Trafodaethau adeiladol yng Nghaerdydd yn galonogol yn 么l y Prif Ysgrifennydd
Sylwadau'r Prif Ysgrifennydd Gwladol Damian Green AS yn dilyn trafodaethau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns AS ac Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones

Dywedodd y Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green AS, fod natur adeiladol y rownd ddiweddaraf o drafodaethau Brexit gyda Phrif Weinidog Cymru yng Nghaerdydd heddiw wedi bod yn galonogol.
Roedd yn siarad ar 么l y trafodaethau dwyochrog diweddaraf yng Nghaerdydd gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC a鈥檙 Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford AC.
Dywedodd Mr Green fod y cyfarfod gyda Carwyn Jones wedi galluogi鈥檙 ddwy lywodraeth i symud ymlaen i sicrhau bod pob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig yn barod ar gyfer y cyfnod pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Cynhelir y trafodaethau er mwyn sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol ar waith o dan y Bil Ymadael 芒鈥檙 UE ar gyfer dosbarthu pwerau a fydd yn cael eu dychwelyd o鈥檙 Undeb Ewropeaidd a chanfod lle bydd angen fframweithiau cyffredin.
Dywedodd y Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green:
Rydyn ni bellach yn gwneud cynnydd go iawn o ran sicrhau bod pob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig yn barod ar gyfer y pwerau ychwanegol a fydd yn dod yn 么l o鈥檙 Undeb Ewropeaidd i鈥檙 Deyrnas Unedig. Roedd y trafodaethau 芒 Phrif Weinidog Cymru heddiw yn adeiladol iawn, ac rwy鈥檔 ddiolchgar iddo am hynny.
Mae pawb yn derbyn y bydd angen fframweithiau鈥檙 Deyrnas Unedig mewn meysydd penodol i warchod manteision hanfodol marchnad ddomestig y Deyrnas Unedig. Mae鈥檙 ddwy ochr yn edrych yn fanwl ar sut rydyn ni鈥檔 sicrhau bod y trefniadau gorau ar waith ar gyfer y diwrnod pan fyddwn ni鈥檔 gadael yr Undeb.
Rwy鈥檔 hyderus y gallwn ni gadw鈥檙 momentwm hwn a chael Cyd-bwyllgor Gweinidogion llwyddiannus gyda鈥檙 holl weinyddiaethau datganoledig yn Llundain y mis nesaf.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae ein trafodaethau heddiw wedi bod yn galonogol. Rydyn ni鈥檔 gwneud cynnydd da o ran nodi pa ddulliau gweithredu cyffredin fydd eu hangen arnom ni ar 么l i鈥檙 Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, yn unol 芒鈥檙 egwyddorion ar gyfer fframweithiau sydd wedi鈥檜 cytuno鈥檔 barod.
Rwy鈥檔 hyderus y bydd y broses hon yn arwain at fframweithiau y cytunwyd arnyn nhw yn y Deyrnas Unedig yn y meysydd lle mae eu hangen arnom, gyda chynnydd sylweddol mewn pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Roedd ein trafodaethau heddiw yn gosod y sylfaen ar gyfer trafodaethau dwys rhwng y ddwy lywodraeth hyd at y Nadolig ac i鈥檙 Flwyddyn Newydd.
Cyfarfu gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ym mis Medi, ac eto yn Llundain ar 11 Hydref, lle trafodwyd cyfres o egwyddorion i arwain y trafodaethau.
Cytunwyd ar yr egwyddorion hyn mewn cyfarfod o鈥檙 Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau鈥檙 UE) ar 16 Hydref, a chafodd y Prif Weinidog a Phrif Weinidog Cymru gyfarfod adeiladol ar 30 Hydref.