Datganiad i'r wasg

Mwy o ymwelwyr o'r DU yn heidio i Gymru

Mae nifer yr ymwelwyr sy鈥檔 dewis Cymru ar gyfer seibiant dros nos neu am y dydd wedi cynyddu

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Photo by DACHALAN

Mae nifer yr ymwelwyr sy鈥檔 dewis Cymru ar gyfer seibiant wedi cynyddu, yn 么l ffigurau a gyhoeddwyd heddiw (23 Hydref 2014).

Dengys arolwg i ymweliadau dydd a dros nos ym Mhrydain Fawr ar gyfer y cyfnod Ionawr-Gorffennaf 2014 bod y nifer o nosweithiau gwely ac ymweliadau dydd gan drigolion y DU wedi codi o鈥檜 cymharu 芒鈥檙 un cyfnod yn 2013.

O鈥檙 50.56m o wyliau dros nos a gymerwyd yn y DU yn ystod Ionawr-Gorffennaf 2014, roedd 8.4% o鈥檙 rhain i Gymru, cynnydd sylweddol ar y gyfran o 7.4% gofnodwyd dros yn yr un cyfnod yn 2013.

Mae鈥檙 newyddion am ymweliadau undydd hefyd yn galonogol. Bu 56 miliwn o ymweliadau undydd gan drigolion Prydain i Gymru rhwng mis Ionawr-Gorffennaf 2014, yn creu gwariant o 拢1.490 miliwn. Mae nifer y teithiau wedi cynyddu 9% o鈥檌 gymharu 芒 saith mis cyntaf 2013 (51 miliwn).

Mae鈥檙 hwb hwn mewn ymweliadau 鈥榗artref鈥� yn ategu鈥檙 ystadegau diweddar sy鈥檔 dangos bod nifer yr ymwelwyr rhyngwladol i Gymru wedi cynyddu 28% dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn sgil argymhelliad y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid gwneud mwy i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth yn rhyngwladol.

Croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson y newyddion:

Rydym yn gwybod bod gyda ni rywbeth arbennig i鈥檞 gynnig yma yng Nghymru - adeiladau hanesyddol diddorol, arfordiroedd syfrdanol, bwyd eithriadol a phobl hynod gyfeillgar 鈥� a rydym yn croesawu鈥檙 ffaith bod pobl ar draws y DU yn awr yn sylweddoli bod Cymru yn le gwych i ymweld ag ef. Gallwn nawr drosglwyddo鈥檙 neges hon ar draws y byd.

Mae鈥檙 ffigurau ymwelwyr diweddaraf yma yn newyddion gwych i鈥檙 diwydiant twristiaeth ac yn newyddion gwych i鈥檙 rhai ohonom sy鈥檔 mwynhau gweld ein gwlad yn cael ei werthfawrogi a鈥檌 fwynhau gan bobl o bob cwr o鈥檙 DU.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Hydref 2014