Datganiad i'r wasg

Daw adolygiad annibynnol i鈥檙 casgliad fod Amddiffyn yn bwysig ar gyfer ffyniant Cymru

Mae鈥檙 cyn-Weinidog Amddiffyn, Philip Dunne wedi rhyddhau adroddiad sy鈥檔 amlinellu鈥檙 buddion y mae Amddiffyn yn dod i Gymru a gweddill y DU

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Former Defence Minister Philip Dunne has today released a wide-ranging report which highlights the integral role of defence to British prosperity.

  • It says defence invests 拢945 million in Welsh industry
  • Wales benefits from MOD expenditure of 拢300 per person each year
  • Defence supports over 6,000 industry jobs

Mae鈥檙 cyn-Weinidog Amddiffyn, Philip Dunne wedi rhyddhau adroddiad sy鈥檔 amlinellu鈥檙 buddion y mae Amddiffyn yn dod i Gymru a gweddill y DU.

  • Mae鈥檔 dweud bod Amddiffyn yn buddsoddi 拢945 miliwn mewn diwydiant yng Nghymru
  • Mae Cymru yn cael budd o wariant y Weinyddiaeth Amddiffyn o 拢300 y pen bob blwyddyn
  • Mae Amddiffyn yn cefnogi dros 6,000 o swyddi mewn diwydiant

Comisiynwyd yr adolygiad gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson ar 么l iddo lansio鈥檙 Rhaglen Moderneiddio Amddiffyn (RhMA) er mwyn cryfhau鈥檙 Lluoedd Arfog yn wyneb y bygythiadau sy鈥檔 dwysau, ochr yn ochr 芒鈥檙 Prif Weinidog a鈥檙 Canghellor.

Mae鈥檙 adolygiad annibynnol yngl欧n 芒 chyfraniad Amddiffyn tuag at werth economaidd a chymdeithasol cenedlaethol gan Philip Dunne yn edrych ar draws y Lluoedd Arfog a diwydiant er mwyn darparu darlun manwl i ddarparu gwybodaeth ar gyfer cynigion i ddiwygio鈥檙 RhMA.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson:

Mae adolygiad Philip Dunne yn dangos pa mor hanfodol ydi Amddiffyn, nid yn unig i鈥檔 amddiffyn rhag peryglon byd-eang a gwarchod ein ffyniant cenedlaethol, ond yn ogystal i鈥檔 heconomi drwy greu miloedd o swyddi arbenigol a medrus a chreu biliynau mewn allforion.

Mae鈥檔 creu darlun clir yngl欧n 芒 sut mae Amddiffyn a鈥檙 diwydiant Amddiffyn yn cyrraedd pob cornel o鈥檙 DU ac mae鈥檔 ganolog i gyflogaeth mewn cymaint o ddinasoedd a threfi.

Mae鈥檔 gosod rhai heriau allweddol i鈥檞 hystyried fel mae ein Rhaglen Moderneiddio Amddiffyn yn parhau i sicrhau bod Amddiffyn y gorau y gall fod ym Mhrydain yn dilyn Brexit.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae adolygiad heddiw yn dangos effaith gwerthfawr y sector Amddiffyn i鈥檔 diogelwch, ond hefyd i economi Cymru fel ei gilydd, gan gefnogi miloedd o swyddi a miliynau o bunnau o fuddsoddiad drwy鈥檙 wlad.

Roedd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno y mis diwethaf yn arddangosfa falch o gysylltiadau milwrol Cymru, ac rydw i wedi gweld yn ymarferol ysbryd anhygoel ein Gwarchodlu Cymreig ar y tir yn Affganistan. Mae Llywodraeth y DU yn gweithio yn galed i sicrhau bod Amddiffyn yn parhau i chwarae rhan hanfodol yng ngwead cymunedau ac economi genedlaethol Cymru.

Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer eu hadolygu, yn cynnwys: mwy o ymchwil i effaith caffaeliadau sylweddol ar ffyniant cenedlaethol; adeiladu perthnasau cryf gyda chyflenwyr diwydiant; ac ystyried sut y gallai sefydliadau blaenllaw鈥檙 DU gael mwy o ryddid entrepreneuraidd.

Mae Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn Amddiffyn yn y DU drwy ddarparu dros 3,000 o filwyr parhaol a milwyr wrth gefn ar gyfer y Lluoedd Arfog, cefnogi dros 6,000 o swyddi yn y diwydiant ac mae鈥檔 enwog am ei meysydd hyfforddi eang sy鈥檔 galluogi鈥檙 Fyddin Brydeinig a鈥檙 Awyrlu Brenhinol i berffeithio eu sgiliau er mwyn sicrhau eu bod yn cynnal eu mantais filwrol yn erbyn gelynion.

Mae鈥檙 wlad yn cael budd o wariant y WA o 拢300 y pen bob blwyddyn a buddsoddiad anferth mewn diwydiant a masnach lleol o 拢945 miliwn. Prif wariant gr诺p diwydiant mwyaf y WA yn y wlad yw arfau a ffrwydron sy鈥檔 costio cyfanswm o 拢246 miliwn. Mae cyflenwyr allweddol yn cynnwys Airbus, General Dynamics, GE Aviation, QinetiQ a Raytheon.

Mae gan Gymru rai o鈥檙 isadeileddau Amddiffyn cenedlaethol pwysicaf drwy greu arweinwyr Byddinoedd yn y dyfodol yn Ysgol Frwydro y Milwyr Traed yn Aberhonddu, gan sicrhau enw da鈥檙 Deyrnas Unedig fel prif rym awyr byd-eang, gyda鈥檌 hyfforddiant ar gyfer peilotiaid awyrennau cyflym yn yr Awyrlu Brenhinol yn y Fali, ac wrth gwrs, balchder o gael ail long awyrennau y Llynges Frenhinol, o鈥檙 enw HMS Tywysog Cymru, sydd ar flaen y gad.

Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Guto Bebb:

Mae gan Gymru berthynas falch a hanesyddol gyda鈥檔 Lluoedd Arfog sy鈥檔 amlwg yn cael ei dangos yn Adolygiad Dunne. Ers canrifoedd, mae鈥檙 Cymry wedi bod yn cyflenwi caledwedd milwrol o鈥檙 radd flaenaf, cyfleusterau hyfforddi blaenllaw a rhai o鈥檙 dynion a鈥檙 merched gorau yn ein gwasanaethau milwrol. Rydw i鈥檔 dymuno gweld pob agwedd unigol o gyfraniad Cymru tuag at Amddiffyn yn ymestyn ac yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod, er mwyn iddyn nhw fod o fudd i鈥檔 Lluoedd Arfog ac i鈥檔 gwlad.

Dywedodd Philip Dunne:

Rydw i鈥檔 falch o fod wedi gallu cynnal yr adolygiad hwn ac rydw i鈥檔 ddiolchgar am help pawb y tu mewn a thu allan i鈥檙 Adran sydd wedi cyfrannu.

Dyma鈥檙 tro cyntaf am rai blynyddoedd i adroddiad annibynnol geisio edrych ar effaith lwyr Amddiffyn ar economi鈥檙 DU, ei gwledydd datganoledig a鈥檌 rhanbarthau yn Lloegr.

Mae Amddiffyn wedi gwneud nifer o gamau pwysig i gwrdd 芒鈥檌 amcan ffyniant. Mae鈥檔 gwneud cyfraniad mawr at ein llesiant economaidd, gyda 50,000 o bobl yn gweithio yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol mewn Amddiffyn a thros 25,500 o brentisiaid yn datblygu sgiliau. Mewn sawl cymuned leol, Amddiffyn yw un o brif ddarparwyr swyddi tra medrus.

