Datganiad i'r wasg

Rhagor o arian ym mhocedi defnyddwyr Pontydd Hafren yn 2018

Ysgrifennydd Gwladol Cymru'n cyhoeddi y bydd tollau pontydd Hafren yn gostwng o 8 Ionawr ymlaen

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Second Severn Crossing

Bydd gan yrwyr sy鈥檔 defnyddio Pontydd Hafren ragor o arian yn eu pocedi o fis Ionawr y flwyddyn nesaf ymlaen, pan fydd y tollau i bob cerbyd yn cael ei gostwng, fel y cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, heddiw (15 Medi 2017).

Yn dilyn dychwelyd Pontydd Hafren i berchnogaeth gyhoeddus ar 8 Ionawr y flwyddyn nesaf, bydd y gyfradd dollau yn cael ei lleihau i bob gyrrwr yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghyllideb 2015.

Dyma fydd y tro cyntaf i鈥檙 tollau leihau ers eu cyflwyno ym 1966. Yn ogystal, ni fydd cynnydd yn y tollau ar 1 Ionawr 2018.

O 8 Ionawr 2018 ymlaen:

  • Bydd gyrwyr ceir yn talu 拢5.60 yn lle 拢6.70.
  • Bydd gyrwyr bysiau bach neu faniau yn talu 拢11.20, i lawr o 拢13.40
  • Bydd gyrwyr lor茂au a bysiau mawr yn talu 拢16.70 yn lle 拢20

Daw鈥檙 cyhoeddiad yn dynn ar sodlau鈥檙 cadarnhad y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dileu鈥檙 tollau鈥檔 gyfan gwbl ar ddiwedd 2018, gan gryfhau cysylltiadau economaidd a rhagolygon de Cymru a de orllewin Lloegr. Mae鈥檙 newyddion yn anfon negeseuon clir bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflawni鈥檙 addewid a wnaed gan y Prif Weinidog i bobl Cymru dri mis yn 么l i ddiddymu鈥檙 tollau.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn cyhoeddi鈥檙 newyddion i gynulleidfa o gynrychiolwyr busnes yng nghyfarfod Cyngor Rhanbarthol CBI Cymru yng Nghasnewydd, lle bydd hefyd yn amlinellu sut mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio i ymadael 芒鈥檙 Undeb Ewropeaidd mewn ffordd sy鈥檔 gweithio i鈥檙 Deyrnas Unedig gyfan.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Am gymaint o flynyddoedd, mae鈥檙 tollau ar bontydd Hafren wedi cael eu gweld fel rhwystr economaidd a symbolaidd i ffyniant Cymru yn y dyfodol. Bydd ein penderfyniad i leihau鈥檙 tollau - cyn eu diddymu鈥檔 gyfan gwbl - yn torri costau i fusnesau, ac i gymudwyr a thwristiaid fel ei gilydd - gan helpu i roi hwb i swyddi a masnach yng Nghymru ac ar draws de orllewin Lloegr.

Mae hyn unwaith eto鈥檔 dangos yn amlwg bod Cymru yn agored i fusnes, ac yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer dyfodol Cymru fel rhan o Deyrnas Unedig gref.

Amcangyfrifir y bydd diddymu鈥檙 tollau yn rhoi hwb o tua 拢100 miliwn y flwyddyn* i economi De Cymru, a gallai鈥檙 modurwr cyffredin arbed dros 拢1,400 y flwyddyn**.

Yn ogystal, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi heddiw ei hymateb i鈥檙 ymgynghoriad (DOLEN) ar ei chynigion i ostwng tollau Pontydd Hafren, a lansiwyd yn gynharach eleni. O ystyried yr ymatebion a gafwyd, mae鈥檙 Llywodraeth yn cadarnhau na fydd yn bwrw ymlaen 芒 haneru鈥檙 tollau, ond yn hytrach yn ymrwymo i ddiddymu鈥檙 tollau鈥檔 llwyr erbyn diwedd 2018.

Nodiadau i Olygyddion

  1. *Llywodraeth Cymru: Effaith Tollau Pontydd Hafren ar Economi Cymru, 30 Mai 2012
  2. **Yn seiliedig ar gost tagio misol o 拢117.92 dros 12 mis
  3. Ar 13 Ionawr, lansiodd y Llywodraeth ymgynghoriad, yn nodi cyfres o gynigion gyda鈥檙 bwriad o gyflawni gwelliannau ar y pontydd. Bu鈥檙 ymgynghoriad hwn yn agored am wyth wythnos tan 10 Mawrth.
  4. Gellir gweld yr ymateb i鈥檙 ymgynghoriad yma 鈥� ychwanegu dolen

  5. Cafodd Pont Hafren ei hadeiladu ym 1966 a chafodd ail groesfan ei chwblhau 30 mlynedd wedyn.

  6. Pan ddaw鈥檙 pontydd dan berchnogaeth gyhoeddus, byddant yn cael eu rhedeg gan Highways England. Yn flaenorol roeddent yn cael eu rhedeg gan Severn River Crossing plc.

  7. Agorwyd y Bont Hafren gyntaf ym mis Medi 1966, gan ddarparu cysylltiad uniongyrchol o draffordd yr M4 i Gymru, gyda tholl mewn lle i ddefnyddio鈥檙 bont er mwyn talu am gost y gwaith adeiladu. Roedd yn gyson weithredu dros ei chapasiti ac ym 1986 dywedodd y Llywodraeth bryd hynny y byddai ail bont yn cael ei hadeiladu.

  8. Ym 1988 cyhoeddwyd y byddai tendrau鈥檔 cael eu gwahodd gan gonsortia preifat er mwyn ariannu, adeiladu a gweithredu鈥檙 ail bont a bod yn gyfrifol am weithredu鈥檙 bont gyntaf. Ym 1990 dyfarnwyd y consesiwn i Severn River Crossing PLC (鈥淪RC鈥�). Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ebrill 1992 ac agorwyd yr ail bont ym mis Mehefin 1996.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Medi 2017