposals Limited (CDL) yn gynharach eleni. Ymrwymodd y cwmni yn ei dro i adnewyddu 25% ohonynt yn llwyr a鈥檜 rhoi yn 么l i ni er mwyn i ni eu rhoddi i鈥檙 gymuned.
Penderfynasom roi鈥檙 cyfrifiaduron i Autism Puzzles Cymru (APC). Mae APC yn elusen sy鈥檔 darparu gwasanaeth allgymorth i deuluoedd sy鈥檔 mynd trwy ddiagnosis o awtistiaeth. Yn hael iawn, rhoddodd CDL offer ychwanegol inni a olygai ein bod wedi rhoi 10 cyfrifiadur i APC ynghyd 芒 monitorau, bysellfyrddau a llygod.
Diolch i鈥檙 rhodd hon, mae APC yn sefydlu ystafell TG newydd. Bydd hon yn helpu鈥檙 elusen i ddarparu gweithdai a chynnig cyfleusterau i deuluoedd er mwyn iddynt chwilio am wybodaeth.

Rhoi siwmperi i elusen Rainbow of Hope
Roedd hi鈥檔 Ddiwrnod Siwmperi Nadolig ar 14 Rhagfyr. Gofynasom i鈥檔 staff roi siwmperi i鈥檙 elusen Rainbow of Hope. Elusen yng Nghaerdydd yw hon sy鈥檔 cynorthwyo pobl ddigartref a difreintiedig.
Casglasom siwmperi dynion yn benodol, gan mai鈥檙 rhain yr oedd eu hangen mwyaf yn 么l Rainbow of Hope.

Gwirfoddoli ar draws y Deyrnas Unedig
Manteisiwyd ar fwy na 300 o gyfleoedd i weithwyr wirfoddoli yn ystod y flwyddyn. Roedd y rhain yn cynnwys:
- helpu yng nghanolfan anifeiliaid Hope Rescue
- cymryd rhai mewn gweithdai crefft yn Nh欧 Hafan
- trefnu prosiectau adfywio mewn nifer o ysgolion cynradd yn ne Cymru a Chaeredin
- cyfrannu 800kg o fwyd i fanc bwyd Caeredin
Rydym wedi ymrwymo i gynyddu ein gwaith gwirfoddol yn 2019.
Codi arian i鈥檔 cymunedau lleol
Yn ogystal 芒 gwirfoddoli, rydym yn cefnogi ein cymunedau lleol trwy godi arian. Hyd yma eleni, rydym wedi codi ychydig dros 拢7,000. Mae hyn y cynnwys:
- dros 拢1,200 i Blant mewn Angen
- dros 拢500 i Gymdeithas Alzheimer鈥檚
- dros 拢450 i Ganolfan Canser Felindre
- dros 拢300 i Macmillan Cancer Support yn ein swyddfa yng Nghaeredin
Ers 2012, mae gweithwyr T欧鈥檙 Cwmn茂au wedi codi bron 拢56,000.
Lleihau ein heffaith amgylcheddol
Mae ein gr诺p amgylcheddol wedi bod yn gweithio鈥檔 galed i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Yn ystod y 3 mis diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar leihau鈥檙 defnydd o blastigau untro yn ffreutur y staff.
Rydym wedi rhoi鈥檙 gorau i ddarparu cwpanau coffi a chloriau untro. O ganlyniad, aeth 6,000 yn llai o gwpanau i safle tirlenwi pob mis. Hefyd, erbyn hyn mae ein holl gyllyll a ffyrc a chynwysyddion bwyd plastig yn fioddiraddadwy.
Trwy鈥檙 ddau gynllun hyn a mwy, rydym wedi lleihau maint y gwastraff sy鈥檔 mynd i safle tirlenwi, ac wedi arbed bron 拢17,000.
Rydym yn defnyddio ein sianelau cymdeithasol yn rheolaidd i hyrwyddo ein gweithgareddau ym maes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Os hoffech gael gwybod mwy, defnyddiwch yr .