Y Gweinidog Adams yn anrhydeddu鈥檙 Lluoedd Arfog dewr yn ei ddyletswydd swyddogol gyntaf yng Nghymru.
Yn ei ddyletswydd swyddogol gyntaf fel Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru, bydd Nigel Adams yn nodi dewrder ac ymrwymiad ein milwyr, ddoe a heddiw.
Remembrance
Yn ei ddyletswydd swyddogol gyntaf fel Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru, bydd Nigel Adams yn nodi dewrder ac ymrwymiad ein milwyr, ddoe a heddiw, yn achlysur agor Maes Coffa Cenedlaethol Cymru yng Nghastell Caerdydd heddiw (dydd Mercher 7 Tachwedd).
Gan dalu teyrnged i鈥檙 rheini sydd wedi brwydro ac yn parhau i wneud, bydd Mr Adams yn gwneud darlleniad ac yn gosod croes bren gyda鈥檌 deyrnged bersonol ei hun arni i鈥檙 rheini sydd wedi aberthu eu bywydau.
Dywedodd Nigel Adams, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru:
Eleni, rydyn ni鈥檔 dathlu can mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae鈥檔 bwysicach nag erioed i ni feddwl am bob un sydd wedi byw, brwydro a marw yn amddiffyn ein rhyddid. Dyna pam fy mod i鈥檔 annog pobl o bob cwr o Gymru i ddod ynghyd ar yr adeg bwysig hon o gofio i sicrhau nad yw鈥檙 aberth a wnaed gan ein milwyr, a鈥檙 aberth maen nhw鈥檔 dal i鈥檞 wneud, yn mynd yn angof.
Mae鈥檔 fraint fawr i mi dalu fy nheyrngedau personol i鈥檙 dynion a鈥檙 merched dewr hynny sydd wedi tyngu llw i wasanaethu ein gwlad heddiw. Rydyn ni鈥檔 ddiolchgar iawn i chi am eich ymrwymiad a鈥檆h dewrder.