Datganiad i'r wasg

Fox yn lansio Strategaeth Allforio newydd uchelgeision i hybu busnesau Prydain

Nod y strategaeth yw i helpu Cymru i fod yn arweiniwr byd-eang ym myd allforio, yn hybu cynhyrchiant, cyflogau a chreu swyddi ledled y wlad

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
  • Liam Fox yn cyflwyno cynllun newydd uchelgeisiol i wneud Prydain yn un o鈥檙 prif allforwyr ar gyfer yr 21ain ganrif
  • Y Llywodraeth yn pennu uchelgais newydd i gynyddu allforion fel cyfran o gynnyRch domestig gros y DU i 35%
  • Cynllun cydweithredu gyda busnes o dan arweiniad y Llywodraeth yn cael ei ddatblygu ar 么l ymgysylltu eang ag ystod o fusnesau鈥檙 DU
  • Cynnig symlach ac wedi鈥檌 dargedu i fusnesau o bob maint, i gynyddu cynhyrchiant, codi cyflogau a diogelu swyddi ledled y DU
  • Strategaeth i helpu i wneud Cymru鈥檔 un o brif allforwyr y byd

Heddiw (dydd Mawrth 21 Awst) bydd yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Dr Liam Fox AS, yn amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn gwneud Prydain yn un o鈥檙 prif allforwyr ar gyfer yr 21ain ganrif trwy wneud gwell defnydd o鈥檔 rhwydwaith tramor, cyfarpar ar-lein newydd a thrwy greu rhwydwaith busnes i fusnes eang.

Daw hyn wrth i鈥檙 Llywodraeth barhau i gyflwyno bargeinion sector fel rhan o鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol, gan hybu swyddi a thwf yn y meysydd lle mae gan y DU fantais gystadleuol 鈥� sy鈥檔 awr yn helpu i allforio鈥檙 arbenigedd hon ar draws y byd.

Mae ymchwil yn dangos bod gan gwmn茂au sy鈥檔 allforio fwy o botensial i dyfu, eu bod yn fwy cynhyrchiol a bod eu swyddi鈥檔 talu鈥檔 well.

Y llynedd cafodd 拢620bn o nwyddau a gwasanaethau eu hallforio gan gwmn茂au Prydeinig a oedd yn cyfrif am 30% o鈥檔 GDP, gyda lefelau allforion y DU yn uwch nag erioed.

Mae hyn yn cynnwys 拢16.4bn o nwyddau a gafodd eu hallforio o Gymru, cynnydd o 7.1% o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag, mae鈥檙 Adran Masnach Ryngwladol yn amcangyfrif bod 400,000 o fusnesau鈥檔 credu y gallant allforio ond nad ydynt yn gwneud hynny, er bod y galw am arbenigedd a nwyddau Prydeinig ar gynnydd.

Heddiw bydd Dr Fox, gyda鈥檙 Farwnes Fairhead, y Gweinidog Gwladol ar gyfer Masnach a Hybu Allforio, yn amlinellu uchelgais dymor hir y llywodraeth i fynd ymhellach ac i gynyddu cyfanswm yr allforion fel cyfran o GDP i 35%.

Bydd y Farwnes Fairhead hefyd yn ymweld 芒 Cloth Cat Animation, sydd wedi鈥檜 lleoli yng Nghaerdydd, ac sy鈥檔 cynhyrchu rhaglenni teledu i blant, ac sydd wedi cael llwyddiant yn China ac Awstralia.

Wrth ymateb i alwad gan fusnesau, mae鈥檙 Strategaeth Allforio鈥檔 amlinellu sut y bydd y llywodraeth yn darparu cymorth mwy deallus a phenodol i gwmn茂au鈥檙 DU. Mae elfennau allweddol yn y strategaeth i helpu cwmn茂au sy鈥檔 gwerthu dramor:

  • Annog ac ysbrydoli mwy o fusnesau i allforio. Mae hyn yn cynnwys mwy o bwyslais ar roi sylw i lais rhai sy鈥檔 allforio eisoes i ysbrydoli busnesau eraill ac i hwyluso dysgu gan gymheiriaid.

