Datganiad i'r wasg

Japan yn agor ei marchnad i gig oen a chig eidion o Brydain

Y cytundeb yn newyddion da i ffermwyr Cymru y mae eu cig oen eisoes yn cyfrif am draean yr holl fwyd a diod sy鈥檔 cael eu hallforio

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd allforwyr yn y DU yn elwa ar hwb gwerth miliynau o bunnoedd ar 么l i Japan heddiw agor ei marchnad i gig oen a chig eidion sy鈥檔 cael eu hallforio o鈥檙 DU.

Amcangyfrifir bod y cytundeb, a lofnodwyd yn ystod ymweliad Prif Weinidog Abe 芒鈥檙 DU, yn werth cyfanswm o bron i 拢130 miliwn dros y bum mlynedd gyntaf 鈥� tua 拢75 miliwn ar gyfer cig eidion a 拢52 miliwn ar gyfer cig oen.

Fe wnaeth Japan, un o brif fewnforwyr cig eidion lle mae鈥檙 galw am gig oen o safon yn cynyddu, godi ei gwaharddiad ar fewnforio鈥檙 cynhyrchion hyn, a oedd wedi bod mewn lle am oddeutu 20 mlynedd, a hynny i ddigwydd yn syth.

Mae鈥檙 fargen yn dilyn blwyddyn o lwyddiant byd-eang i allforwyr yn y DU, a oedd yn cynnwys Tsieina yn codi ei gwaharddiad ar gig eidion o鈥檙 DU, Taiwan yn agor ei marchnad i gig mochyn, ac India yn paratoi i fewnforio cig defaid o鈥檙 DU.

Bydd agor y farchnad i gig oen yn newyddion da i ffermwyr Cymru hefyd, lle mae鈥檙 cig yn cyfrif am draean yr holl fwyd a diod sy鈥檔 cael eu hallforio 鈥� gwerth 拢110 miliwn.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan gig oen Cymru enw da ledled y byd ac mae鈥檔 arwydd o ansawdd.

Bydd cyhoeddiad heddiw yn arwain at fwy byth o gyfleoedd i ffermwyr Cymru farchnata eu cynnyrch i bedwar ban byd, gan ddangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i feithrin partneriaethau byd-eang pwysig i gefnogi ein diwydiannau hollbwysig yng Nghymru.

Dywedodd George Eustice, y Gweinidog Bwyd:

Mae agor marchnad Japan yn ganlyniad ardderchog i gynhyrchwyr cig eidion a chig oen ledled y DU ac yn dangos hyder yn ein safonau uchel o ran bwyd a diod.

Wrth i ni ddechrau oes newydd fel allforiwr byd-eang, mae datgloi鈥檙 farchnad hon yn gam mawr o ran cysylltiadau masnachu yn y dyfodol ac yn arwydd o鈥檔 hymrwymiad i helpu ein diwydiant bwyd a diod i allforio rhagor o fwyd o Brydain.

Codwyd y gwaharddiad yn dilyn cyfres o ymweliadau a thrafodaethau rhwng swyddogion o鈥檙 DU a Japan. Penllanw鈥檙 broses hon oedd arolygiad o systemau cynhyrchu cig eidion a chig oen y DU yn 2018, a gynhaliwyd yn llwyddiannus gan Defra a鈥檙 Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Safonau Bwyd yr Alban, DAERA, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), a Phartneriaeth Ardystio Allforion y DU.

Mae Japan yn enwog am ei threfn dynn o ran diogelwch bwyd a rheoli mewnforion a鈥檙 disgwyl yw y bydd agor y farchnad hon yn cyfleu neges gadarnhaol i wledydd eraill, yn enwedig yn Asia, ynghylch diogelwch allforion o鈥檙 DU.

Dywedodd Wyn Evans, Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru

Croesawaf agor marchnad premiwm newydd ar gyfer cig oen a chig eidion statws PGI o Gymru. Mae cynnal a sicrhau marchnadoedd allforio newydd yn hollbwysig i鈥檔 huchelgais o fewn NFU Cymru, fel y gallwn barhau i dyfu sector bwyd a diod Cymru gwerth 拢6.9 biliwn a sicrhau hyfywedd tymor hir diwydiant cig coch o Gymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda鈥檙 partneriaid yn y gadwyn gyflenwi i sicrhau bod prynwyr o Japan yn cael cyfle i fwynhau鈥檙 cig eidion ac oen gorau yn y byd, a gynhyrchir yng Nghymru.

Dywedodd Dr Phil Hadley, Cyfarwyddwr Datblygu鈥檙 Farchnad Ryngwladol yn AHDB:

Mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion ardderchog i鈥檔 ffermwyr a鈥檔 cynhyrchwyr, ac mae鈥檔 uchafbwynt blynyddoedd o waith caled gan y Llywodraeth, AHDB a rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant.

Mae mynediad at y farchnad newydd broffidiol hon yn brawf o鈥檙 cynnyrch o ansawdd uchel a鈥檙 safonau sy鈥檔 adnabyddus ledled y byd sydd gennym ni yma yn y DU. Rydyn ni鈥檔 hyderus y bydd y fargen newydd hon i allforio cig eidion a chig oen i Japan, ynghyd 芒鈥檔 masnach cig mochyn sy鈥檔 bodoli鈥檔 barod, yn creu cyfleoedd cyffrous i鈥檔 cynhyrchwyr cig eidion a chig oen.

Bydd ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yn gallu dechrau allforio cyn gynted ag y mae鈥檙 broses restru weinyddol wedi鈥檌 chwblhau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Ionawr 2019