Datganiad i'r wasg

Buddsoddiad newydd mewn adfywio yn hybu twf a swyddi ym Mhort Talbot

Mwy na 拢20 miliwn mewn cyllid wedi'i gyhoeddi gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

More than 拢20 million announced for regeneration projects in the Port Talbot area.

  • Mwy na 拢20 miliwn mewn cyllid gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar gyfer tri chynllun adfywio lleol.
  • Bydd y buddsoddiad mawr hwn yn cynnal mwy na 270 o swyddi yn y gymuned gwaith dur.
  • Mae Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot wedi cyhoeddi mwy na 拢70 miliwn o gyllid yn ystod y naw mis diwethaf.

Bydd buddsoddiad newydd o 拢21.2 miliwn ar gyfer prosiectau adfywio yn cynnal mwy na 270 o swyddi ac yn gweld creu swyddi adeiladu ychwanegol yn ardal Port Talbot yn dilyn y cyhoeddiad a gynlluniwyd ar gyfer heddiw (22 Mai) o鈥檙 datganiad diweddaraf o gyllid gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot.聽

Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Bwrdd Pontio pan fydd yn cyfarfod heddiw, bydd cyllid o 拢21.2 miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer聽tri phrosiect adfywio arall yn ardal Port Talbot, a fydd yn dod 芒 buddion gwerth ychwanegol gros (GVA) amcangyfrifedig o 拢119 miliwn i鈥檙 economi leol.聽

Y聽tri phrosiect yw:

Sefydlu Cyfleuster Cynhyrchu Uwch Weithgynhyrchu (AMPF) a Chanolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero Net Cenedlaethol Glannau鈥檙 Harbwr, Port Talbot

  • 拢12.5 miliwn i helpu i sefydlu canolfan gynhyrchu a hyfforddi gwerth 拢35 miliwn i hyrwyddo hyfforddiant sgiliau carbon isel a sero net. Bydd yr AMPF yn cynhyrchu offer arbenigol ac yn profi cynhyrchion, gan uwchraddio uwch weithgynhyrchu yn y rhanbarth ac mae hefyd yn derbyn cyllid gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.聽

  • Mae鈥檙 AMPF yn un o dri phrosiect sy鈥檔 cyfrannu at sefydlu Ardal Arloesi yn yr Harbwr a fydd hefyd yn cynnwys prosiect Canolfan Pontio Diwydiannol o Garbon De Cymru (SWITCH) a gyhoeddwyd yn flaenorol a datblygu Parc Arloesi.

  • Bydd yr AMPF, gyda鈥檙 Ganolfan Ragoriaeth Sero Net Genedlaethol, yn cynnal 170 o swyddi ac yn ymgysylltu 芒 150 o gwmn茂au i gynhyrchu Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) o 拢89.1 miliwn. Bydd swyddi adeiladu ychwanegol hefyd yn cael eu creu gan y prosiect hwn.

  • Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero Net Genedlaethol yn darparu鈥檙 cyfleusterau a鈥檙 galluoedd i hyfforddi a datblygu鈥檙 gweithlu sydd eu hangen ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd, Ynni Gwynt Ar y M么r Arnofiol (FLOW) a chyfleoedd buddsoddi eraill yn y dyfodol.

Ailddatblygu Metal Box a Chanolfan Fusnes Sandfields (Llansawel a Phort Talbot)

  • Bydd y ddau brosiect hyn yn trosi ac ehangu dau adeilad presennol i ddarparu llety o ansawdd uchel i alluogi tenantiaid i ehangu a gwella mynediad at unedau busnes newydd, gan annog a chefnogi busnesau newydd a鈥檙 rhai sy鈥檔 ceisio tyfu. Mae galw sylweddol am ofod busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot y bydd y cyllid hwn yn helpu i fynd i鈥檙 afael ag ef.聽

  • Bydd cyfanswm o 拢8.7 miliwn o gyllid y Bwrdd Pontio yn ariannu鈥檙 prosiectau鈥檔 llawn, 拢6.9 miliwn ar gyfer Metal Box ac 拢1.8 miliwn ar gyfer Canolfan Fusnes Sandfields.

