Gweinidogion yn cwrdd ag allforwyr Gogledd Cymru
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, James Davies, a鈥檙 Gweinidog Busnes a Masnach, Nigel Huddleston, wedi ymweld 芒 busnesau ledled Gogledd Cymru.

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, James Davies, a鈥檙 Gweinidog Busnes a Masnach, Nigel Huddleston, wedi ymweld 芒 busnesau ledled Gogledd Cymru i ddysgu mwy am eu gwasanaethau a鈥檙 ffordd y maent yn allforio eu nwyddau, ac i dynnu sylw at sut y gallant fanteisio ar fargeinion masnach y DU gydag Awstralia a Seland Newydd ar 么l iddynt ddod i rym.
Ymysg y busnesau yr aethant i ymweld 芒 nhw ar 23 Chwefror mae Fifth Wheel Company o Lanelwy, busnes bach a chanolig sy鈥檔 arbenigo mewn dylunio a gweithgynhyrchu carafanau moethus, ac Air Covers yn Wrecsam sy鈥檔 dylunio, yn gweithgynhyrchu, ac yn allforio gorchuddion awyrennau i fwy na 50 o wledydd. Mae鈥檙 ddau fusnes eisoes yn allforio eu cynnyrch i Awstralia a Seland Newydd, a gallent allforio mwy fyth pan ddaw鈥檙 cytundebau masnach i rym.
Roedd y cwmn茂au eraill yn cynnwys Halen M么n, cynhyrchydd halen m么r ar Ynys M么n, sy鈥檔 allforio ei gynnyrch i fwy na 22 o wledydd ledled y byd, gan gynnwys De Korea, yr Unol Daleithiau, yr Emiradau Arabaidd Unedig a ledled Ewrop; a Silverlining Furniture yn Wrecsam, sy鈥檔 allforio 98% o鈥檜 cynnyrch.
Mae cytundebau masnach nodedig y DU gydag Awstralia a Seland Newydd yn gytundebau cynhwysfawr a modern, a fydd yn cael gwared ar dariffau ar yr holl gynnyrch sy鈥檔 cael eu hallforio o鈥檙 DU i Awstralia a Seland Newydd. Bydd hyn yn gwneud busnesau lleol ledled Cymru yn fwy cystadleuol yn y ddwy farchnad. Mae disgwyl i鈥檙 bargeinion ddod i rym eleni, a gallent roi hwb o 拢75 miliwn i economi Cymru.
Dywedodd Dr James Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Mae gogledd Cymru yn gartref i gannoedd o fusnesau anhygoel, gyda llawer ohonynt yn allforio eu cynnyrch ledled y byd.
Roedd yn wych ymweld 芒 rhai ohonynt, a chlywed sut gall Llywodraeth y DU greu rhagor o gyfleoedd i鈥檞 helpu i dyfu a dod 芒 rhagor o swyddi a ffyniant i鈥檔 cymunedau.
Dywedodd Nigel Huddleston, Gweinidog Gwladol yr Adran Fusnes a Masnach:
Roedd hi鈥檔 wych dod i Gymru i weld teithiau allforio byd-eang ac ysbrydoledig busnesau lleol 芒鈥檓 llygaid fy hun, ac i ddysgu am y cynnyrch gwych a fydd yn elwa o鈥檔 bargeinion masnach arloesol ar 么l iddynt ddod i rym.
Bydd cael gwared ar dariffau o dan ein cytundebau gydag Awstralia a Seland Newydd yn help i fusnesau yng Nghymru 鈥� gan gynnwys y rhai rydw i wedi cael y pleser o ymweld 芒 nhw 鈥� i allforio mwy, i gefnogi swyddi, ac i dyfu ein heconomi.
Byddwn yn annog busnesau ledled Cymru a gweddill y DU i fanteisio ar y cyfleoedd anhygoel sy鈥檔 cael eu creu.
Mae鈥檙 DU wedi negodi a llofnodi Cytundeb Masnach Rydd gydag Awstralia a fydd yn helpu i godi鈥檙 gwastad yn y DU, gan sicrhau manteision i drefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig ledled y wlad.
Mae disgwyl y bydd hyn yn arwain at gynnydd o 53% yn y masnachu gydag Awstralia, yn rhoi hwb o 拢2.3 biliwn i鈥檙 economi, ac yn ychwanegu 拢900 miliwn at gyflogau aelwydydd yn y tymor hir.
Mae disgwyl i Gytundeb Masnach Rydd roi hwb o tua 拢60 miliwn i economi Cymru. Roedd dros 450 o fusnesau yng Nghymru wedi allforio gwerth 拢110 miliwn o nwyddau i Awstralia yn 2020.
Cafodd y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd ei lofnodi ar 28 Chwefror 2022.
Ers Brexit, dyma ail gytundeb masnach y DU i鈥檞 negodi o鈥檙 newydd gyda gwlad y tu allan i鈥檙 UE. Gallai arwain at gynnydd o bron i 60% yn y masnachu gyda Seland Newydd, rhoi hwb o 拢800 miliwn i economi鈥檙 DU, ac ychwanegu 拢200 miliwn at gyflogau aelwydydd yn y tymor hir. Roedd dros 200 o fusnesau yng Nghymru wedi allforio gwerth 拢23 miliwn o nwyddau i Seland Newydd yn 2020.