Datganiad i'r wasg

Dewis Sir Fynwy fel safle Safle Arbrofi 5G i wella cysylltedd yng nghefn gwlad

拢25m i brosiectau 5G ar ben-blwydd Strategaeth Ddigidol y DU

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
5g

5g

  • Safleoedd arbrofi ar draws y DU gyfan i arwain ymdrechion i wneud y DU yn arweinydd byd mewn 5G
  • Cydweithrediad rhwng y sector cyhoeddus a鈥檙 sector preifat yn archwilio manteision 5G i gymunedau gwledig, twristiaeth a gofal iechyd
  • Y llywodraeth yn tynnu sylw at y cynnydd hyd yma ar ei strategaeth i greu economi ddigidol sy鈥檔 addas ar gyfer y dyfodol
  • Bydd 5GRIT yn creu safle arbrofi 5G ar gyfer achosion defnydd gwledig yn Sir Fynwy, Cymbria, Northumberland, Gogledd Swydd Efrog, Swydd Lincoln, Swydd Inverness a Swydd Perth.

Ar ben-blwydd cyntaf ei Strategaeth Ddigidol, cyhoeddodd y llywodraeth heddiw enillwyr cystadleuaeth 拢25 miliwn i baratoi鈥檙 ffordd ar gyfer cyflwyno technoleg 5G yn y DU i鈥檙 dyfodol.

O Ynysoedd Orkney i Orllewin Lloegr, mae鈥檙 chwe phrosiect a arweinir gan fusnesau bach a chanolig (SMEs), prifysgolion ac awdurdodau lleol yn arddangos yr arloesi, yr adnoddau a鈥檙 arbenigedd gorau yn y DU.

Byddant yn profi 5G ar draws ystod o gymwysiadau, gan gynnwys ffermio clyfar gyda dronau, defnyddio鈥檙 鈥楻hyngrwyd Pethau鈥� (IoT) i wella gofal iechyd yn y cartref, cynyddu cynhyrchiant y sector gweithgynhyrchu a chynyddu manteision ceir hunan-yrru i鈥檙 dyfodol.

Maent yn rhan o ymrwymiad gwerth 拢1 biliwn drwy鈥檙 Strategaeth Ddigidol i gadw Prydain ar y blaen o ran cysylltedd drwy gyflymu鈥檙 broses o weithredu seilwaith digidol y genhedlaeth nesaf a hyrwyddo cyfleoedd busnes 5G newydd.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae cyhoeddiad heddiw yn enghraifft arall o sut mae Strategaeth Ddigidol Llywodraeth y DU yn cyflawni ar gyfer pob cwr o Gymru.

Bydd y prosiectau hyn sydd wedi鈥檜 teilwra鈥檔 arbennig yn gweddnewid ein cymunedau mwyaf gwledig, gan archwilio ffyrdd arloesol o ddefnyddio 5G i ddatblygu鈥檙 diwydiant twristiaeth a鈥檙 diwydiant amaeth, sy鈥檔 hollbwysig i economi Cymru.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith cyfathrebu o ansawdd i roi hwb i gynhyrchiant a chapasiti ein busnesau lleol, ac fel bod yr holl drigolion yn gallu cadw i fyny 芒 gweddnewidiad digidol y DU.

Meddai Margot James, Gweinidog Gwladol dros y Diwydiannau Creadigol a Digidol:

Flwyddyn ers lansio鈥檙 Strategaeth Ddigidol, rydym yn cyflawni ar ein hymrwymiadau i greu Prydain sy鈥檔 addas ar gyfer y dyfodol, gydag economi ddigidol ffyniannus sy鈥檔 gweithio i bawb.

Bydd y prosiectau arloesol a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i ddatgloi 5G a sicrhau bod manteision y dechnoleg newydd hon yn cael eu teimlo ar draws yr economi a鈥檙 gymdeithas ehangach.

Bydd pob safle arbrofi yn derbyn rhwng 拢2 miliwn a 拢5 miliwn mewn grantiau gan y llywodraeth, fel rhan o fuddsoddiad o 拢41m i gyd gan y sector preifat a chyllid arall o鈥檙 sector cyhoeddus, i archwilio technolegau cyfathrebu symudol 鈥榩umed genhedlaeth鈥� newydd sy鈥檔 defnyddio sbectrwm amledd uchel i ddarparu cyflymder rhyngrwyd a fydd dros gigadid yr eiliad.