  • Hysbysu busnesau trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol ar allforio. Mae mesurau newydd yn cynnwys datblygu great.gov.uk i fod yn un platfform digidol ar gyfer twf busnesau domestig a chymorth allforio a gweithio 芒 chwmn茂au mawr i helpu i wella galluedd cadwynau cyflenwi鈥檙 DU. Byddwn hefyd yn asesu cymhellion ariannol a chyfeirio fel ffordd o helpu BBChau i ddod o hyd i farchnadoedd newydd, a chymorth allforio i鈥檙 sector preifat.

  • Cysylltu busnesau鈥檙 DU 芒 phrynwyr tramor, marchnadoedd ac a鈥檌 gilydd. Mae mesurau newydd yn cynnwys cymorth i fusnesau sy鈥檔 awyddus i fuddsoddi dramor a datblygu cyfarpar ar-lein sy鈥檔 galluogi busnesau i gyflwyno rhwystrau di-dariff maent yn eu hwynebu.

  • Rhoi cyllid wrth galon yr hyn sydd gennym i鈥檞 gynnig.

Lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth i dargedu鈥檙 allforwyr yn y DU sydd fwyaf tebygol o elwa ar werth 拢50bn o gyllid allforio a chymorth yswiriant gan UKEF, a hyrwyddo cymorth UKEF mewn marchnadoedd tramor i helpu cwmn茂au a chonsortia yn y DU i ennill contractau.

Mewn araith gerbron cynulleidfa o bobl fusnes yn Llundain, mae disgwyl i鈥檙 Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Dr Liam Fox AS ddweud:

Mae鈥檙 Deyrnas Unedig yn genedl allforio fawr ac mae ein hallforwyr yn arwain y ffordd, trwy greu swyddi, codi cyflogau ac ehangu ein heconomi.

Mae busnesau鈥檙 DU mewn sefyllfa wych i fanteisio ar y newidiadau cyflym i鈥檙 economi fyd-eang ac rwyf yn credu bod gan y DU y potensial i fod yn un o brif allforwyr yr 21ain ganrif.

Fel adran economaidd ryngwladol, rydym yn benderfynol o helpu, cysylltu, a gweld cwmn茂au鈥檙 DU yn tyfu ar y llwyfan byd-eang trwy ein rhwydwaith rhyngwladol.

Wrth i ni adael yr UE, rhaid i ni anelu鈥檔 uchel a dyna鈥檔 union beth fydd y Strategaeth Allforio yn ein helpu i鈥檞 gyflawni.

Meddai鈥檙 Farwnes Fairhead, y Gweinidog Gwladol dro Fasnach a Hybu Allforion yn yr Adran Fasnach Ryngwladol:

Ers ei chreu ddwy flynedd yn 么l, mae鈥檙 DIT eisoes wedi helpu miloedd o gwmn茂au yn y DU i allforio 鈥� gydag allforion yn awr yn uwch nag erioed.

Fel y chweched mwyaf yn y byd o blith y gwledydd sy鈥檔 allforio, rydym yn perfformio ar lefel uwch na鈥檔 maint, ond ar y llaw arall, nid ydym ychwaith yn cyflawni ein potensial. Nod y Strategaeth Allforio hon yw newid hynny a chynyddu allforion fel cyfran o鈥檔 GDP o 30% i 35%, gan fynd 芒 ni o ganol y G7 i fod yn agos at y brig. Mae hon yn nod uchelgeisiol, ond mae鈥檔 un y gallwn ei gyflawni.

