Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn enwi llong ryfel newydd yn HMS Cardiff ar Ddydd G诺yl Dewi

Ddydd G诺yl Dewi, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU mai enw un o鈥檙 llongau rhyfel Math 26 newydd yw HMS Cardiff.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

A hithau鈥檔 drydedd i鈥檞 henwi yn y Dosbarth Dinasoedd o wyth ffrigad ryfela, arloesol, newydd, sy鈥檔 gallu ymosod ar longau tanfor, bydd HMS Cardiff yn darparu mwy o amddiffyniad i longau awyrennau Dosbarth y Frenhines Elizabeth, ac ataliaeth niwclear y DU a鈥檜 tebyg, ac yn cynnig gallu rhyfela heb ei ail i ymosod ar longau tanfor.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson:

Bydd HMS Cardiff yn deyrnged wych i Gymru a鈥檌 phrifddinas. Bydd yn atgyfnerthu amddiffynfeydd y Deyrnas Unedig ar draws moroedd y byd 鈥� yn amddiffyn ein llongau awyrennau ac yn diogelu ein dyfroedd rhag bygythiadau cynyddol.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae hwn yn gyfnod godidog nid yn unig i鈥檙 Llynges Frenhinol ond i Gymru gyfan.

Mae gan Gymru hanes milwrol cryf, ac mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn ddathliad o鈥檙 cyfraniad a wneir gan ein gwlad i amddiffyn y DU.

Rwy鈥檔 falch o weld enw ein prifddinas ar long ryfel y Llynges Frenhinol a fydd yn mynd i ddyfroedd rhyngwladol i amddiffyn ein diogelwch cenedlaethol a diogelu ein milwyr, yn ddynion a marched, ledled y byd.

Dywedodd Syr Philip Jones, Prif Arglwydd Lyngesydd y Morlys:

Mae鈥檔 wych gweld yr enw HMS Cardiff yn dychwelyd i鈥檙 Fflyd fel un o鈥檔 Ffrigadau Math 26 newydd, sy鈥檔 adlewyrchu cyswllt hir-sefydledig y Llynges Frenhinol gyda鈥檙 ddinas a phobl Cymru. Gyda鈥檙 enw HMS Cardiff y daw hanes balch. Ganrif yn 么l, daeth y criwser ysgafn, HMS Cardiff, i enwogrwydd am arwain yr ymgyrch i gaethiwo Fflyd Cefnforoedd yr Almaen yn Scapa Flow ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe wnaeth yr HMS Cardiff diwethaf, dinistriwr Math 42, hefyd ddod i amlygrwydd mewn gweithrediadau ledled y byd, gan gynnwys ymgyrch Ynysoedd Falkland 1982, Rhyfel y Gwlff ym 1991 a gwasanaethu yn yr Adriatig yn ystod argyfwng 1999 yn Kosovo.

Bydd y genhedlaeth nesaf hon o ffrigadau yn cwmpasu鈥檙 datblygiadau arloesol a鈥檙 cynnydd technolegol diweddaraf i ddarparu gallu rhyfela i ymosod ar longau tanfor o safon fyd-eang, o fewn llwyfan hyblyg iawn sy鈥檔 cael ei ddefnyddio ledled y byd. Am flynyddoedd i ddod, fel rhan o gr诺p gorchwyl sy鈥檔 cael ei arwain gan longau awyrennau y Llynges Frenhinol neu weithio gyda鈥檔 partneriaid rhyngwladol, bydd HMS Cardiff a鈥檌 chwaer longau鈥檔 barod i gyflwyno sbectrwm eang o weithrediadau, o deithiau diplomyddol a dyngarol, i ryfela datblygedig iawn, gan hyrwyddo a diogelu buddiannau Prydain ledled y byd.

Cafodd yr achlysur o enwi ei nodi gan ddigwyddiad yn Mansion House yng Nghaerdydd y bore yma, dan arweiniad myfyrwyr o Uned Forol Frenhinol Prifysgol Cymru, y sefydliad hyfforddi ar gyfer gr诺p o israddedigion o bob cwr o鈥檙 wlad, sy鈥檔 dangos potensial fel arweinwyr cymdeithas y dyfodol.

Wrth groesawu鈥檙 newyddion, dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Guto Bebb:

Fel Cymro balch, mae鈥檔 anrhydedd mawr i gyhoeddi cyfnod arall o longau rhyfel gyda鈥檙 enw HMS Cardiff yn gwarchod y DU, gartref a thramor. Mae鈥檙 myfyrwyr hyn wedi dangos brwdfrydedd mawr dros bopeth a gynrychiolir gan y Llynges Frenhinol, ac os byddant yn symud ymlaen i fod yn gapteiniaid yn y dyfodol, gallent fod wrth lyw llong ryfel arloesol, hollol anhygoel, gydag HMS Cardiff.

