Datganiad i'r wasg

Lansio adolygiad annibynnol o S4C

Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU, yn lansio adolygiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

S4C

Heddiw, mae鈥檙 Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd Euryn Ogwen Williams yn arwain adolygiad annibynnol o鈥檙 darlledwr iaith Gymraeg, S4C.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar elfennau allweddol o鈥檙 sefydliad, gan gynnwys cylch gwaith S4C, sut mae鈥檔 cael ei lywodraethu, ei atebolrwydd a鈥檌 bartneriaeth 芒鈥檙 BBC, a鈥檙 dulliau cyllido presennol.

Cytunwyd hefyd y bydd y BBC yn rhoi un taliad o 拢350,000 yn 2017/18 i helpu i roi rhagor o sefydlogrwydd yn ystod cyfnod yr adolygiad

Gwnaed y cyhoeddiad gan Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, yn ystod ymweliad 芒鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys M么n.

Dywedodd Euryn Ogwen Williams:

Roedd yn anrhydedd mawr cael gwahoddiad i arwain adolygiad S4C, a hynny yn ystod cyfnod allweddol i鈥檙 sefydliad pan mae鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 heriau mae鈥檔 eu hwynebu wrth i鈥檙 dirwedd cyfryngau newid yn gyflym. Bydd y degawd nesaf yn fwy heriol byth wrth i S4C, fel pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, feithrin y berthynas 芒鈥檌 gynulleidfaoedd yn y byd digidol. Mae鈥檔 rhaid iddo hefyd chwarae r么l hanfodol yn y gwaith o ddatblygu鈥檙 Gymraeg mewn cyfnod hollbwysig yn ei hanes.

Dywedodd Karen Bradley, yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant:

Mae gan Euryn lawer iawn o brofiad ym maes darlledu yng Nghymru, ac ef oedd y Cyfarwyddwr Rhaglenni cyntaf pan sefydlwyd S4C yn 1982. Bydd ei ddealltwriaeth ragorol o ddarlledu yng Nghymru, yn ogystal 芒鈥檙 iaith, y diwylliant a鈥檙 gymdeithas yng Nghymru, yn sicr yn dwyn budd i gynnydd yr adolygiad pwysig hwn.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:

Mae S4C a鈥檙 cyfoeth o gynnwys y mae鈥檔 ei gynhyrchu yn gwneud cyfraniad pwysig at fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru, at ffyniant y Gymraeg ac at gryfder ein sector creadigol.

Mae Llywodraeth y DU wedi pwysleisio droeon ei hymrwymiad i gael gwasanaeth teledu Cymraeg annibynnol a chryf. Rydym yn hynod o falch bod Mr Williams wedi cytuno i arwain yr adolygiad annibynnol pwysig hwn. Mae wedi cael y dasg o asesu cylch gwaith S4C, y ffordd mae鈥檙 darlledwr yn cael ei ariannu, a鈥檙 ffordd mae鈥檔 cael ei lywodraethu, gyda golwg ar sicrhau y bydd yn gallu dal ati i fuddsoddi mewn rhaglenni o safon uchel a diwallu anghenion cynulleidfaoedd Cymraeg ymhell i鈥檙 dyfodol.

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:

Rydym yn croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth yngl欧n ag adolygu S4C, a鈥檙 ffaith bod Euryn Ogwen Williams 鈥� darlledwr profiadol a dadansoddwr craff o ddyfodol y cyfryngau 鈥� wedi cael ei benodi i arwain yr adolygiad.

Bydd yr adolygiad yn gyfle allweddol i nodi pwysigrwydd cyfraniad unigryw gwasanaeth S4C at ddiwylliant ac economi Cymru a鈥檙 Deyrnas Unedig, ac at ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Bydd argymhellion yr adolygiad yn cael eu cyflwyno i鈥檙 Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ddiweddarach eleni.

Cyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Mawrth y bydd yn rhoi 拢350,000 o arian cyfalaf ychwanegol i S4C ar gyfer 2017/18 i鈥檞 helpu i uwchraddio offer technegol a TG. Cytunwyd hefyd y bydd y BBC yn rhoi un taliad o 拢350,000 yn 2017/18 i helpu i roi rhagor o sefydlogrwydd yn ystod cyfnod yr adolygiad.

Nodiadau i olygyddion:

Euryn Ogwen Williams oedd y Cyfarwyddwr Rhaglenni Cyntaf pan sefydlwyd S4C yn 1982. Ar 么l hynny daeth yn Ddirprwy Brif Weithredwr rhwng 1988 a 1991. Mae ganddo dros 50 mlynedd o brofiad ym maes darlledu yng Nghymru, yn ogystal 芒 gwybodaeth drylwyr am yr iaith, y diwylliant a鈥檙 gymdeithas yng Nghymru.

Darllenwch y Cylch Gorchwyl yma

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Awst 2017