Gweinidog Davies yn ymweld 芒 llong ymchwil Prifysgol Bangor wrth iddi gael ei haddasu i fod yn wyrdd
Mae'r addasiadau i'w fod yn wyrdd gwerth 拢5.5 miliwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU.

Minister Davies on board the Prince Madog research vessel.
Mae gwaith gwerth 拢5.5 miliwn gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth y DU yn mynd rhagddo ar long ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, er mwyn ei haddasu i fod yn wyrdd. 聽
Mae鈥檙 llong Prince Madog yn llwyfan ymchwil amlbwrpas ar gyfer cynnal ymchwil i wyddor y moroedd o gwmpas y DU, gan gynnwys M么r Iwerddon a鈥檙 M么r Celtaidd, ac mae wedi bod ar waith ers dros ddau ddegawd.
Yr wythnos hon (dydd Iau 2il聽Tachwedd), ymwelodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Dr.James Davies, 芒鈥檙 llong a ddefnyddir i ymchwilio i fioleg, cemeg, daeareg a ffiseg ein moroedd. Mae鈥檙 llong hefyd yn cael ei defnyddio i hyfforddi鈥檙 genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor.
Ar hyn o bryd mae鈥檙 llong yn mynd drwy broses o addasu a fydd yn para dwy flynedd i osod system gyriant hydrogen ynddi i weithio ochr yn ochr 芒鈥檙 brif injan disel gan ei galluogi i weithredu heb allyriadau wrth forio鈥檔 araf neu wrth wneud siwrneiau byrion.聽Wrth weithredu鈥檔 arferol, bydd yn lleihau allyriadau gan hyd at 60%.聽
Mae Llywodraeth y DU yn ariannu鈥檙 gwaith addasu, gyda鈥檙 Adran Drafnidiaeth yn darparu 拢5.5 miliwn o鈥檙 gronfa Technolegau Morwrol Gl芒n ac Arloesol gwerth 拢60 miliwn.聽
Yn y dyfodol, mae gweithredwyr y Prince Madog yn rhagweld y bydd y llong yn cael ei hydrogen o鈥檙 Ganolfan Hydrogen y mae bwriad ei sefydlu yng Nghaergybi, Ynys M么n, gyda chymorth 拢4.8m o gyllid gan Lywodraeth y DU.聽
Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae data a gasglwyd gan y Prince Madog wedi cyfrannu at rai canfyddiadau gwyddonol pwysig, gan gynnwys:
- Diogelu pysgodfeydd cynaliadwy drwy asesu effaith treillio ar wely鈥檙 m么r.
- Datgelu hinsawdd moroedd arfordirol yn y gorffennol.
- Darganfod ac adnabod llongddrylliadau.
- Darogan y tywydd a鈥檙 hinsawdd drwy ddatblygu technegau a mesuriadau newydd sy鈥檔 cael eu defnyddio鈥檔 fyd-eang erbyn hyn.
- Cefnogi鈥檙 diwydiant ynni adnewyddadwy morol drwy asesu safleoedd posibl ar gyfer datblygu a chynnal asesiadau o鈥檙 ecosystem a gwely鈥檙 m么r
- Cynhyrchu technegau newydd i fesur tyrfedd cefnforol a鈥檙 effaith ar gymysgu gwahanol ddyfroedd yn y cefnfor.
- Asesu effaith yr amgylchedd ffisegol ar egni fforio adar m么r a goblygiadau hynny ar lwyddiant bridio
Dywedodd Dr James Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Roedd yn ddiddorol iawn dysgu am y Prince Madog yn ogystal 芒 chwrdd 芒 rhai o staff ymchwil Prifysgol Bangor a chlywed mwy am y gwaith maen nhw鈥檔 ei wneud.
Mae鈥檙 llong wedi bod yn adnodd hanfodol mewn astudiaethau di-rif dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae wedi helpu Prifysgol Bangor i ddod yn un o brif gyrchfannau鈥檙 byd ar gyfer astudio ac ymchwilio i鈥檙 amgylchedd morol.
Mae鈥檔 hanfodol ein bod ni i gyd yn lleihau ein h么l troed carbon ac rwy鈥檔 falch iawn bod Llywodraeth y DU yn ariannu鈥檙 gwaith angenrheidiol i baratoi鈥檙 llong wych hon ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil):
Mae鈥檙 Prince Madog wedi bod yn gaffaeliad i Gymru, y DU ac yn rhyngwladol, o ran addysg ac ymchwil.
Mae effaith ymchwil gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion dros ddegawdau yn rhyfeddol. Mae wedi newid gwyddoniaeth mewn nifer o feysydd, wedi ailysgrifennu gwerslyfrau ac wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi datblygiad cynaliadwy parhaus yr amgylchedd morol.
Rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o ymchwil ac effaith arloesol oddi ar fwrdd y Prince Madog.