Cyhoeddi prif siaradwyr Uwchgynhadledd Twf Hafren
Arweinwyr busnes ac awdurdodau o boptu鈥檙 ffin yn cefnogi digwyddiad Llywodraeth y DU

Severn Crossing
Mae arweinwyr busnes ac arweinwyr rhanbarthol blaenllaw yn cefnogi Uwchgynhadledd Twf Hafren Llywodraeth y DU a fydd yn archwilio sut y gellir cryfhau cysylltiadau rhwng econom茂au De Cymru a De Orllewin Lloegr yn dilyn y gostyngiad diweddar yn nhollau Pontydd Hafren a phan fyddant yn cael eu dileu yn llwyr yn ddiweddarach eleni.
Gyda llai nac wythnos i fynd nes cynhelir y digwyddiad lle mae pob tocyn wedi鈥檌 archebu, heddiw cadarnhaodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns y rhestr o siaradwyr amlwg a fydd yn ymddangos ar y llwyfan i annerch y dyrfa o 350 ochr yn ochr ag ef yng Ngwesty鈥檙 Celtic Manor (22 Ionawr 2018).
Cadarnhawyd y siaradwyr canlynol heddiw:
- Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb dros fenter ym Mhrifysgol De Cymru
- Tim Bowles 鈥� Maer Dinesig Gorllewin Lloegr
- Katherine Bennett 鈥� Uwch Is-Lywydd Airbus UK
- Katharine Finn 鈥� Arweinydd Rhanbarthol PWC yng Nghymru a Gorllewin Lloegr
- Yr Athro Colin Riordan 鈥� Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd aelod o gynghrair GW4
- Y Cynghorydd Andrew Morgan 鈥� Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
- Grant Mansfield 鈥� Prif Weithredwr, Plimsoll Productions
Bydd yr Uwchgynhadledd yn dwyn ynghyd arbenigwyr o lywodraeth leol, addysg, y sectorau preifat ac academaidd o ddwy ochr afon Hafren, i rannu eu profiadau o gyd-weithio ar draws ffiniau a thrafod y weledigaeth ar gyfer cyfleoedd o ran twf pellach yn y dyfodol.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rydw i wrth fy modd bod y fath restr anrhydeddus o siaradwyr am ymuno 芒 mi yn Uwchgynhadledd gyntaf Twf Hafren. Mae pob un yn cynrychioli busnesau, awdurdodau neu ddiwydiannau sydd wedi bod ar flaen y gad o ran cydweithredu ar draws ffiniau.
Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle perffaith iddynt gyfleu eu profiadau i gynulleidfa lawn dop, pob un ohonynt yn ceisio ehangu eu gorwelion ar draws aber Afon Hafren a thu hwnt.
Un o鈥檙 rhai a fydd ymysg y panel o chwech o arbenigwyr fydd Tim Bowles, Maer cyntaf Gorllewin Lloegr. Yn ystod ei yrfa mae wedi cyfuno rolau busnes rhyngwladol 芒 gwasanaeth cyhoeddus yn y rhanbarth a bydd yn defnyddio llwyfan yr uwchgynhadledd i rannu ei wybodaeth i gefnogi busnesau ar ddwy ochr y ffin i gyflawni eu potensial o ran twf.
Dywedodd Tim Bowles, Maer Dinesig Gorllewin Lloegr:
Rwy鈥檔 croesawu鈥檙 cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Mae cysylltiadau cryf rhwng Gorllewin Lloegr a De Cymru, ac mae鈥檙 ddwy ardal yn rhannu sawl nod - mae鈥檔 bwysig ein bod yn parhau i gydweithio er budd ein holl drigolion.
Yn ymuno 芒 Mr Bowles ar y panel bydd Katherine Bennet, Uwch Is-Lywydd Airbus UK, cwmni byd-eang sydd 芒 phresenoldeb sylweddol ym Mryste a Chasnewydd a phrofiad gwerthfawr o weithio trawsffiniol ar draws aber Afon Hafren.
Katherine Bennett 鈥� Uwch Is-Lywydd Airbus UK
Mae cael ecosystem ranbarthol gref o gyflenwyr, partneriaid a chydweithredwyr academaidd yn allweddol i lwyddiant Airbus. Rhaid i ni sicrhau bod y cryfderau rhanbarthol sy鈥檔 bodoli yn Ne Cymru a Gorllewin Lloegr yn enwedig yng nghyswllt awyrofod, amddiffyn a thechnolegau digidol yn cael eu gwella drwy gydweithio a chreu strategaeth glir ar gyfer twf rhanbarthol.
Mae Airbus yn croesawu鈥檙 cyfle i helpu i siapio perthnasoedd gwaith agosach drwy鈥檙 uwchgynhadledd twf gyntaf hon.
Bydd yr Uwchgynhadledd yn cynnwys areithiau, sesiynau panel, astudiaethau achos byw a sesiynau rhwydweithio a bydd yn helpu i gynhyrchu gwaddol economaidd parhaol i Gymru a thu hwnt.