Mae鈥檙 strategaeth yn adeiladu ar Strategaeth Ddiwydiannol y DU a鈥檔 gwasanaethau cymorth allforio presennol 鈥� ein rhwydwaith o ymgynghorwyr a hyrwyddwyr masnach ledled y DU ac mewn 108 o wledydd ledled y byd, 拢50 biliwn UKEF i hybu allforion mewn 60 arian gwahanol, a鈥檔 gwasanaeth great.gov.uk. I gyflawni ein nod, rhaid i鈥檙 Llywodraeth gydlynu ar draws adrannau i alluogi cwmn茂au鈥檙 DU i lwyddo dramor.

Y cam cyntaf yw鈥檙 strategaeth hon 鈥� y garreg sylfaen 鈥� ar gyfer ymdrech newydd i allforio.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Cymru鈥檔 gartref i lu o gwmn茂au allforio llwyddiannus, gyda鈥檜 cynnyrch a鈥檜 gwasanaethau鈥檔 cael eu gwerthu ledled y byd. Nid yw Cloth Cat Animation yn eithriad yn hyn o beth, mae eu gwaith wedi ei weld ym mhob rhan o鈥檙 byd, gan gynnwys China ac Awstralia.

Nod y Strategaeth Allforio hon yw arwain ac ysbrydoli cwmn茂au eraill o Gymru sydd am wneud enw iddynt eu hunain mewn marchnadoedd rhyngwladol. Trwy greu Hyrwyddwyr Allforio ledled y DU a mynediad heb ei debyg at arbenigwyr mewn masnach dramor mewn 108 o wledydd, ein gobaith yw cynyddu potensial Cymru fel un o brif genhedloedd allforio鈥檙 byd, trwy gael gwared ar y pethau hynny sy鈥檔 rhwystro mynediad at farchnadoedd y mae busnesau鈥檔 eu profi, i greu swyddi gwell, sy鈥檔 talu cyflogau uwch ar hyd a lled y wlad.

Meddai Carolyn Fairbairn, Cyfarwyddwr Cyffredinol y CBI:

Mae ehangu masnach yn hanfodol i greu swyddi newydd, i godi lefelau cynhyrchiant a gwella ffyniant ar draws y wlad. Mae鈥檙 strategaeth hon yn arwydd amserol bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i wella cystadleurwydd rhyngwladol y Deyrnas Unedig.

Mae鈥檙 CBI wedi datgan cefnogaeth gref i鈥檙 uchelgais i godi allforion i 35% o GDP, a fydd yn rhoi鈥檙 DU o flaen llawer o鈥檌 chystadleuwyr rhyngwladol. Rydym yn amcangyfrif bod, ym mhob rhanbarth o鈥檙 wlad, tua 10% o fusnesau a allai allforio, ond nad ydynt yn gwneud hynny, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr 芒鈥檙 Llywodraeth i鈥檞 helpu a鈥檜 hysbrydoli i fanteisio ar bob cyfle.

Mae鈥檙 CBI wedi galw droeon am ymagwedd dymor hir tuag at allforio. Mae strategaethau blaenorol wedi dod ac wedi mynd, ond nid yw鈥檙 ffordd y cawsant eu rhedeg wedi helpu busnesau. Bydd cwmn茂au鈥檔 gweithio 芒鈥檙 t卯m cryf sydd wedi鈥檌 ffurfio yn yr Adran Masnach Ryngwladol i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni鈥檔 effeithiol.

Meddai Dr Adam Marshall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Siambrau Masnach Prydain (BCC):

Bydd manteisio ar ddwysedd masnach y DU 鈥� yn agos at gartref ac ymhellach i ffwrdd 鈥� yn un o gonglfeini ein llwyddiant economaidd yn y dyfodol.

Trwy weithio 芒鈥檔 gilydd, mae gan fusnesau a llywodraeth gyfle gwirioneddol i gynyddu allforion y DU, ac i helpu mwy o鈥檔 cwmn茂au i gynyddu eu gwerthiant a鈥檜 helpu mewn marchnadoedd ledled yn y byd. Mae ein cystadleuwyr mwyaf yn buddsoddi鈥檔 drwm i hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau eu gwledydd, a rhaid i鈥檙 DU wneud gystal os nad yn well na hynny.

