Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn symud swyddi i Gymru
Mae tua 500 o swyddi鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael eu symud i Gymru fel rhan o鈥檙 rhaglen Places for Growth, i helpu i godi鈥檙 gwastad mewn cymunedau.

Mae鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder yn symud mwy o swyddi i Gymru i ledaenu cyfleoedd * Tua 500 o swyddi鈥檔 symud i Gymru * Mae鈥檙 datblygiadau hyn yn rhan o鈥檙 rhaglen Places for Growth sy鈥檔 symud swyddi鈥檙 gwasanaeth sifil allan o Lundain ac yn codi鈥檙 gwastad mewn cymunedau * Bydd y system gyfiawnder yn gallu manteisio ar hyd yn oed mwy o arbenigedd y tu allan i Lundain a De Ddwyrain Lloegr
Mae鈥檙 Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd swyddfeydd rhanbarthol newydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn creu 500 o swyddi newydd yng Nghymru, fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i godi鈥檙 gwastad mewn cymunedau.
Bydd y swyddi鈥檔 ehangu presenoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal 芒 lleoli rolau ychwanegol yng Ngogledd Cymru.
Bydd saith Canolfan Cydweithio ym maes Cyfiawnder yn cael eu hagor ochr yn ochr 芒 chyfres o is-swyddfeydd wrth i raglen Places for Growth y llywodraeth barhau i symud rolau鈥檙 gwasanaeth sifil allan o Lundain ac yn nes at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd y cynllun yn sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang y dalent ledled Cymru a Lloegr gyda 22,000 o swyddi鈥檔 symud allan o brifddinas Lloegr erbyn 2030.
Mae bron i 70 y cant o weithlu鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder eisoes wedi鈥檌 leoli y tu allan i Lundain a De Ddwyrain Lloegr, a bydd hyn yn golygu y bydd dros 2,000 o swyddi mewn meysydd fel cyllid, adnoddau dynol a digidol yn cael eu symud erbyn 2030, gyda 500 o鈥檙 rheini鈥檔 dod i Gymru.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, yr Arglwydd Ganghellor a鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Dominic Raab:
Mae鈥檙 Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ledaenu cyfleoedd yn fwy cyfartal ar draws cymunedau a mynd i鈥檙 afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol.
Drwy gael mwy o鈥檔 staff y tu allan i Lundain, gallwn recriwtio鈥檙 bobl orau lle bynnag y maen nhw鈥檔 byw fel bod y system gyfiawnder yn elwa o gefndiroedd, safbwyntiau a phrofiadau mwy amrywiol.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ein prif nod yw codi鈥檙 gwastad ym mhob rhan o鈥檙 DU ac mae鈥檙 ymrwymiad hwnnw鈥檔 cynnwys darparu mwy o swyddi a chyfleoedd o fewn Llywodraeth y DU.
Rydym eisiau manteisio i鈥檙 eithaf ar dalent a photensial gweithlu Cymru a bydd symud cannoedd o swyddi i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn ein helpu i gyflawni鈥檙 amcan hwnnw.
Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol dros ben ar gyfer Cymru a fydd yn sicrhau twf ac arloesed dros y blynyddoedd nesaf, ac mae adleoli rhagor o swyddi yn y gwasanaeth sifil yn rhan o鈥檙 pecyn hwnnw.
Bydd y Canolfannau Cydweithio newydd ym maes Cyfiawnder yn swyddfeydd mawr gyda chymysgedd o ddesgiau traddodiadol, ardaloedd cydweithio, ac ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi. Byddant yn galluogi staff i weithio wyneb yn wyneb mewn rolau ym maes cyllid, digidol ac adnoddau dynol yn ystod cyfarfodydd a sesiynau hyfforddiant yn Leeds, Lerpwl, Nottingham, De Tyneside, Caerdydd, Ipswich a Brighton.鈥�
Bydd staff hefyd wedi鈥檜 lleoli mewn Swyddfeydd Lloeren rhanbarthol newydd, gan gynnwys desgiau gwaith mewn adeiladau sy鈥檔 bodoli eisoes, fel y llysoedd.
Dywedodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Stephen Barclay AS:
Mae鈥檔 wych gweld y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnig mwy o gyfleoedd ledled y DU drwy agor saith swyddfa newydd ledled Cymru a Lloegr, sy鈥檔 dangos yn glir uchelgais y llywodraeth i godi鈥檙 gwastad mewn cymunedau lleol drwy ddarparu rhagolygon gyrfa tymor hir i鈥檞 hardal yn hytrach na chanolbwyntio鈥檔 llwyr ar ganol Llundain fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
Drwy ein Cynllun Places for Growth, rydyn ni鈥檔 dod 芒 mwy o gyfleoedd a phenderfyniadau yn nes at y cymunedau rydyn ni鈥檔 eu gwasanaethu.
Dywedodd Antonia Romeo, Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder:
Mae ehangu proses recriwtio鈥檙 Weinyddiaeth yn hanfodol, nid yn unig am ei fod yn creu cyfleoedd ond am ei fod yn ein helpu i fod yn fwy arloesol a gwneud penderfyniadau gwell.
Bydd symud dros 2,000 o rolau鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder o Lundain a De Ddwyrain Lloegr erbyn 2030 ac agor swyddfeydd rhanbarthol newydd ledled Cymru a Lloegr yn helpu i sicrhau ein bod yn cyflogi鈥檙 bobl fwyaf talentog o bob ardal a chefndir i helpu i ddarparu ar gyfer y gymdeithas rydym yn ei gwasanaethu.
Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn dilyn esiampl sawl adran arall o Lywodraeth y DU sydd wedi cadarnhau eu bod yn symud miloedd o swyddi yn y gwasanaeth sifil allan o Lundain, gan wasanaethu鈥檙 cymunedau maen nhw鈥檔 eu cynrychioli yn well fel Caerdydd, Wolverhampton a Glasgow. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys y Swyddfa Gartref, yr Adran Codi鈥檙 Gwastad, yr Adran Tai a Chymunedau, yr Adran Masnach Ryngwladol a Swyddfa鈥檙 Cabinet. Bydd swyddi gwag yn cael eu hail-hysbysebu鈥檔 genedlaethol, yn hytrach na鈥檜 clymu i leoliad. O weithredu fel hyn, rydym wedi gweld bod y rhan fwyaf o鈥檙 gweithwyr newydd sy鈥檔 cael eu recriwtio wedi鈥檜 lleoli y tu allan i Lundain.