Bydd yr HMS Cardiff newydd yn dechrau gwasanaethu yn y 2020au ac ynghyd 芒鈥檌 chyd-ffrigadau Math 26, bydd yn darparu arf ryfela ddatblygedig iawn, lle bynnag y bydd ei hangen, wrth ddiogelu buddiannau鈥檙 DU yn ogystal 芒 llongau tanfor niwclear Prydain. Bydd ei dyluniad hyblyg hefyd yn golygu bod modd addasu鈥檙 galluoedd hyn i wrthsefyll bygythiadau yn y dyfodol, a bydd y llongau yn elwa o鈥檙 datblygiadau diweddaraf mewn technoleg ddigidol.

Hi fydd y bedwaredd long i gael ei henwi i anrhydeddu prifddinas Cymru, a daw鈥檙 cyhoeddiad 100 mlynedd ar 么l i鈥檙 llong HMS Cardiff gyntaf arwain Fflyd Cefnforoedd yr Almaen a ildiodd, i Scapa Flow ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae cyhoeddiad Dydd G诺yl Dewi yn enghraifft bellach o ymrwymiad y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gymru, lle mae鈥檙 Weinyddiaeth heddiw wedi cyhoeddi ei bod yn gwario 拢300 ar bob aelod o鈥檙 boblogaeth, 拢20 yn fwy fesul unigolyn na鈥檙 llynedd. Mae鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei wneud yng Nghymru yn cynnwys archeb unigol fwyaf y DU ar gyfer cerbyd wedi鈥檌 arfogi mewn 30 mlynedd: y cerbydau Ajax gwerth 拢4.5bn sy鈥檔 cael eu hadeiladu yn ffatri 鈥楪eneral Dynamics鈥� Merthyr Tudful.

Hefyd, cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni yng Nghymru, 30 Mehefin, yn nhref glan m么r hanesyddol Llandudno yng Ngogledd Cymru. Bydd y digwyddiad, a fydd hefyd yn dathlu degfed pen-blwydd Diwrnod y Lluoedd Arfog, yn dathlu gwaith ein milwyr, yn ferched a dynion, gyda gorymdaith filwrol ysblennydd, awyrennau鈥檔 hedfan heibio ac arddangosfeydd trawiadol o gyfarpar.

Mae gan Ogledd Cymru lawer o gysylltiadau cyfredol a hanesyddol gyda鈥檙 Lluoedd Arfog, gan gynnwys nifer o unedau Byddin Rheolaidd a Byddin Wrth Gefn. Mae llawer o unigolion o Ogledd Cymru鈥檔 falch o wasanaethu yn y Cymry Brenhinol ac mae RAF y Fali sydd gerllaw ar Ynys M么n yn gartref i ganolfan hyfforddi awyrennau jet cyflym. Mae bron i 10,000 o gyn-filwyr yn byw yng Nghonwy, gyda chymorth nifer o elusennau lleol a chenedlaethol.

Daw鈥檙 cyhoeddiad hefyd wrth i BAE Systems roi contract i Lockheed Martin arfogi鈥檙 Math 26 gyda鈥檙 unig system o鈥檌 math sy鈥檔 gallu lansio taflegrau i ymosod ar longau tanfor, yn yr awyr, wyneb-i-wyneb ac ar bellter ergyd. Bydd tair System Lansio Fertigol MK 41 yn cael eu gosod ar bob llong. Mae鈥檙 Llynges Frenhinol wedi archebu naw modiwl cychwynnol ar gyfer y tair llong gyntaf, gan gynnwys HMS Cardiff.

Mae nifer o gynghreiriaid agos, gan gynnwys Awstralia a Chanada, hefyd yn ystyried y dyluniad Math 26 diweddaraf. Ar hyn o bryd, mae HMS Sutherland yn Awstralia yn dangos gallu ymosodiadau llongau tanfor o鈥檙 radd flaenaf sydd gan y DU.

Mae ffrigadau Math 26 y Llynges Frenhinol yn cael eu hadeiladu yn iardiau llongau Clud yn yr Alban. Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn 20 mlynedd o waith yno yn 2017, na welwyd ei debyg o鈥檙 blaen, gan ddiogelu dros 4,000 o swyddi, gyda鈥檙 contract o 拢3.7bn i adeiladu鈥檙 tair o blith wyth ffrigad Math 26 i ganfod llongau tanfor yn digwydd yno. Mae dwy long arall yn y dosbarth eisoes wedi鈥檜 henwi yn HMS Glasgow a HMS Belfast. HMS Cardiff yw鈥檙 drydedd long i gael ei henwi, a鈥檙 ail i gael ei chynhyrchu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2018