Meddai Yr Athro Rahim Tafazolli, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr 5GIC ac arweinydd Rhwydweithiau 5GUK:

Mae鈥檙 Ganolfan Arloesi 5G yn falch dros ben o fod wedi cael chwarae rhan arweiniol i gefnogi rhaglen treialon a safleoedd arbrofi 5G DCMS y DU. Mae 5G yn cynrychioli gweddnewidiad sylfaenol yn y r么l y mae technoleg symudol yn ei chwarae mewn cymdeithas, gan gyflenwi gwasanaethau newydd cyfoethog mewn sectorau megis cyllid, trafnidiaeth, adwerthu ac iechyd. Bydd yn sbarduno gwerth triliynau o ddoleri o weithgareddau ychwanegol drwy economi ddigidol y byd a bydd rhaglen DCMS yn sicrhau bod y DU yn dal i fod ar y blaen yn y ras fyd-eang gyffrous hon.

Cafodd y Strategaeth Ddigidol ei lansio ym mis Mawrth 2017 i roi ysgogiad parhaus i sector digidol, sector telathrebu a sector cysylltedd y DU, ac i fuddsoddi mewn diwydiannau, seilwaith a sgiliau. Mae seilwaith hefyd yn un o sylfeini hanfodol ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern, a nod y ddwy yw creu鈥檙 amodau er mwyn i economi ddigidol y DU ffynnu; drwy oresgyn y rhwystrau rhag twf a hybu swyddi mwy sgilgar 芒 chyflogau uwch i鈥檙 dyfodol.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ceir bron i 60,000 o fusnesau technolegol yn y DU, ni sydd 芒鈥檙 lleoliad gorau o hyd ar gyfer buddsoddi mewn technoleg yn Ewrop ac rydym wedi cadarnhau ein safle fel arweinydd yn rhai o鈥檙 sectorau digidol mwyaf arloesol a strategol bwysig.

Yn benodol, mae sector technoleg ariannol y DU yn fwy nag un Efrog Newydd neu weithlu technoleg ariannol Singapore, Hong Kong ac Awstralia gyda鈥檌 gilydd. Mae Technoleg Iechyd, sy鈥檔 cael ei sbarduno gan anghenion y GIG, yn awr hefyd yn sector digidol sy鈥檔 ffynnu yn y DU.

Gan gyflawni ar ei haddewidion i ddiogelu鈥檙 economi ar gyfer y dyfodol drwy鈥檙 Strategaeth Ddigidol, yn y deuddeg mis diwethaf yn unig, mae鈥檙 Llywodraeth:

  • Wedi cyflwyno dros 2.5 miliwn o gyfleoedd hyfforddiant sgiliau digidol am ddim mewn diwydiant fel rhan o鈥檙 Bartneriaeth Sgiliau Digidol, gyda bron hanner miliwn o addewidion newydd wedi鈥檜 gwneud;
  • Wedi cyrraedd ei tharged i 95% o eiddo i gael mynediad i fand eang cyflym iawn erbyn diwedd 2017;
  • Wedi ymrwymo buddsoddiad o 拢75 miliwn i gyflawni argymhellion allweddol yn yr adolygiad annibynnol o ddeallusrwydd artiffisial (AI), gan gynnwys Canolfan newydd ar gyfer Moeseg Data ac Arloesi;
  • Wedi cyhoeddi ei bod yn creu cymrodoriaethau a chyllid AI newydd ar gyfer 450 o ymchwilwyr PhD i sicrhau sefyllfa鈥檙 DU ar flaen y farchnad AI fyd-eang;
  • Wedi cadarnhau buddsoddiad o 拢21m yn Tech Nation i sefydlu canolbwyntiau rhanbarthol ar draws y wlad, gan ehangu鈥檙 mynediad i raglenni hyfforddiant, mentora a datblygu Tech City;
  • Wedi cyhoeddi 拢84m i roi hwb i sgiliau 8,000 o athrawon cyfrifiadureg i sicrhau bod gan bob ysgol uwchradd athro cyfrifiadureg cymwysedig erbyn 2022.
  • Wedi cyhoeddi cynllun i ddatgloi dros 拢20 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf tymor estynedig mewn cwmn茂au arloesol drwy ddyblu lwfans blynyddol y Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau a鈥檙 cynllun Ymddiriedolaeth Cyfalaf Menter;
  • Wedi cefnogi ac ariannu鈥檙 Siarter Doniau Technolegol, cynllun sy鈥檔 cael ei arwain gan ddiwydiant sydd wedi cael dros 170 o lofnodion i ymrwymo i amrywiaeth mewn technoleg;
  • Wedi helpu i greu amgylchedd ffantastig ar gyfer busnesau technolegol camau cynnar 鈥� mae dros 200 o raglenni hybu a 160 o raglenni cyflymu wedi鈥檜 lleoli ar draws y DU sy鈥檔 cynnig cyfuniad o gyllid, mentora a hyfforddiant;
  • Wedi cyflwyno a diweddaru鈥檙 strategaeth 5G i gyflenwi darpariaeth o ansawdd da lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teithio, gan gynnwys nodi camau gweithredu i sicrhau bod y prif reilffyrdd, y prif ffyrdd a 鈥榣lecynnau鈥� cysylltedd yn barod am 5G.