  • Gyda鈥檌 gilydd, amcangyfrifir y bydd yr ailddatblygiadau鈥檔 cynnal 101 o swyddi ac yn creu GVA net ychwanegol o 拢29.9 miliwn erbyn 2035.

Y buddsoddiad o 拢21.2 miliwn a gyhoeddwyd heddiw yw鈥檙 diweddaraf gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens ac sy鈥檔 cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraethau鈥檙 DU a Chymru, awdurdodau lleol, undebau a busnesau.

Ers rhyddhau鈥檙 cyllid cyntaf ym mis Awst 2024, mae wedi cyhoeddi mwy na 拢70 miliwn i ariannu hyfforddiant sgiliau i weithwyr a phrosiectau adfywio wrth i Tata Steel gyflawni ei gyfnod pontio i gynhyrchu dur 芒 ffwrnais arc trydan.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: 聽

Dywedon ni y bydden ni鈥檔 cefnogi gweithwyr dur Port Talbot, eu teuluoedd a鈥檜 busnesau sy鈥檔 ddibynnol ar Tata Steel.聽

Mae鈥檙 buddsoddiad diweddaraf hwn yn golygu bod mwy na 拢70 miliwn wedi鈥檌 gyhoeddi gan y Bwrdd Pontio mewn dim ond naw mis, gan gyflawni ein haddewid i鈥檙 gymuned.

Mae鈥檙 cynlluniau ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd, datblygu ynni gwynt ar y m么r arnofiol, cadwraeth cynhyrchu dur yn y dref a chyllid sylweddol ar gyfer adfywio i gyd yn golygu bod dyfodol disglair i Bort Talbot.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae ein hymrwymiad i sicrhau fod y rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan drawsnewidiad Tata, gan gynnwys y gweithlu, gadwyn gyflenwi a鈥檙 gymuned leol yn derbyn cefnogaeth yn parhau, nid yn unig yn y tymor byr, ond ymhell i鈥檙 dyfodol.

Rwy鈥檔 falch y bydd y buddsoddiad diweddaraf yma o gyllid Pontio Tata yn ategu at gyllid y Fargen Ddinesig ac yn datgloi cyfleoedd swyddi gwerthfawr, yn enwedig y rhai sy鈥檔 gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu gwerth uchel.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:

Wrth i ni gydweithio鈥檔 agos i gyflawni heriau datgarboneiddio, mae hi鈥檔 hanfodol ein bod ni hefyd yn cefnogi pobl a busnesau lleol i wneud y mwyaf o鈥檙 cyfleoedd sy鈥檔 dod yn ei sgil.聽

Mae鈥檙 buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw yn mynd i roi hwb sylweddol i鈥檔 gwaith parhaus gyda phartneriaid i hybu twf economaidd a darparu鈥檙 sgiliau sydd eu hangen ar bobl ar gyfer diwydiannau鈥檙 dyfodol.鈥澛�

Yn y misoedd i ddod, bydd degau o filiynau o bunnoedd聽o gyllid ychwanegol yn cael ei neilltuo i brosiectau twf ac adfywio ym Mhort Talbot, gan sicrhau bod swyddi diogel gyda chyflogau da ar gael yn yr ardal leol yn dilyn pontio Tata Steel i gynhyrchu dur mwy gwyrdd. 聽聽聽 Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo 拢2.5 biliwn o fuddsoddiad i ailadeiladu diwydiant dur y DU am ddegawdau i ddod wrth iddo ddatgarboneiddio.

Mae hyn yn ychwanegol at y 拢500 miliwn a ddyrannwyd i Tata Steel ym Mhort Talbot ar gyfer ffwrnais arc trydan, a gafodd gymeradwyaeth cynllunio yn ddiweddar.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Mai 2025