Datganiad i'r wasg

Marchnata Cymru i鈥檙 Byd ar Ddydd G诺yl Dewi

Alun Cairns yn agor diwrnod masnachu ar Fawrth 1af yn y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Ymunodd busnesau Cymreig blaenllaw ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns, wrth iddo wasgu鈥檙 botwm ar gyfer Seremoni Agor y Farchnad yn Ninas Llundain fore heddiw [Dydd Gwener, 1 Mawrth].

Dyma鈥檙 tro cyntaf i鈥檙 seremoni fawr ei bri gael ei defnyddio i ddathlu Dydd G诺yl Dewi, a thynnu sylw at waith cwmn茂au arloesol sydd wedi鈥檜 lleoli yng Nghymru ac sy鈥檔 gwneud eu marc ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae鈥檙 rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad dechrau masnachu heddiw yn cynnwys IQE, Delio Wealth a Newport Wafer Fab yn ogystal 芒 chynrychiolwyr o sefydliadau busnes gan gynnwys CBI Cymru a Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) Cymru.

Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o ddathliadau Wythnos Cymru yn Llundain; digwyddiad blynyddol sy鈥檔 cynnwys dros 100 o weithgareddau a digwyddiadau ym mhrifddinas y DU sy鈥檔 dathlu ac yn hyrwyddo popeth sy鈥檔 wych am Gymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Dydd G诺yl Dewi鈥檔 ddiwrnod pwysig i Gymru gyfan ystyried cryfder ein hanes, ein hiaith a鈥檔 diwylliant unigryw.

Mae hefyd yn bwysig o ran ein hatgoffa pa mor ddeinamig yw鈥檙 Gymru fodern. Rydym yn gartref i rai o gwmn茂au mwyaf arloesol y byd ac mae ein cynnyrch a鈥檔 gwasanaethau mewn diwydiannau fel lled-ddargludyddion, seiber ddiogelwch a鈥檙 sectorau cyllid ac yswiriant yn cael eu hallforio i bedwar ban byd.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio鈥檔 galed i sicrhau bod y duedd honno鈥檔 parhau drwy gefnogi cwmn茂au Cymreig i ehangu a bod yn rhan o farchnadoedd sy鈥檔 tyfu o gwmpas y byd. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd cwmn茂au Cymreig newydd yn cael eu hysbrydoli gan ddigwyddiad heddiw ac yn dechrau eu stori eu hunain o lwyddiant rhyngwladol.

Dywedodd Nikhil Rathi, Prif Weithredwr Cyfnewidfa Stoc Llundain plc a Chyfarwyddwr Datblygu Rhyngwladol, LSEG:

Mae Cyfnewidfa Stoc Llundain yn falch o鈥檌 r么l ganolog yn cefnogi busnesau Cymreig. Mae tri deg chwech o gwmn茂au o Gymru wedi鈥檜 rhestru ar ein marchnadoedd ar hyn o bryd gyda chyfalaf cyfun ar y farchnad o dros 拢27.3 biliwn. Rydym hefyd yn arbennig o falch o gefnogi busnesau ac entrepreneuriaid Cymreig llai i ddatblygu鈥檔 arweinwyr y farchnad ac yn enwau adnabyddus yn y dyfodol drwy nifer o gynlluniau sydd wedi鈥檜 teilwra鈥檔 arbennig, fel ein rhaglen ELITE a鈥檔 hadroddiad Cwmn茂au i Ysbrydoli Prydain. Mae鈥檔 bleser gennym groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, i ddathlu Dydd G诺yl Dewi drwy agor y masnachu yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain fore heddiw.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2019