Stori newyddion

Adroddiad annibynnol yn dathlu effaith gadarnhaol y Lluoedd Cadetiaid yng Nghymru

Mae ymchwil newydd gyffrous wedi鈥檌 chyhoeddi sy鈥檔 dangos yr effaith gadarnhaol y mae鈥檙 Lluoedd Cadetiaid yn ei chael ar bobl ifanc, gwirfoddolwyr sy鈥檔 oedolion, a鈥檙 gymdeithas ehangach yng Nghymru.

Group of military cadets in uniform for the front cover of the 'Getting an Edge' report. Copyright: RFCA for Wales.

Comisiynwyd yr ymchwil gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru a鈥檌 gyflawni gan yr Athro Simon Denny, yr Athro Richard Hazenberg a Dr Claire Peterson-Young o Brifysgol Northampton.

Canfu鈥檙 astudiaeth fod aelodaeth o鈥檙 Lluoedd Cadetiaid wedi arwain at fwy o symudedd cymdeithasol, gwell canlyniadau addysgol a mwy o sgiliau cyflogadwyedd.

Dywedodd yr Athro Denny, prif awdur yr adroddiad 鈥楪etting an Edge: The Impact and Value of the Cadet Forces in Wales鈥�:

Mae pobl ifanc sydd wedi bod yn y Lluoedd Cadetiaid am ddwy flynedd neu fwy wedi datblygu rhinweddau, meithrin sgiliau, cael profiadau ac ennill cymwysterau sy鈥檔 rhoi mantais glir iddyn nhw dros eu cyfoedion sydd heb fod yn y cadetiaid wrth iddyn nhw wneud cais am addysg bellach ac addysg uwch, ac am swyddi.

Mae鈥檙 fantais hon yn arbennig o bwysig i鈥檙 bobl ifanc hynny sydd dan anfantais economaidd.

Mae gwirfoddolwyr sy鈥檔 oedolion hefyd yn elwa o fod yn aelodau o鈥檙 Lluoedd Cadetiaid o ran eu sgiliau a鈥檜 cymwysterau, gan arwain yn aml at gyfleoedd gyrfa gwell.

Fodd bynnag, mae鈥檙 Adroddiad yn nodi bod nifer y plant oed uwchradd sy鈥檔 aelodau o鈥檙 Lluoedd Cadetiaid yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU ac mae鈥檔 argymell y dylid mynd i鈥檙 afael 芒 hyn.

Dywed:

Mae nifer y cadetiaid yng Nghymru yn is na鈥檙 disgwyl, gyda dim ond 2.4% o blant cymwys yn rhan o鈥檙 Lluoedd Cadetiaid, o鈥檌 gymharu 4.2% ledled y DU. Mae cyfle i gynyddu nifer y plant sy鈥檔 aelodau o鈥檙 Lluoedd Cadetiaid er mwyn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 tangynrychiolaeth gymharol hon. Po fwyaf o blant sy鈥檔 gadetiaid, y mwyaf o blant fydd yn elwa o鈥檙 manteision sylweddol.

Mae鈥檙 Adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer y cadetiaid yng Nghymru sy鈥檔 ennill cymwysterau galwedigaethol yn cael ei gyfyngu gan y cyllid y gall y Lluoedd Cadetiaid ei ddarparu:

O ystyried y manteision sylweddol i bobl ifanc o ennill y cymwysterau hyn, a sefyllfa鈥檙 Lluoedd Cadetiaid fel rhan o鈥檙 ecosystem ddysgu yng Nghymru, mae dadl gref dros gael buddsoddiad (os bydd adnoddau鈥檔 caniat谩u) gan ddeiliaid cyllidebau y tu allan i鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn.

Meddai鈥檙 Athro Denny:

Mae鈥檙 Lluoedd Cadetiaid yng Nghymru yn darparu allbynnau a chanlyniadau sy鈥檔 helpu i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru ym meysydd tlodi plant, addysg, paratoi ar gyfer cyflogaeth, ac iechyd a lles.

Mae鈥檙 Lluoedd Cadetiaid yn bwysig i鈥檞 haelodau, ac i Gymru fel gwlad. Mae鈥檔 bwysig bod cyfraniad y Lluoedd Cadetiaid i Gymru yn cael ei gyfleu a鈥檌 ddeall yn glir gan lunwyr polis茂au, arweinwyr addysg a chyflogwyr.

I ddarllen yr Adroddiad yn llawn, cliciwch yma

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Awst 2024