Rydym yn croesawu adduned y Llywodraeth yn y Strategaeth Allforio newydd i weithio law yn llaw 芒 busnes i ddatgloi cyfleoedd i gwmn茂au鈥檙 DU ym mhob rhan o鈥檙 byd. Mae angen ymrwymiad eglur a thymor hir i helpu cwmn茂au Prydeinig yn y maes 鈥� gartref a thramor 鈥� i roi llwyfan i lawer o gwmn茂au i gymryd risgiau ac i anelu at dwf.

Meddai Stephen Martin, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad y Cyfarwyddwyr:

Bydd cynyddu cyfleoedd masnachu ledled y byd yn allweddol i ddyfodol llwyddiant economaidd y DU, felly rydym yn croesawu鈥檙 strategaeth allforio newydd hon, sy鈥檔 rhoi sylfaen gadarn i adeiladu arni. Mae鈥檙 Llywodraeth yn haeddu clod am fuddsoddi amser ac ymdrech i weithio 芒 busnes i lunio鈥檙 strategaeth hon, ac rydym wrth ein bodd bod nifer o argymhellion ein Sefydliad wedi cael eu cynnwys.

Bydd gwella perfformiad allforio鈥檙 DU yn ddibynnol ar nifer o newidynnau, ond y newyddion da yw bod digon o bethau y gallwn eu gwneud yn awr i helpu busnesau, Brexit neu beidio. Byddwn yn annog ein haelodau i ymgysylltu 芒鈥檙 llywodraeth i wneud yn si诺r bod y strategaeth yn gweithio a鈥檌 bod yn galluogi cwmn茂au Prydeinig i wireddu eu potensial i fasnachu.

Bydd rhwydwaith newydd y Llywodraeth o Gomisiynwyr Masnach EM yn helpu i wella cysylltiadau llywodraeth i lywodraeth ac i leihau rhwystrau tariffau a mynediad i鈥檙 farchnad wrth i ni adael yr UE.

Mewn cyfres o benodiadau proffil uchel gan yr adran, yn gynharach eleni penododd y DIT gyn bennaeth bancio corfforaethol Barclays John Mahon fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Allforion cyntaf y DU, i arwain y gwaith o weithredu鈥檙 Strategaeth.

Hefyd ym mis Mehefin, penodwyd cyn is-gadeirydd bancio Citgroup Mark Slaughter fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Buddsoddi, i arwain yr ymdrech i ddenu mwy o fuddsoddiad i鈥檙 DU.

Mae鈥檙 strategaeth yn ychwanegu at yr hyn sydd gan y DTI eisoes i鈥檞 gynnig i fusnesau, sy鈥檔 cynnwys 250 o Gynghorwyr Masnach Dramor ledled y DU, y cyfleodd allforio sydd i鈥檞 gweld ar GREAT.gov.uk a chymorth UKEF fel cyllid masnach.

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

  • Mae ffigurau diweddaraf yr ONS yn dangos bod allforion y DU i鈥檙 byd wedi cynyddu 拢26bn, cynnydd o 4.4% o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 un adeg y llynedd.
  • Elfen hanfodol o鈥檙 ymgyrch yw鈥檙 鈥楬yrwyddwyr Allforio鈥�; busnesau cyffredin o bob math a maint o bob rhan o鈥檙 DU sy鈥檔 falch o allforio. Maent yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o gwmn茂au yn y DU sy鈥檔 llysgenhadon ar ran masnach ryngwladol. Maent yn rhannu hanesion eu llwyddiannau, yn cynnig cyngor ymarferol ac yn arwain trwy esiampl, o dan y gri 鈥極s Gallwn Ni, Mi Allwch Chwithau鈥�.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Awst 2018