Ond gellir gwneud mwy oherwydd bod yn rhaid i Amddiffyn addasu i fygythiadau technolegol sy鈥檔 datblygu yn gyflym, ac felly dylai feddiannu鈥檙 cyfleoedd yn ogystal i addasu a gwella ei brosesau ei hun, er mwyn cwrdd 芒 heriau Amddiffyn uwch dechnolegol y dyfodol.

Edrychaf ymlaen at weld sut mae鈥檙 WA yn ymateb i鈥檙 adroddiad hwn ac rydw i wedi cadarnhau wrth yr Ysgrifennydd Amddiffyn fy mod yn fodlon ailymweld ymhen rhai misoedd er mwyn gweld sut mae鈥檙 Adran wedi ystyried hyn a lle mae wedi penderfynu gweithredu鈥檙 syniadau hyn

Mae Amddiffyn yn gwneud cyfraniad anferth ar draws holl ranbarthau鈥檙 DU, p鈥檜n ai fel prif gyflogwr, buddsoddwr mawr neu fel canolfan ar gyfer cymunedau lleol. Amddiffyn yw鈥檙 trydydd tirfeddiannwr mwyaf yn y wlad, gyda 220,000 hectar, gyda chymunedau ynysig a gwledig yn aml yn cael budd ohono.

Mae鈥檙 adroddiad yn datgelu bod oddeutu 500,000 o bobl yn cefnogi Amddiffyn drwy鈥檙 DU. Mae鈥檔 amlinellu mai diwydiant Amddiffyn y DU yw un o鈥檙 cryfaf yn y byd, gyda throsiant blynyddol o 拢22 biliwn sy鈥檔 cefnogi 260,000 o swyddi, llawer ohonyn nhw yn rhai tra medrus ac yn talu鈥檔 dda. Yn bwysicach, mae鈥檔 cydnabod bod Amddiffyn yn brif gyfrannwr i sgiliau鈥檙 wlad ac yn un o鈥檙 cyflogwyr mwyaf i brentisiaid, gyda dros 25,500 wedi cael eu cofrestru ar hyn o bryd.

Mae Dunne hefyd yn cydnabod bod, yn ychwanegol at gyllideb y WA o bron i 拢37 miliwn, cyfraniad uniongyrchol Amddiffyn i CDG yn cynnwys dros 拢7 biliwn o allforion a gynhyrchwyd bob blwyddyn ar gyfartaledd. Yn gymharol ddiweddar, arwyddwyd contract adeiladu llongau gwerth hyd at 拢20 biliwn rhwng BAE Systems a llywodraeth Awstralia i brynu ffrigadau Math 26 wedi鈥檜 cynllunio ym Mhrydain - y contract Amddiffyn forol fwyaf ers degawd.

Mae perthynas Amddiffyn fel cwsmer a phartner diwydiannol gyda llawer o sectorau twf uchel yn yr economi yn cynhyrchu mwy o weithgaredd, yn arbennig felly yn y sectorau awyrofod, gofod, seiber, a fwyfwy yn yr economi wybodaeth a鈥檙 sectorau creadigol.

Yn ogystal, mae Amddiffyn yn sbarduno buddsoddiad mewn diwydiant Prydeinig drwy鈥檙 Strategaeth Adeiladu Llongau Cenedlaethol a lansiwyd y llynedd er mwyn trawsnewid diwydiant morol y DU a hybu ffyniant y rhanbarthau, iardiau llongau a chadwyni cyflenwi morol drwy鈥檙 wlad. Yn ogystal, mae鈥檙 WA ar fin lansio Strategaeth Brwydro yn yr Awyr er mwyn sicrhau bod Prydain yn cynnal gallu blaenllaw ar gyfer brwydro yn yr awyr.

Bydd y WA yn awr yn ystyried y canfyddiadau yn adroddiad Philip Dunne fel y mae鈥檙 gwaith yn parhau ar y RhMA.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Gorffennaf 2018