Mae鈥檙 Strategaeth Ddigidol hefyd yn canolbwyntio ar ennyn a chynnal hyder y cyhoedd mewn busnesau sy鈥檔 defnyddio data, gan sicrhau hefyd y gall grym data gael ei ddatgloi ar gyfer arloesi.

Mae llawer o sefydliadau angen gweithredu o hyd i sicrhau bod y data personol sydd ganddynt yn ddiogel a鈥檜 bod yn barod am y Bil Diogelu Data, a ddaw鈥檔 gyfraith ar 25 Mai. Bydd yn rhoi i ddinasyddion y DU fwy o reolaeth dros sut caiff eu data ei ddefnyddio, a rhoi hawliau newydd i symud neu ddileu data personol.

Bydd ymgyrch newydd, dan arweiniad Swyddfa鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth, yn paratoi SMEs i gydymffurfio 芒鈥檙 cyfreithiau hyn a ddiweddarwyd ar gyfer yr oes ddigidol. Bydd yn annog busnesau i gael mynediad at y cyfoeth o gefnogaeth ac arweiniad am ddim sydd ar gael gan yr ICO.

Mae鈥檙 Strategaeth hefyd yn adlewyrchu uchelgais y Llywodraeth i wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel i blant drwy ei gwneud yn ofynnol i wirio oedran cyn cael mynediad i wefannau pornograffig masnachol yn y DU. Ym mis Chwefror, dynodwyd Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) yn ffurfiol fel y corff rheoleiddio dilysu oedran.

Ein blaenoriaeth yw gwneud y rhyngrwyd yn fwy diogel i blant a chredwn mai鈥檙 ffordd orau o wneud hyn yw drwy gymryd amser i weithredu鈥檙 polisi鈥檔 iawn. Felly, byddwn yn caniat谩u amser i鈥檙 BBFC fel y corff rheoleiddio gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ei ganllawiau drafft sy鈥檔 cael eu lansio yn ddiweddarach yn y mis.

Er mwyn i鈥檙 cyhoedd a鈥檙 diwydiant baratoi ar gyfer dilysu oedran a chydymffurfio 芒 hynny, bydd y Llywodraeth hefyd yn sicrhau cyfnod o hyd at dri mis ar 么l i ganllawiau鈥檙 BBFC gael eu clirio gan y Senedd cyn i鈥檙 gyfraith ddod i rym. Rhagwelir y bydd dilysu oedran yn cael ei orfodi erbyn diwedd y flwyddyn.

Nodiadau i Olygyddion:

Bydd prosiect Sir Fynwy yn rhan o鈥檙 cynllun Safleoedd Arbrofi a Threialon 5G canlynol:

Safle Arbrofi Integredig Wledig 5G (5GRIT)

  • Sefydliad arweiniol: Quickline Communications
  • Grant: 拢2.1m

Bydd 5GRIT yn treialu ffyrdd arloesol o ddefnyddio technoleg 5G ar draws ystod o gymwysiadau gwledig, megis twristiaeth, amaeth clyfar a chysylltu cymunedau nad oes ganddynt ddarpariaeth dda, gan ddefnyddio sbectrwm a rennir yn y bandiau teledu a chyfuniad o hunan-ddarpariaeth ac ISPs lleol.

Y nod yn y pendraw yw sicrhau bod cysylltedd o ansawdd da ar gael ar draws Cymbria, Northumberland, Gogledd Swydd Efrog, Swydd Lincoln, Swydd Inverness, Swydd Perth a Sir Fynwy. Yma, bydd y consortiwm yn datblygu apiau realiti estynedig (AR) parod am 5G ar gyfer twristiaid ac yn ymchwilio i sut gall cysylltedd diwifr ystod uchel gynyddu cynhyrchiant bwyd yn y byd ffermio, gan gynnwys drwy ddefnyddio AR a system erial di-griw.

Meddai Steve Jagger, Rheolwr-Gyfarwyddwr Quickline Communications:

Rydyn ni鈥檔 teimlo y gall 5G ddatgloi potensial ardaloedd gwledig drwy roi gwell cysylltiadau i drigolion, busnesau, ffermwyr ac ymwelwyr. Mae ein consortiwm yn dwyn ynghyd fusnesau arloesol a Phrifysgolion arweiniol i wneud y freuddwyd 5G yn realiti.

  • Mae Ofcom heddiw wedi cyhoeddi dogfen drafod Enabling 5G in the UK sy鈥檔 datgan sut bydd yn cefnogi鈥檙 broses o raddol gyflwyno 5G.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mawrth 2018